1 Rhagfyr 2008
Gyda’r tymor ysgol newydd wedi hen gychwyn, bydd athrawon newydd yng Nghymru yn dechrau elwa ar fanteision y system gefnogol sydd yn ei lle wrth iddynt gymryd y camau cyntaf yn eu gyrfa addysgu. Gary Brace, prif weithredwr CyngACC yn amlinellu’r cymorth y mae athrawon sy’n newydd i’r proffesiwn addysgu yn ei dderbyn.Mewn pum mlynedd yn unig, gwnaethpwyd gwelliannau helaeth er mwyn sicrhau bod dechreuad mor llyfn a chefnogol â phosib i athrawon wrth iddynt gychwyn yn eu gyrfaoedd. Nid yw athrawon sydd newydd gymhwyso bellach yn cael eu ‘bwrw i’r dwfn’ a’u gadael gyda dosbarth o blant; yn hytrach rhoddir cymorth ac arweiniad iddynt wrth iddynt gychwyn yn eu gyrfa broffesiynol.
Rhan o gyfrifoldebau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yw hyrwyddo datblygiad proffesiynol athrawon ac mae bellach ar flaen y gad yn hyn o beth ochr yn ochr â’i swyddogaethau rheoleiddiol ac ymgynghorol. Y mae wedi cyflawni hyn yn neilltuol drwy gynnal dwy raglen gyllido sylweddol i gefnogi datblygiad athrawon ar gyfer Llywodraeth y Cynulliad.
Dan god proffesiynol CyngACC, mae athrawon wedi ymrwymo i ddatblygu eu gwybodaeth, dealltwriaeth a’u sgiliau. Mae hyn yn wahanol iawn i’r cyfnod pan wnes innau gychwyn yn y proffesiwn yng nghanol y 70au. Meddyliais mai’r ‘erthygl orffenedig’ oeddwn i, gan gredu bod y TAR yr oeddwn wedi ei dderbyn wedi fy mharatoi ar gyfer fy ngyrfa addysgu, a, tra bod hynny’n wir i raddau, doeddwn ddim wedi rhagweld na disgwyl gyrfa o ddysgu gydol oes a datblygu. Er roedd yna ddigon o ‘HMS’ yn y dyddiau hynny, roedd y syniad o ymrwymiad personol i ddatblygiad proffesiynol yn gysyniad estron ac fel hynny y bu pethau tan ddiwedd y 90au. Ers hynny, mae yna newid aruthrol yn niwylliant wedi digwydd yn y proffesiwn.
Dros y pum mlynedd diwethaf mae hi’n ofyniad statudol bod holl athrawon newydd yng Nghymru yn cwblhau blwyddyn ymsefydlu. Disgwylir i athrawon ddangos eu bod nhw’n medru gwneud y swydd yn ymarferol am flwyddyn. Rhaid iddynt ddangos eu bod nhw’n bodloni’r safonau ar ddiwedd y cyfnod ymsefydlu; yn hytrach na ychwanegu at y pwysau sy’n wynebu athrawon newydd, mae’r fath ofyniad yn eu helpu drwy’r system gynnal sydd yn ei lle, fel y sicrwydd o gael mentor yn yr ysgol a chymorth ariannol i gefnogi’u datblygiad proffesiynol. Yn ystod eu cyfnod ymsefydlu, mae gan athrawon sydd newydd gymhwyso (ANG) amserlen addysgu o 90% i’w galluogi i ymgymryd â gweithgareddau ymsefydlu yn ogystal â chael cefnogaeth y mentor hyfforddedig y maen nhw’n cyfarfod â hwy yn rheolaidd. Mae gan ANG hawl i dderbyn gwerth £3,700 o gymorth sy’n cwmpasu cyfnod ymsefydlu o dri thymor.
Mae cyfnod ymsefydlu yn darparu elfen bontio o ymarfer dysgu i arfer proffesiynol effeithiol drwy ddarparu rhaglen gymorth wedi ei thargedu’n dda ar gyfer athrawon sydd newydd gymhwyso. Oni bai eu bod nhw’n llwyddo yn eu cyfnod ymsefydlu, nid yw’r cymhwyster athro yn ddigonol i adael iddynt barhau i gofrestru ac felly addysgu yn un o ysgolion y wladwriaeth. Tra mai ychydig iawn o ANG sydd wedi methu eu cyfnod ymsefydlu dros y pum mlynedd ddiwethaf, mae hyn yn sicrhau mai dim ond y rheini sy’n medru ymdopi â’r swydd yn ymarferol a ganiateir i barhau yn y proffesiwn addysgu.
Hefyd yng Nghymru, mae gennym yr elfen unigryw o ddatblygiad proffesiynol a ariennir ar gyfer athrawon yn yr ail a’r drydedd flwyddyn o’u gyrfa, a gall athrawon newydd gyrchu £1,000 y flwyddyn i ariannu gweithgareddau a chyfloed datblygiad proffesiynol cynnar (DDC). Rhaglen dwy flynedd hyblyg a chydlynol yw’r DDC wedi ei fwriadu i gefnogi athrawon newydd yn eu datblygiad proffesiynol, gan annog myfyrio, hunan werthuso, gosod amcanion, cynllunio gweithredu ac agweddau o reoli’r ystafell ddosbarth.
Yr wyf o’r farn, o ganlyniad y mesurau hyn, mi fydd athrawon newydd mor barod ag y medrant fod ar gyfer yr hyn sy’n eu disgwyl fel athrawon ac yn ymwybodol o’r hyn a ddisgwylir ohonynt. Maent hefyd yn dangos ymrwymiad o’r proffesiwn gan wybod mai newydd ddechrau y mae eu datblygiad proffesiynol. Byddant yn disgwyl derbyn cefnogaeth a gallant ddisgwyl cyfleoedd a fydd yn datblygu eu huchelgeisiau proffesiynol a’u gyrfaoedd, a hynny drwy gydol eu gyrfaoedd.
Yn hanfodol, mae’r mesurau hyn yn gosod pwyslais ar welliant parhaus o fewn fframwaith proffesiynol sy’n gydlynol a blaengar. Mae’r ffaith bod gan athrawon yng Nghymru system gymorth gadarn wrth iddynt gychwyn yn eu gyrfaoedd, ac, yn enwedig, yr hawl i dderbyn DPC - sydd ddim ar gael yn unman arall yn y DU - yn rhywbeth y dylem ni ddathlu.