Cyllid Datblygiad Proffesiynol Cynnar (DPC)

Pan fydd ysgol a gynhelir yng Nghymru yn cyflogi athro sy’n ymgymryd â’r flwyddyn gyntaf neu’r ail flwyddyn o DPC, rhaid i’r ysgol gymryd y camau canlynol er mwyn sicrhau bod y cyllid priodol yn cael ei ryddhau i’r ysgol:

CAM 1 Wrth ddechrau’r flwyddyn gyntaf neu’r ail flwyddyn o DPC, dylai’r ysgol gyflwyno’r Ffurflen Gynllunio DPC briodol i GyngACC o fewn 10 diwrnod gwaith o ddechrau’r flwyddyn DPC fan hwyraf.

Wrth dderbyn y Ffurflen Gynllunio, bydd CyngACC yn gwirio bod y gweithgareddau DPC a gofnodir ar y cynllun yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd ac yn hysbysu’r ysgol am y canlyniad (gweler dogfen CyngACC Cyrchu Cyllid ar gyfer Sefydlu a Datblygiad Proffesiynol Cynnar i weld y meini prawf).

Gall ysgolion gysylltu â ChyngACC ar unrhyw adeg yn ystod blwyddyn DPC yr athro i wneud newidiadau neu ychwanegiadau i’r Ffurflen Gynllunio DPC wreiddiol a gyflwynwyd.

CAM 2

Wrth gwblhau’r flwyddyn gyntaf neu’r ail flwyddyn o DPC, dylai’r ysgol gyflwyno’r Ffurflen Werthuso DPC i GyngACC o fewn 15 diwrnod gwaith o ddiwedd y flwyddyn DPC, fan hwyraf.

Wrth dderbyn y Ffurflen Werthuso, bydd CyngACC yn gwirio bod y gweithgareddau DPC gwirioneddol a gwblhawyd, fel y cofnodir ar y gwerthusiad, yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd, ac yn hysbysu’r ysgol am y canlyniad.

Pan fydd CyngACC yn fodlon bod y gweithgareddau DPC yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd, bydd CyngACC yn rhyddhau cyllid i’r ysgol, hyd at £1,000.

Mae ragor o wybodaeth ar gael yn ymwneud â chyllid ar gyfer Sefydlu a’r raglen Sefydlu yn gyffredinol wrth clicio yma.

Gwaith papur sydd ei angen er mwyn sicrhau bod Cyllid DPC yn cael ei ryddhau

Rhestr wirio

  • Cyflwyno naill ai’r Ffurflen Gynllunio Blwyddyn Gyntaf o DPC neu’r Ffurflen Gynllunio Ail Flwyddyn o DPC i GyngACC pan fydd yr athro yn dechrau’r flwyddyn DPC
  • Cyflwyno naill ai’r Ffurflen Werthuso Blwyddyn Gyntaf o DPC neu’r Ffurflen Werthuso Ail Flwyddyn o DPC i GyngACC pan gwblheir blwyddyn o DPC

Yna caiff cyllid ei ryddhau i ysgolion gan GyngACC (bob blwyddyn ac yn ôl-weithredol), wrth dderbyn y Ffurflen Werthuso ac ar ôl gwirio cymhwysedd y gweithgarwch DPC a gwblhawyd fel y cofnodir ar y Ffurflen Werthuso.


Cysylltiadau

Dylid cyfeirio ymholiadau mewn perthynas â chyllid ar gyfer Sefydlu a DPC at Dîm Cyllido Sefydlu a DPC gan ddefnyddio un o’r opsiynau isod:

* Cyfeiriad – Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, 4 ydd Llawr, Tŷ Southgate, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW
* Ffôn - 029 20550350
* Ffacs - 029 20550360
* E-bost – sefydlu&dpc@gtcw.org.uk