Gwybodaeth a dogfennaeth berthnasol

PWYSIG

Trefniadau diwygiedig ar gyfer cyllido Sefydlu a DPC o 1af Medi 2012

Mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu diwygio'r trefniadau presennol ar gyfer Sefydlu a Datblygiad Proffesiynol Cynnar (DPC) yng Nghymru o 1af Medi 2012. Mae'n debyg mai'r prif newidiadau fydd:

• Rheoliadau Sefydlu diwygiedig, a fydd yn ceisio rhoi mwy o gysondeb i Sefydlu ar gyfer yr holl athrawon newydd gymhwyso (ANG) ledled Cymru a darparu mwy o hyblygrwydd er mwyn galluogi athrawon cyflenwi i gwblhau eu cyfnod Sefydlu yng Nghymru;

• rhoi terfyn ar gyllid DPC ar gyfer ANG sy'n dechrau Sefydlu o 1af Medi 2012, er y bydd ANG a ddechreuodd Sefydlu cyn y dyddiad hwn yn dal yn gymwys i gael cyllid DPC;

• cyflwyno gradd Meistr opsiynol mewn Arfer Addysgol (MEP) ar gyfer ANG sy'n dechrau Sefydlu yng Nghymru o 1af Medi 2012 ymlaen.

Mae CyngACC yn gweinyddu rhai rhannau o'r cyllid ar gyfer Sefydlu a DPC ar ran Llywodraeth Cymru. Felly, bydd yn ailgyhoeddi ei lyfryn gwybodaeth a'i ffurflenni presennol ynghylch cyllid Sefydlu a DPC i ysgolion yn barod at dymor yr hydref 2012, ar ôl i Lywodraeth Cymru ymgynghori ynghylch newidiadau yn y Rheoliadau Sefydlu.

Yng ngoleuni'r uchod, hysbysir athrawon ac ysgolion o'r canlynol:

• dylai'r holl staff sy'n ymwneud â darparu datblygiad proffesiynol mewn ysgolion ac ANG gadw llygad ar wefan Llywodraeth Cymru dros y misoedd nesaf i sicrhau eu bod yn hollol gyfarwydd â'r gofynion newydd o fis Medi 2012 ymlaen;

• ar gyfer ANG sy'n dechrau eu rhaglen Sefydlu o fis Medi 2012 ymlaen, arhoswch i'r ddogfennaeth ddiwygiedig gael ei chyhoeddi cyn cyflwyno unrhyw waith papur ar gyfer Sefydlu neu'r Radd Meistr i GyngACC;

• ar gyfer athrawon sy'n parhau â'u Sefydlu mewn ysgol newydd o fis Medi 2012 neu ar gyfer athrawon sy'n dechrau blwyddyn DPC o fis Medi 2012 ymlaen, cyflwynwch y gwaith papur presennol i GyngACC erbyn diwedd tymor yr haf 2012, os yw'n bosibl, ond cyn pen 10 niwrnod gweithio ar ôl dechrau cyfnod Sefydlu/blwyddyn DPC yr athro/athrawes, fan bellaf (sef 17eg Medi 2012).

Ceir manylion pellach gan y Tîm Cyllido Sefydlu a DPC ar 029 2046 0099, drwy e-bostio Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.

Gwybodaeth a dogfennaeth CyngACC

I gael gwybodaeth bellach ynghylch y cyllid ar gyfer Sefydlu a DPC, cyfeiriwch at ddogfen CyngACC Cyrchu Cyllid ar gyfer Sefydlu a Datblygiad Proffesiynol Cynnar, sydd ar gael i’w lawrlwytho yma (PDF 526k).

Mae pob un o’r ffurflenni y sonnir amdanynt ar y tudalen hwn ar gael i’w lawrlwytho yma.

Gwybodaeth a dogfennaeth arall

Mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb am gynnwys a chyfeiriad strategol Sefydlu a DPC; felly, dylid darllen unrhyw ddogfennaeth ynghylch cyllido Sefydlu a DPC ar y cyd â’r dogfennau canlynol a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru ac unrhyw wybodaeth Sefydlu a DPC a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru ar ei wefan:

Cylchlythyr Cyfarwyddyd 17/11 - Sefydlu a Datblygiad Proffesiynol Cynnar ar gyfer Athrawon Newydd Gymhwyso yng Nghymru (diwygiwyd Medi 2011)

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch rheolau, rheoliadau, cynnwys neu reolaeth y rhaglen Sefydlu mewn perthynas ag athro unigol, dylech gysylltu, yn y lle cyntaf, â’r Cydlynydd Sefydlu yn yr ALl, sy’n gweithredu fel y Corff Priodol ar gyfer Sefydlu.

Fel arall, os oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol mewn perthynas â’r rhaglenni Sefydlu a DPC, dylech gysylltu â Thîm Sefydlu a DPC Llywodraeth Cymru (Yr Isadran Ymarferwyr).

Funded by:

WG

Cysylltwch â'r Tîm Cyllid Sefydlu a DPC

Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru
9fed Llawr, Eastgate House
35-43 Ffordd Casnewydd
Caerdydd, CF24 0AB

Ffôn: 029 2046 0099
Ffacs: 029 2047 5850
E-bost: sefydluadpc@gtcw.org.uk