Er mis Medi 2003, mae gofyn i bob Athro Newydd Gymhwyso (ANG), ac eithrio rhai eithriadau o dan ddeddfwriaeth, gwblhau cyfnod Sefydlu statudol os yw'n dymuno addysgu mewn ysgol a gynhelir neu ysgol arbennig nas cynhelir yng Nghymru. Cynhelir y cyfnod Sefydlu hwn o dri thymor ysgol neu gyfnod cyfwerth pan fydd yr ANG yn ennill Statws Athro Cymwys (SAC). Mae arweiniad perthnasol Llywodraeth Cymru'n nodi'r Safonau Athrawon wrth eu Gwaith y mae'n rhaid i ANG eu bodloni yn ystod eu cyfnod Sefydlu, ynghyd â rolau a chyfrifoldebau'r ANG, y Corff Priodol a phersonél yr ysgol sy'n ymwneud â'r broses Sefydlu.
O dan delerau Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, fel y'i diwygiwyd, mae'r Cyngor yn gwrando ar apeliadau gan ANG sy'n methu'r asesiad yn erbyn y Safonau Athrawon wrth eu Gwaith, neu y cafodd eu cyfnod Sefydlu ei ymestyn, ac sy'n anfodlon ar y penderfyniad.
Gweler isod i gael rhagor o wybodaeth ynghylch y broses apeliadau Sefydlu. Dylid nodi mai gwybodaeth gyffredinol yw hon, ac ym mhob sefyllfa, Offeryn Statudol Cynulliad Cenedlaethol Cymru Rhif 2003/543 (C.77), Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003 ac Arweiniad y Cyngor ar gyfer Gwrando ar Apeliadau Sefydlu gaiff flaenoriaeth.
I gael trosolwg cyffredinol o'r broses apeliadau Sefydlu, cliciwch yma
Os ydych yn dymuno apelio yn erbyn penderfyniad y Corff Priodol i fethu eich cyfnod Sefydlu, darllenwch wybodaeth ynghylch y broses yma cyn gwneud hynny.
Os yw Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru wedi eich hysbysu o apêl yn erbyn penderfyniad gan y Corff Priodol, cliciwch yma i gael gwybodaeth ynghylch rôl y Corff Priodol yn y broses.
Gall aelodau'r proffesiwn a'r cyhoedd fynychu gwrandawiadau llafar gan Bwyllgorau Apeliadau sefydlu fel arsylwyr. Mae nifer bach o leoedd ar gyfer arsylwyr ar gael at y diben hwn. Os ydych yn dymuno mynychu, cysylltwch â'r Cyngor ar 029 2046 0099. Gellir gweld rhagor o wybodaeth ar gyfer arsylwyr ynghylch y broses gwrando ar apeliadau Sefydlu yma. Gelir gweld dyddiadau sydd wedi'u trefnu ar gyfer gwrandawiadau llafar sydd i ddod yma.