Cyllid Datblygiad Proffesiynol Cynnar (DPC)

PWYSIG

Trefniadau diwygiedig ar gyfer cyllido Sefydlu a DPC o 1af Medi 2012

Mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu diwygio'r trefniadau presennol ar gyfer Sefydlu a Datblygiad Proffesiynol Cynnar (DPC) yng Nghymru o 1af Medi 2012. Mae'n debyg mai'r prif newidiadau fydd:

• Rheoliadau Sefydlu diwygiedig, a fydd yn ceisio rhoi mwy o gysondeb i Sefydlu ar gyfer yr holl athrawon newydd gymhwyso (ANG) ledled Cymru a darparu mwy o hyblygrwydd er mwyn galluogi athrawon cyflenwi i gwblhau eu cyfnod Sefydlu yng Nghymru;

• rhoi terfyn ar gyllid DPC ar gyfer ANG sy'n dechrau Sefydlu o 1af Medi 2012, er y bydd ANG a ddechreuodd Sefydlu cyn y dyddiad hwn yn dal yn gymwys i gael cyllid DPC;

• cyflwyno gradd Meistr opsiynol mewn Arfer Addysgol (MEP) ar gyfer ANG sy'n dechrau Sefydlu yng Nghymru o 1af Medi 2012 ymlaen.

Mae CyngACC yn gweinyddu rhai rhannau o'r cyllid ar gyfer Sefydlu a DPC ar ran Llywodraeth Cymru. Felly, bydd yn ailgyhoeddi ei lyfryn gwybodaeth a'i ffurflenni presennol ynghylch cyllid Sefydlu a DPC i ysgolion yn barod at dymor yr hydref 2012, ar ôl i Lywodraeth Cymru ymgynghori ynghylch newidiadau yn y Rheoliadau Sefydlu.

Yng ngoleuni'r uchod, hysbysir athrawon ac ysgolion o'r canlynol:

• dylai'r holl staff sy'n ymwneud â darparu datblygiad proffesiynol mewn ysgolion ac ANG gadw llygad ar wefan Llywodraeth Cymru dros y misoedd nesaf i sicrhau eu bod yn hollol gyfarwydd â'r gofynion newydd o fis Medi 2012 ymlaen;

• ar gyfer ANG sy'n dechrau eu rhaglen Sefydlu o fis Medi 2012 ymlaen, arhoswch i'r ddogfennaeth ddiwygiedig gael ei chyhoeddi cyn cyflwyno unrhyw waith papur ar gyfer Sefydlu neu'r Radd Meistr i GyngACC;

• ar gyfer athrawon sy'n parhau â'u Sefydlu mewn ysgol newydd o fis Medi 2012 neu ar gyfer athrawon sy'n dechrau blwyddyn DPC o fis Medi 2012 ymlaen, cyflwynwch y gwaith papur presennol i GyngACC erbyn diwedd tymor yr haf 2012, os yw'n bosibl, ond cyn pen 10 niwrnod gweithio ar ôl dechrau cyfnod Sefydlu/blwyddyn DPC yr athro/athrawes, fan bellaf (sef 17eg Medi 2012).

Ceir manylion pellach gan y Tîm Cyllido Sefydlu a DPC ar 029 2046 0099, drwy e-bostio Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.

Pan fydd ysgol a gynhelir yng Nghymru yn cyflogi athro sy’n ymgymryd â’r flwyddyn gyntaf neu’r ail flwyddyn o DPC, rhaid i’r ysgol gymryd y camau canlynol er mwyn sicrhau bod y cyllid priodol yn cael ei ryddhau i’r ysgol:

CAM 1 Wrth ddechrau’r flwyddyn gyntaf neu’r ail flwyddyn o DPC, dylai’r ysgol gyflwyno’r Ffurflen Gynllunio DPC briodol i GyngACC o fewn 10 diwrnod gwaith o ddechrau’r flwyddyn DPC fan hwyraf.

Wrth dderbyn y Ffurflen Gynllunio, bydd CyngACC yn gwirio bod y gweithgareddau DPC a gofnodir ar y cynllun yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd ac yn hysbysu’r ysgol am y canlyniad (gweler dogfen CyngACC Cyrchu Cyllid ar gyfer Sefydlu a Datblygiad Proffesiynol Cynnar i weld y meini prawf).

Gall ysgolion gysylltu â ChyngACC ar unrhyw adeg yn ystod blwyddyn DPC yr athro i wneud newidiadau neu ychwanegiadau i’r Ffurflen Gynllunio DPC wreiddiol a gyflwynwyd. Gallai methu â hysbysu CyngACC o newidiadau i Ffurflenni Cynllunio olygu y bydd yr ysgol yn colli'r cyfle i gael cyllid.

BLWYDDYN GYNTAF DPC YN UNIG

O fis Medi 2011 ymlaen, bydd Llywodraeth Cymru’n cefnogi gweithgareddau datblygu yn ystod y flwyddyn gyntaf o DPC sy'n ymwneud â'r blaenoriaethau craidd canlynol yn unig:

  • Llythrennedd
  • Rhifedd
  • Lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad
  • ADY
  • Rheoli Ymddygiad
  • Ymarfer adfyfyriol

I gael gwybodaeth bellach ynglŷn â'r newidiadau i'r flwyddyn gyntaf o DPC ar gyfer Medi 2011 - Gorffennaf 2012, ewch i wefan Llywodraeth Cymru yn:

http://wales.gov.uk/topics/educationandskills/schoolshome/schoolfundingandplanning/trainingdevelopment/iepd/?lang=cy

O ganlyniad i'r newid hwn, bydd CyngACC yn cymeradwyo gweithgareddau DPC a nodir ar Ffurflenni Cynllunio Blwyddyn Gyntaf DPC sy'n perthyn i'r meysydd allweddol a restrir uchod yn unig. Pan na all swyddogion ganfod o'r wybodaeth a ddarperir ar y Ffurflen Gynllunio fod gweithgaredd yn ymwneud ag un neu fwy o'r meysydd allweddol, ni fydd CyngACC yn cymeradwyo'r gweithgaredd, a gofynnir am wybodaeth bellach.  Ni chaiff unrhyw gyllid DPC ei ryddhau ar gyfer gweithgareddau a gwblhawyd nad ydynt yn ymwneud â'r meysydd â blaenoriaeth. Mae'r arweiniad hwn yn disodli unrhyw arweiniad i'r gwrthwyneb a nodir yn y dogfennau canlynol:

Dogfen Wybodaeth 064/2008 – Llawlyfr Sefydlu a Datblygiad Proffesiynol Cynnar.

Cyrchu Cyllid ar gyfer Sefydlu a Datblygiad Proffesiynol Cynnar

 

CAM 2 Wrth gwblhau’r flwyddyn gyntaf neu’r ail flwyddyn o DPC, dylai’r ysgol gyflwyno’r Ffurflen Werthuso DPC i GyngACC erbyn y dyddiad a bennwyd gan GyngACC, ond erbyn diwedd blwyddyn DPC yr athro/athrawes fan bellaf.

Os bydd athro/athrawes yn gadael ei swydd cyn cwblhau blwyddyn DPC gyflawn rhaid cwblhau Ffurflen Drosglwyddo ynghyd â Ffurflen Werthuso Blwyddyn Gyntaf neu Ail Flwyddyn DPC ar ddiwedd cyflogaeth yr athro/athrawes yn yr ysgol.

Dylai ysgolion gysylltu â Thîm Cyllido Sefydlu a DPC CyngACC os bydd oriau contract athro/athrawes yn newid, os bydd athrawes yn dechrau cyfnod mamolaeth neu os bydd athro/athrawes yn absennol am gyfnod sylweddol yn ystod ei flwyddyn/ei blwyddyn DPC, gan y gallai amgylchiadau o’r fath effeithio ar y dyddiad pan fydd yr athro/athrawes yn cwblhau’r flwyddyn DPC.

Wrth dderbyn y Ffurflen Werthuso, bydd CyngACC yn gwirio bod y gweithgareddau DPC gwirioneddol a gwblhawyd, fel y cofnodir ar y gwerthusiad, yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd, ac yn hysbysu’r ysgol am y canlyniad.

Pan fydd CyngACC yn fodlon bod y gweithgareddau DPC yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd, bydd CyngACC yn rhyddhau cyllid i’r ysgol, hyd at £1,000.

Mae ragor o wybodaeth ar gael yn ymwneud â chyllid ar gyfer DPC a’r raglen DPC yn gyffredinol wrth clicio yma.

Gwaith papur sydd ei angen er mwyn sicrhau bod Cyllid DPC yn cael ei ryddhau

Rhestr wirio

  • Cyflwyno naill ai’r Ffurflen Gynllunio Blwyddyn Gyntaf o DPC neu’r Ffurflen Gynllunio Ail Flwyddyn o DPC i GyngACC pan fydd yr athro yn dechrau’r flwyddyn DPC
  • Cyflwyno naill ai’r Ffurflen Werthuso Blwyddyn Gyntaf o DPC neu’r Ffurflen Werthuso Ail Flwyddyn o DPC i GyngACC pan gwblheir blwyddyn o DPC

Yna caiff cyllid ei ryddhau i ysgolion gan GyngACC (bob blwyddyn ac yn ôl-weithredol), wrth dderbyn y Ffurflen Werthuso ac ar ôl gwirio cymhwysedd y gweithgarwch DPC a gwblhawyd fel y cofnodir ar y Ffurflen Werthuso

Funded by:

WG

Cysylltwch â'r Tîm Cyllid Sefydlu a DPC

Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru
9fed Llawr, Eastgate House
35-43 Ffordd Casnewydd
Caerdydd, CF24 0AB

Ffôn: 029 2046 0099
Ffacs: 029 2047 5850
E-bost: sefydluadpc@gtcw.org.uk