Amdanom Ni

Beth yw Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru?

Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngACC) yw’r corff proffesiynol hunanreoleiddiol statudol i’r proffesiwn addysgu yng Nghymru.

Ein nodau yw:

  • cyfrannu at wella safonau addysgu ac ansawdd dysgu
  • cynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol ymhlith athrawon er lles y cyhoedd.

Rydym yn gweithio i godi statws y proffesiwn trwy fwy o ddealltwriaeth ar ran y cyhoedd o’r hyn y mae addysgu yn ei olygu.

Pwy sydd ar y Cyngor?

Mae’r Cyngor yn cynnwys 25 o aelodau; athrawon a etholir gan eu cydweithwyr yw deuddeg ohonynt. Penodir naw aelod yn dilyn enwebiadau gan yr undebau athrawon a sefydliadau addysgol eraill. Mae pedwar aelod yn cael eu penodi’n uniongyrchol gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cyllid

Er mwyn sicrhau ein bod yn annibynnol ar y llywodraeth, mae CyngACC yn ariannu ei hun o’r ffioedd cofrestru blynyddol y mae athrawon yn eu talu.

Swyddogaeth y Cyngor

Mae tair swyddogaeth gan CyngACC:

Swyddogaeth rheoleiddio

Rydym yn cadw Cofrestr athrawon cymwys yng Nghymru. Mae’n rhaid i bob athro cymwys sy’n addysgu yn ysgolion y wladwriaeth yng Nghymru gofrestru gyda CyngACC.

Rydym yn nodi’r hyn a ddisgwylir yn broffesiynol gan athrawon yn y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol.

Rydym yn gyfrifol am ymchwilio a gwrando achosion yn erbyn athrawon cofrestredig sydd wedi’u cyhuddo o gamymddygiad proffesiynol neu anghymhwysedd.

Swyddogaeth cynghori

Un o’n prif swyddogaethau yw cynghori Llywodraeth Cynulliad Cymru a sefydliadau eraill ar faterion yn ymwneud ag addysgu, er enghraifft, datblygiad proffesiynol parhaus a recriwtio, cadw a chyflenwi athrawon. Rydym yn gwneud hyn trwy lunio safleoedd polisi a chyngor a thrwy ymateb i ymgynghoriadau.

Rôl Weithredol

Gallwn gyflawni gweithgareddau i hybu datblygiad proffesiynol parhaus athrawon a recriwtio athrawon. Ar hyn o bryd rydym yn gweinyddu rhaglenni ariannu dros Lywodraeth Cynulliad Cymru sydd â’r bwriad o ddiwallu anghenion athrawon o ran datblygiad proffesiynol yn ystod eu tair blynedd gyntaf.

Rydym hefyd yn penderfynu ar ddyfarnu Statws Athro Cymwys ac yn rhoi tystysgrifau ymsefydlu i athrawon newydd sy’n bodloni’r safon ofynnol ar ôl blwyddyn o addysgu. Ni hefyd yw’r corff apelio annibynnol i athrawon sydd eisiau apelio yn erbyn canlyniad eu blwyddyn ymsefydlu.

Cysylltwch â ni

Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru
9fed Llawr, Eastgate House
35-43 Ffordd Casnewydd
Caerdydd, CF24 0AB

Ffôn: 029 2046 0099
Ffacs: 029 2047 5850
Twitter: http://twitter.com/#gtcwales
E-bost: gwybodaeth@gtcw.org.uk neu