Ffurflenni

PWYSIG

Trefniadau diwygiedig ar gyfer cyllido Sefydlu a DPC o 1af Medi 2012

Mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu diwygio'r trefniadau presennol ar gyfer Sefydlu a Datblygiad Proffesiynol Cynnar (DPC) yng Nghymru o 1af Medi 2012. Mae'n debyg mai'r prif newidiadau fydd:

• Rheoliadau Sefydlu diwygiedig, a fydd yn ceisio rhoi mwy o gysondeb i Sefydlu ar gyfer yr holl athrawon newydd gymhwyso (ANG) ledled Cymru a darparu mwy o hyblygrwydd er mwyn galluogi athrawon cyflenwi i gwblhau eu cyfnod Sefydlu yng Nghymru;

• rhoi terfyn ar gyllid DPC ar gyfer ANG sy'n dechrau Sefydlu o 1af Medi 2012, er y bydd ANG a ddechreuodd Sefydlu cyn y dyddiad hwn yn dal yn gymwys i gael cyllid DPC;

• cyflwyno gradd Meistr opsiynol mewn Arfer Addysgol (MEP) ar gyfer ANG sy'n dechrau Sefydlu yng Nghymru o 1af Medi 2012 ymlaen.

Mae CyngACC yn gweinyddu rhai rhannau o'r cyllid ar gyfer Sefydlu a DPC ar ran Llywodraeth Cymru. Felly, bydd yn ailgyhoeddi ei lyfryn gwybodaeth a'i ffurflenni presennol ynghylch cyllid Sefydlu a DPC i ysgolion yn barod at dymor yr hydref 2012, ar ôl i Lywodraeth Cymru ymgynghori ynghylch newidiadau yn y Rheoliadau Sefydlu.

Yng ngoleuni'r uchod, hysbysir athrawon ac ysgolion o'r canlynol:

• dylai'r holl staff sy'n ymwneud â darparu datblygiad proffesiynol mewn ysgolion ac ANG gadw llygad ar wefan Llywodraeth Cymru dros y misoedd nesaf i sicrhau eu bod yn hollol gyfarwydd â'r gofynion newydd o fis Medi 2012 ymlaen;

• ar gyfer ANG sy'n dechrau eu rhaglen Sefydlu o fis Medi 2012 ymlaen, arhoswch i'r ddogfennaeth ddiwygiedig gael ei chyhoeddi cyn cyflwyno unrhyw waith papur ar gyfer Sefydlu neu'r Radd Meistr i GyngACC;

• ar gyfer athrawon sy'n parhau â'u Sefydlu mewn ysgol newydd o fis Medi 2012 neu ar gyfer athrawon sy'n dechrau blwyddyn DPC o fis Medi 2012 ymlaen, cyflwynwch y gwaith papur presennol i GyngACC erbyn diwedd tymor yr haf 2012, os yw'n bosibl, ond cyn pen 10 niwrnod gweithio ar ôl dechrau cyfnod Sefydlu/blwyddyn DPC yr athro/athrawes, fan bellaf (sef 17eg Medi 2012).

Ceir manylion pellach gan y Tîm Cyllido Sefydlu a DPC ar 029 2046 0099, drwy e-bostio Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.

Ffurflen

word_icon

Word

pdf icon

PDF

1. Cofnod Sefydlu ANG
2. Cofnod Asesu Sefydlu
18. Ffurflen gynllunio blwyddyn gyntaf DPC
19. Ffurflen Werthuso blwyddyn gyntaf DPC
20. Ffurflen gynllunio ail flwyddyn DPC
21. Ffurflen Werthuso ail flwyddyn DPC
22. Ffurflen Drosglwyddo
Deunyddiau Cymorth ar gyfer Asesu, Arsylwi a Phennu Targedau Llywodraeth Cymru

Cliciwch yma

Funded by:

WG

Cysylltwch â'r Tîm Cyllid Sefydlu a DPC

Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru
9fed Llawr, Eastgate House
35-43 Ffordd Casnewydd
Caerdydd, CF24 0AB

Ffôn: 029 2046 0099
Ffacs: 029 2047 5850
E-bost: sefydluadpc@gtcw.org.uk