Cyllid Sefydlu

PWYSIG

Trefniadau diwygiedig ar gyfer cyllido Sefydlu a DPC o 1af Medi 2012

Mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu diwygio'r trefniadau presennol ar gyfer Sefydlu a Datblygiad Proffesiynol Cynnar (DPC) yng Nghymru o 1af Medi 2012. Mae'n debyg mai'r prif newidiadau fydd:

• Rheoliadau Sefydlu diwygiedig, a fydd yn ceisio rhoi mwy o gysondeb i Sefydlu ar gyfer yr holl athrawon newydd gymhwyso (ANG) ledled Cymru a darparu mwy o hyblygrwydd er mwyn galluogi athrawon cyflenwi i gwblhau eu cyfnod Sefydlu yng Nghymru;

• rhoi terfyn ar gyllid DPC ar gyfer ANG sy'n dechrau Sefydlu o 1af Medi 2012, er y bydd ANG a ddechreuodd Sefydlu cyn y dyddiad hwn yn dal yn gymwys i gael cyllid DPC;

• cyflwyno gradd Meistr opsiynol mewn Arfer Addysgol (MEP) ar gyfer ANG sy'n dechrau Sefydlu yng Nghymru o 1af Medi 2012 ymlaen.

Mae CyngACC yn gweinyddu rhai rhannau o'r cyllid ar gyfer Sefydlu a DPC ar ran Llywodraeth Cymru. Felly, bydd yn ailgyhoeddi ei lyfryn gwybodaeth a'i ffurflenni presennol ynghylch cyllid Sefydlu a DPC i ysgolion yn barod at dymor yr hydref 2012, ar ôl i Lywodraeth Cymru ymgynghori ynghylch newidiadau yn y Rheoliadau Sefydlu.

Yng ngoleuni'r uchod, hysbysir athrawon ac ysgolion o'r canlynol:

• dylai'r holl staff sy'n ymwneud â darparu datblygiad proffesiynol mewn ysgolion ac ANG gadw llygad ar wefan Llywodraeth Cymru dros y misoedd nesaf i sicrhau eu bod yn hollol gyfarwydd â'r gofynion newydd o fis Medi 2012 ymlaen;

• ar gyfer ANG sy'n dechrau eu rhaglen Sefydlu o fis Medi 2012 ymlaen, arhoswch i'r ddogfennaeth ddiwygiedig gael ei chyhoeddi cyn cyflwyno unrhyw waith papur ar gyfer Sefydlu neu'r Radd Meistr i GyngACC;

• ar gyfer athrawon sy'n parhau â'u Sefydlu mewn ysgol newydd o fis Medi 2012 neu ar gyfer athrawon sy'n dechrau blwyddyn DPC o fis Medi 2012 ymlaen, cyflwynwch y gwaith papur presennol i GyngACC erbyn diwedd tymor yr haf 2012, os yw'n bosibl, ond cyn pen 10 niwrnod gweithio ar ôl dechrau cyfnod Sefydlu/blwyddyn DPC yr athro/athrawes, fan bellaf (sef 17eg Medi 2012).

Ceir manylion pellach gan y Tîm Cyllido Sefydlu a DPC ar 029 2046 0099, drwy e-bostio Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.

Pan fydd ysgol a gynhelir yng Nghymru yn penodi Athro Newydd Gymhwyso (ANG) am gyfnod o gyflogaeth a fydd yn cyfrif tuag at gyfnod Sefydlu'r ANG, yna bydd rhaid i’r ysgol gymryd y camau canlynol er mwyn sicrhau bod y cyllid priodol yn cael ei ryddhau i’r ysgol

 CAM 1  Pan benodir yr ANG dylai’r ysgol gyflwyno Cofnod Sefydlu ANG i GyngACC, ond ar yr hwyraf o fewn 10 diwrnod gwaith pan fydd y cyfnod cyflogaeth a fydd yn cyfrif tuag at Sefydlu yn dechrau.
 CAM 2  Ar ôl i athro gwblhau tymor Sefydlu, dylai’r ysgol gyflwyno Cofnod Asesu Sefydlu i’r Cydlynydd Sefydlu yn yr ALl (yr ALl yw’r Corff Priodol ar gyfer Sefydlu).

Mae’n bwysig cysylltu â’r Tîm Cyllido Sefydlu a DPC a’r ALl os bydd oriau contract athro/athrawes yn newid, gan y gallai hyn effeithio ar gyfnod Sefydlu’r athro/athrawes.

Os bydd athro/athrawes yn gadael ei swydd cyn cwblhau Sefydlu rhaid cwblhau Ffurflen Drosglwyddo o fewn 15  diwrnod gwaith ar ôl i’r athro/athrawes adael yr ysgol.

Mae gan ALlau drefniadau lleol ar waith mewn perthynas â’r dyddiad ar gyfer dychwelyd Cofnodion Asesu Sefydlu; mae hyn er mwyn caniatáu i’r ALl gael amser i ymgymryd â’u rôl fel y Corff Priodol ar gyfer Sefydlu ac yna rhoi gwybod i GyngACC am unigolion sy’n cwblhau tymor Sefydlu erbyn y dyddiad priodol.

Pan dderbynnir yr hysbysiadau gan yr ALl, bydd CyngACC yn rhyddhau cyllid i’r ysgol.

Nodwch y dyddiadau isod, sef y dyddiadau i ALlau gyflwyno’r wybodaeth briodol i GyngACC, ar gais y Cyngor. Os nad yw’r ysgol yn cyflwyno’r gwaith papur i GyngACC erbyn y dyddiadau hyn, ni fydd CyngACC yn gallu rhyddhau’r cyllid Sefydlu i’r ysgol.

 TYMOR

DYDDIAD Y DYLAI’R ALl DDYCHWELYD GWYBODAETH SEFYDLU I GyngACC

Gwanwyn 2012

Ebrill 2012

Haf 2012

Awst 2012

Hydref 2012

Ionawr 2013

Mae ragor o wybodaeth ar gael yn ymwneud â chyllid ar gyfer Sefydlu a’r raglen Sefydlu yn gyffredinol wrth clicio yma.

Gwaith papur sydd ei angen er mwyn sicrhau bod Cyllid Sefydlu yn cael ei ryddhau

Rhestr wirio

  • Cyflwyno Cofnod Sefydlu ANG i GyngACC.
  • Cyflwyno Cofnod Asesu Sefydlu i ALl pan fydd yr ANG yn cwblhau tymor o Sefydlu.
Yna caiff cyllid ei ryddhau i’r ysgol gan GyngACC (bob tymor ac yn ôl-weithredol), ar ôl derbyn hysbysiad gan yr ALl i’r ANG gwblhau tymor o Sefydlu

 

Gwybodaeth a dogfennau eraill

Os oes gennych unrhyw ymholiadau mewn perthynas â rheolau, rheoliadau neu reolaeth y rhaglen Sefydlu sy’n ymwneud yn benodol ag athro/athrawes unigol, yn y lle cyntaf, dylech gysylltu â’r Cydlynydd Sefydlu yn yr ALl, sy’n gweithredu fel y Corff Priodol ar gyfer Sefydlu.

 Fel arall, os oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol mewn perthynas â’r rhaglenni Sefydlu a DPC, dylech gysylltu â Thîm Sefydlu a DPC Llywodraeth Cymru (Yr Is-adran Ymarferwyr).

Yr Is-adran gwelliant dysgu & Datblygiad Proffesiynol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ffôn: 029 2082 3205 or 029 2080 1389
Ffacs: 029 2082610
E-bost: Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.

Funded by:

WG

Cysylltwch â'r Tîm Cyllid Sefydlu a DPC

Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru
9fed Llawr, Eastgate House
35-43 Ffordd Casnewydd
Caerdydd, CF24 0AB

Ffôn: 029 2046 0099
Ffacs: 029 2047 5850
E-bost: sefydluadpc@gtcw.org.uk