Rhaglen Gyllido DPP 2008-2011

Ers 2001, mae’r Cyngor yn gyfrifol am weinyddu Rhaglen Gyllido DPP ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bydd y Rhaglen Gyllido yn rhoi cyfle i athrawon adnabod eu hanghenion datblygiad proffesiynol unigol a chael cyllid i fodloni’r anghenion hyn. Hyd at Fawrth 2008, mae rhyw 30,000 o athrawon eisoes wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau a gyllidwyd gan y Cyngor.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cytuno yn y cyfamser y cyllid canlynol er mwyn cefnogi’r Rhaglen:

2008/2009

2009/2010

£3 Miliwn

£3 Miliwn

Mae manylion y Rhaglen Gyllido ar gael yn y Llyfryn Gwybodaeth Rhaglen Gyllido DPP (Ebrill 2008- Mawrth 2011). Mae hwn yn cynnwys y prosiectau a ariennir, pwy sy’n gymwys i geisio a chyfarwyddiadau ar sut i gyflwyno ffurflen gais. Er mwyn lawrlwytho’r Llyfryn Gwybodaeth, cliciwch yma (266k PDF) neu cliciwch ar ‘Rhaglen Gyllido DPP 2008-2011’ sydd ar ochr chwith y tudalen, ac yna dilynwch yr arwyddion.

I weld a ydych yn gymwys ar gyfer noddiant, cliciwch ar ‘Rhaglen Gyllido DPP 2008-2011’ sydd ar ochr chwith y tudalen hwn, ac yna dilynwch yr arwyddion.

Y Prosiectau DPP
Yn ystod y cyfnod 2008-2011 bydd y Cyngor yn gweinyddu pump math o brosiect.

Noder – Gall athrawon ceision am gyllid ar unrhyw adeg. Dyrennir arian bellach ar sail cyntaf i’r felin.


Rhaid cael Adobe Acrobat Reader i ddarllen ffeiliau PDF a gellir lawrlwytho Adobe yn rhad ac am ddim oddi yma.