Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru
9fed Llawr, Eastgate House
35-43 Ffordd Casnewydd
Caerdydd, CF24 0AB
Ffôn: 029 2046 0099
Ffacs: 029 2047 5850
Twitter: http://twitter.com/#gtcwales
E-bost: gwybodaeth@gtcw.org.uk neu
Traddodwyd Darlith Addysg Cymru 2011 gan Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru, ar 3 Hydref.
Mae recordiad o'r Ddarlith ar gael yma nawr.

Digwyddiadau’r Cyngor sydd i Ddod i'w gweld yma.

Cynhaliwyd Darlith Addysg Cymru, y gyntaf o’i math, nos Lun 4ydd Hydref 2004 yn yr Amgueddfa a’r Oriel Genedlaethol, Parc Cathays, Caerdydd.
Mynychwyd y digwyddiad agoriadol a drefnwyd gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru gan westeion amlwg y byd addysg: yn eu plith roedd Gweinidog Addysg y Cynulliad, Jane Davidson, Aelodau’r Cynulliad, Cyfarwyddwyr Addysg awdurdodau addysg lleol, swyddogion undebau athrawon, llunwyr polisi, arweinwyr Addysg Uwch ac Addysg a Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon, penaethiaid ac athrawon.
Esboniodd Prif Weithredwr CyngACC, Gary Brace: “Roedd y nod i greu dyddiad allweddol yn y calendr addysgol i dynnu’r holl reiny sy’n dylanwadu ar ac yn cyflwyno addysg yng Nghymru at ei gilydd i drafod materion cyfredol yng ngoleuni agenda addysg gynyddol unigryw yng Nghymru.
“Mae Darlith Addysg Cymru’n ymwneud gymaint â chlywed am syniadau dyfeisgar newydd a thrafod y meddylfryd cyfredol ag y mae’n ymwneud â rhoi cyfle i’r rheiny sy’n gweithio ym maes addysg ddod at ei gilydd a rhyngweithio.
“Y gobaith yw y bydd y ddarlith flynyddol, y gyntaf o’i math, yn troi’n ddigwyddiad ‘hanfodol’ ar gyfer yr holl reiny â diddordeb mewn llunio dyfodol ein system addysg.”
Agorwyd y gyfres gan yr Athro John Andrews CBE, cyn-gadeirydd Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, gyda’r pwnc ‘Addysgu Yfory’, gan archwilio’r sialensau sy’n wynebu’r proffesiwn addysgu a’r system addysg yng Nghymru.
Defnyddiodd John Andrews y ddarlith I ddadlau bod athrawon yn cael eu “gorweithio a’u tanddefnyddio” ac I barhau â’r ddadl ynghylch materion recriwtio a chadw athrawon gan gynnwys y cyflenwad gormodol o athrawon cynradd a’r duedd gynyddol tuag at ymddeol yn gynnar o’r maes addysgu.
Trafododd hefyd y materion allweddol a fydd yn wynebu athrawon yn y dyfodol: y rôl ehangach i ysgolion mewn addysg barhaus yn y gymuned leol; sut bydd camau technolegol yn dylanwadu ar ddulliau addysgu yn y dyfodol; rôl athrawon fel ‘rheolwyr dysg’ a phwysigrwydd rhwydweithiau addysgu I rannu arfer gorau.
Gellir lawrlwytho copi o’r ddarltih drwy glicio yma (PDF 540k)