Mae CyngACC wedi sefydlu grŵp ymgynghorol o athrawon, y gofynnir am eu barn ynghylch ystod o faterion, gan gynnwys:
- materion penodol yn ymwneud ag addysgu a dysgu
- ymgynghoriadau CyngAC, y Cynulliad neu sefydliadau eraill
- ynghylch CyngAC a'i waith
Sut rydw i'n ymuno?
Enw Cyntaf:
Cyfenw:
Dyddiad geni:
Cyfeiriad E-bost:
< Dywedwch wrth eich cydweithwyr am y cyfle hwn, hefyd.
Fydd hyn yn cymryd llawer o'm hamser?
Na fydd; byddwn yn eich e-bostio ddwy neu dair gwaith y flwyddyn, gyda gwahoddiad i ymateb dros e-bost i ymgynghoriad byr ynghylch mater penodol. Bydd yr holiadur yn cymryd 10-15 munud ar y mwyaf i'w gwblhau bob tro.
Pam y dylwn i gymryd rhan?
Un o brif rolau CyngAC yw darparu cyngor ar ran y proffesiwn addysgu yng Nghymru. Er ein bod yn gwneud hyn drwy weithio gydag undebau athrawon, awdurdodau lleol, colegau hyfforddi athrawon ac eraill, rydym yn meddwl ei bod hi'n hanfodol bod llais yr athro/athrawes unigol yn cael ei chlywed.
Ni waeth be fo’r cyfnod rydych chi'n addysgu ynddo, lle rydych chi'n byw, neu'ch profiad, rydym am i chi gael ffordd o ddylanwadu ar y broses benderfynu. Dyma'ch cyfle chi i ddweud eich dweud a lleisio eich barn chi.
Rydyn ni am glywed gan bob athro/athrawes, gan gynnwys athrawon newydd gymhwyso, athrawon profiadol, athrawon peripatetig, penaethiaid, dirprwyon neu athrawon sydd wedi ymddeol - mewn gwirionedd, unrhyw un sydd wedi cofrestru gyda ChyngACC.
Pa faterion gallech ofyn i mi amdanynt?
Efallai nad ydych yn ymwybodol bod Llywodraeth Cynulliad Cymru'n ymgynghori ar ystod eang o faterion yn ymwneud ag addysgu a dysgu. Er enghraifft, mae ymgynghoriadau blaenorol wedi cynnwys y canlynol:
- darpariaeth i bobl nad ydynt wedi cymhwyso fel athrawon i "addysgu" disgyblion
- y trefniadau ar gyfer Sefydlu, CPCP, y cyfnod Sylfaen a darpariaeth Gymraeg
- gwahanol ffyrdd o gymhwyso fel athro/athrawes
Pan fydd y Cynulliad yn ymgynghori ar faterion o'r fath, rydym am glywed eich barn, a fydd yn ei dro yn dylanwadu ar ymateb CyngAC i'r Cynulliad ar ran athrawon yng Nghymru. Yn yr un modd, os bydd Estyn neu sefydliad arall yng Nghymru'n ymgynghori ar faes sy'n berthnasol i addysgu, hoffwn gael eich barn.
O dro i dro, mae CyngAC hefyd yn datblygu ei gyngor penodol ei hun i'r Cynulliad ac eraill ynghylch mater allweddol yn ymwneud ag addysgu a dysgu. Er enghraifft, yn y gorffennol, rydym wedi ymchwilio i, a rhoi cyngor ar y canlynol:
- DPP
- recriwtio athrawon a'u cadw yng Nghymru
- fframwaith arolygu newydd Estyn
Alla i adael ar unrhyw bryd?
Gallwch, drwy e-bostio
Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.
Beth sy'n digwydd nesaf?
BByddwn yn eich cynnwys ar y rhestr o athrawon cofrestredig sydd eisoes wedi ymuno â’r fforwm. Y tro nesaf y bydd y Cyngor yn ymgynghori ynghylch mater penodol, cewch e-bost yn eich gwahodd i ymateb.