Caiff aelodau'r proffesiwn a'r cyhoedd fynychu gwrandawiadau llafar gan Bwyllgorau Apeliadau Sefydlu Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, ac mae nifer bach o leoedd i arsylwyr ar gael at y diben hwn. Os hoffech fynychu fel arsylwr, gofynnir i chi gysylltu â'r Cyngor ar 029 2046 0099. Wrth fynychu gwrandawiad, gofynnir i arsylwyr ystyried y pwyntiau canlynol:
- Mae'n bosibl y caiff gwrandawiadau eu canslo neu eu gohirio ar y funud olaf. Cynghorir y rheiny sy'n teithio o bell i gadarnhau bod y gwrandawiad yn dal i fynd yn ei flaen drwy ffonio'r Cyngor ar ddiwrnod y gwrandawiad neu ychydig cyn hynny;
- Mae'r Ddeddf Hawliau Dynol yn rhoi'r hawl i unigolion gael gwrandawiad cyhoeddus. Fodd bynnag, caiff athro/athrawes gofrestredig ofyn i wrandawiad cyfan neu ran o wrandawiad gael ei chlywed yn breifat. Bydd y Pwyllgor yn ystyried unrhyw gais o'r fath ar ddiwrnod y gwrandawiad. Gellir cynnal gwrandawiad cyfan neu ran o wrandawiad yn breifat. Lle cynhelir gwrandawiad cyfan neu ran o wrandawiad yn breifat, ni fydd hyn yn agored i arsylwyr.
Os ydych yn aelod o'r wasg, ac rydych am ddod i wrandawiad a restrir yma, mae'n rhaid i chi gysylltu â'r Cyngor yn y lle cyntaf ar 029 2046 0099. Os nad ydych yn gwneud hynny cyn dyddiad y gwrandawiad, ni all y Cyngor sicrhau lle i chi fel arsylwr.
Gellir cael rhagor o wybodaeth ar gyfer arsylwyr gwrandawiadau yma. Gwybodaeth gyffredinol yw hon, ac ym mhob sefyllfa, Offeryn Statudol Cynulliad Cenedlaethol Cymru Rhif 2003/543 (Cy.77), Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003, fel y'i diwygiwyd, a dogfen Arweiniad ar gyfer Gwrando ar Apeliadau Sefydlu y Cyngor a gaiff flaenoriaeth.