Mae'r Adroddiad Gwerthuso ar gynllun peilot y rhaglen Athro Siartredig yn annog datblygiad pellach

chartered_teacher_group

 

Yn dilyn cynllun peilot dwy flynedd o fodiwlau Athro Siartredig, mae Tîm Gwerthuso Annibynnol, a arweiniwyd gan yr Athro David Egan, wedi adrodd yn ôl. Mae'r adroddiad yn cefnogi datblygu ymhellach y dyfarniad Athro Siartredig a rhaglenni yng Nghymru.

Os dymunwch ddarllen y Crynodeb Gweithredol neu'r adroddiad llawn, defnyddiwch y cysylltiadau isod.

 Mae'r Cyngor wedi rhoi copïau o'r adroddiad i'r Gweinidog dros Addysg, Jane Hutt, ac mae wedi argymell y dylai Llywodraeth y Cynulliad gyllido rhaglen ar ôl iddi gael ei phrif ffrydio o fis Medi 2010. Mae swyddogion wedi addo y ceir penderfyniad gan y Gweinidog ynghylch datblygiad y rhaglen Athro Siartredig yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

PDF_icon_small Gwerthusiad o'r Cynllun Peilot Athro Siartredig yng Nghymru - Crynodeb Gweithredol
PDF_icon_small

Gwerthusiad o'r Cynllun Peilot Athro Siartredig yng Nghymru - Adroddiad Llawn