24 Mehefin 2009
Bydd mwy na hanner cant o gynrychiolwyr o faes addysg ym mhedwar ban byd yn cyfarfod yng Nghaerdydd heddiw (24 Mehefin) ar ddiwrnod cyntaf Cynhadledd Ryngwladol y Cynghorau Addysgu. Yn y gynhadledd, bwriedir trafod nifer o faterion a heriau sy’n wynebu’r proffesiwn. Yma, mae Gary Brace, prif weithredwr Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngACC) yn edrych ar y materion a drafodir a’u heffaith ar addysgu yng Nghymru.
Yn 2007, penderfynodd CyngACC wahodd trydedd Gynhadledd Ryngwladol y Cynghorau Addysgu i Gymru. Mae’r gynhadledd hon yn un bwysig. Mae’n gyfle i aelodau uwch o'r cyrff proffesiynol ystyried datblygiadau rhyngwladol ym maes rheoleiddio proffesiynol a thrafod y prif heriau a wynebodd y proffesiwn ers y gynhadledd ddiwethaf, a gynhaliwyd ym Melbourne yn 2006.
Mae’r gynhadledd yn fforwm ar gyfer trafodaeth flaengar ac yn gyfle i gynadleddwyr glywed siaradwyr o fri cenedlaethol a rhyngwladol. Gan fod y gynhadledd yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd, rhoddir y proffesiwn addysgu yng Nghymru ar fap addysg y byd.
Bydd un o'r prif siaradwyr heddiw, yr Athro John Furlong, yn edrych ar nodweddion systemau addysg gorau’r byd ac yn cynnig sylwadau ar sut mae Cymru’n cymharu. Bydd yr Athro Furlong yn cyfeirio at gasgliad adroddiad allweddol McKinsey, sef na all safon system addysg unrhyw wlad fod yn uwch na safon ei hathrawon. Yn y Ffindir, er enghraifft – un o’r gwledydd a edmygir bob amser wrth gymharu systemau addysg – caiff y graddedigion gorau oll eu recriwtio i fod yn athrawon.
Mae gennym athrawon ardderchog yng Nghymru, ond nid wyf yn argyhoeddedig eto bod y llywodraeth wedi ymrwymo i recriwtio graddedigion o’r lefel uchaf i fod yn athrawon. Ond o leiaf yr ydym ni yng Nghymru yn cydnabod rôl hanfodol athrawon trwy roi cefnogaeth barhaus i athrawon yn nhair blynedd gyntaf eu gyrfaoedd a thrwy’r rhaglen fuddsoddi mewn datblygiad proffesiynol parhaus sy’n canolbwyntio ar unigolion. Ar y llaw arall, mae angen i’r ‘gronfa’ o £3m sydd ar gael i athrawon gael ei chynyddu'n sylweddol er mwyn sicrhau bod pob athro’n cael cyfle cyfartal o ran cynyddu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth.
Wedyn, dyna’r rhaglen athrawon siartredig yr ydym yn ei threialu ar hyn o bryd. Bydd y rhaglen hon yn cydnabod athrawon dosbarth medrus iawn nad ydynt o angenrheidrwydd yn dymuno bod yn uwch-arweinwyr ysgol.
Dylai'r datblygiadau hyn fod yn gysur i rieni yng Nghymru, gan fod ar bob rhiant eisiau i’w blant gael y gorau – ac mae cael eu dysgu gan yr athrawon gorau yn rhoi dechrau da mewn bywyd i blant.
Un her sy’n wynebu cynghorau addysgu, ac a gaiff ei thrafod yn angerddol yn y gynhadledd, yw sut y dylid rheoleiddio’r proffesiwn. Nid yw rheoleiddio yn golygu busnesa ym mywydau preifat athrawon, ond mae gennym swyddogaeth reoleiddiol a chyfrifoldeb i rieni a’r cyhoedd i sichrau, i gychwyn, bod y bobl sy'n gofalu am ein plant yn addas ar gyfer y gwaith ac yna'u bod yn cadw'r safonau uchaf o ran ymddygiad a gwaith.
Mae’n hanfodol cadw lles y cyhoedd yng nghanol rheoleiddio proffesiynol ond, yn ymarferol, gall fod yn anodd cadw’r cydbwysedd rhwng barnu pob achos ar ei sail ei hun a gweithredu er lles y cyhoedd, fel y dangosir er enghraifft gyda natur agored ein gwrandawiadau.
Yng Ngholumbia Brydeinig, mae gan y Coleg Athrawon ‘broses ddatrys amgen’ – os yw athro sy’n wynebu honiadau o ymddygiad amhroffesiynol yn cyfaddef y ffeithiau, mae proses er mwyn symud at ddatganiad y cytunir arno a derbyn sancsiynau heb fod angen gwrandawiad. Bydd yn ddiddorol clywed sut mae’r Canadiaid yn cyflawni hyn tra, ar yr un pryd, yn cynnal lles y cyhoedd neu’n osgoi symud at ‘fargeinio am ble’ neu gyhuddiadau o weithredu y tu ôl i ddrysau caeëdig.
Bydd Harry Cayton o’r Cyngor Rhagoriaeth Rheoleiddio Gofal Iechyd (CRhRhGI) yn esbonio sut mae’r proffesiwn meddygol yn rheoleiddio er lles y cyhoedd. Ers 2001, mae’r Cyngor Meddygol Cyffredinol (CMC) a rheoleiddwyr iechyd eraill wedi bod yn atebol i’r CRhRhGI yn dilyn achos Harold Shipman. Mae’r CRhRhGI yn ‘arch-reoleiddiwr’ a gall wyrdroi dyfarniadau’r CMC mewn achosion safonau proffesiynol.
Yn y proffesiwn addysgu nid oes y fath gorff trosfwaol a dymunwn gadw pethau fel y maent. I sicrhau hyn, mae’n hanfodol bod y proffesiwn yn parhau i ad-dalu’r ymddiriedaeth a roddir ynddo wrth i'r CyngACC weithredu er lles y cyhoedd. Rwy’n siŵr bod y lleiafrif bychan o athrawon sy’n ymddangos gerbron ein paneli disgyblu, yn ogystal â’r proffesiwn yn gyffredinol, yn credu ei bod ganmil gwell cael system o ddisgyblu gan gydweithwyr sy’n deall addysgu na chan bobl o’r tu allan sef y system a fodolai cyn y CyngACC.
Mae’n hanfodol ein bod yn cael maes y rheoleiddio’n iawn. Os na wnawn, gall yr effeithiau fod yn bellgyrhaeddol gan gynnwys Apêl i’r Uchel Lys ac, yn y diwedd, y posibilrwydd o golli ymddiriedaeth yng ngallu'r proffesiwn i’w reoleiddio ei hunan.
Mater pwysig arall a drafodir yn y gynhadledd yw hawl athrawon i symud o wlad i wlad, a bydd cenhedloedd sy’n recriwtio ac yn allforio athrawon yn bresennol yn y gynhadledd.
O dan nawdd Ysgrifenyddiaeth y Gymanwlad, arwyddwyd protocol gwirfoddol bum mlynedd yn ôl sy’n annog peidio â recriwtio o wledydd y gellir dadlau mai arnyn nhw y mae mwyaf o angen athrawon medrus. Er nad yw hyn yn broblem i ni yng Nghymru, mae’n bryder mawr i gynadleddwyr o rai gwledydd eraill. Bydd gennyf ddiddordeb mewn clywed safbwynt ein cyfeillion o Dde Affrica a Jamaica, er enghraifft.
Yng Nghymru, y gwrthwyneb sy’n wir wrth gwrs. Tynnodd Arolwg John Furlow yn 2006 sylw at yr angen i ostwng y niferoedd sy'n cael eu hyfforddi'n athrawon yng Nghymru er mwyn osgoi’r sefyllfa o hyfforddi ar gyfer diweithdra a fu gennym yn rhy hir. Rydym bellach yn symud tuag at gyfatebiaeth well rhwng cyflenwad a galw am athrawon yng Nghymru.
Yn olaf, rwy’n awyddus i sicrhau bod manteision penodol yn deillio o’n deuddydd a hanner gyda’n gilydd. Gan adeiladu ar ‘Ddatganiad Caeredin’ a arwyddwyd ar ôl y gynhadledd ryngwladol gyntaf erioed yn 2005, pryd y cytunwyd i gydweithredu mewn rhai meysydd gwaith allweddol, fy ngobaith yw y bydd y cynadleddwyr yn pennu ac yn cytuno ar rai gweithredoedd a gweithgareddau penodol. Byddwn yn falch pe gellid ymgorffori’r rhain mewn dogfen ryngwladol - ‘Ymrwymiad Caerdydd’.