Cyfnod Sefydlu A Chyllid Epc Yn Caniatáu Athrawon Newydd I Bwyso A Mesur

31 Chwefror 2008

Mae Kate Finch, athrawes Ddaearyddiaeth yn Ysgol Dinas Bran, Llangollen, Sir Ddinbych, yn hyrwyddwraig dda yn nhermau datblygiad proffesiynol parhaus (CPD) ar gyfer athrawon. Yn wir, mae angen iddi fod, a hithau’n gyfrifol am oruchwylio 3 athro newydd gymhwyso ar eu blwyddyn sefydlu, a dim llai na 19 o athrawon yn yr ail a’r drydedd flwyddyn o’u gyrfa!

Mae holl athrawon newydd yng Nghymru yn derbyn cefnogaeth ar ddechrau eu gyrfa, drwy gyllid a weinyddir gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngACC) ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae cyfnod sefydlu statudol yn denu cyllid o £3,700 fesul athro a chyfle pellach i athrawon hawlio £1,000 y flwyddyn ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Cynnar (DPC) ym mlynyddoedd 2 a 3.

Mae Ysgol Dinas Bran yn cynnal diwrnod Sefydlu ar ddechrau’r flwyddyn ysgol i ragbaratoi staff a chyfleu gwybodaeth hanfodol. Trafodir rhaglen ddatblygu broffesiynol teilwredig a’i chytuno gyda phob aelod o staff. Cynhelir hefyd gyfarfodydd misol i sicrhau bod y staff yn manteisio i’r eithaf o’r cyllid datblygiad proffesiynol sydd ar gael ar eu cyfer.

Fe wnaeth Alison Nesbitt, sydd newydd gwblhau ei blwyddyn sefydlu yn yr ysgol, ddarganfod fod yr hyfforddiant a gynigir gan yr ysgol a’r AALl yn hanfodol o ran ei helpu i gynnal ffocws ac asesu’r cynnydd yr oedd hi’n gwneud yn ei blwyddyn gyntaf. Meddai Alison: “Roedd yr hyfforddiant a gynigiwyd nid yn unig yn gynorthwyol mewn ffordd addysgiadol ond hefyd yn werthfawr dros ben mewn ystyr cymdeithasol. Mae’r weithred syml o fod mewn ystafell gydag athrawon eraill sydd yn yr union sefyllfa â mi, gyda’r un ofnau a’r un cwestiynau yn un rhan o’r cyfnod sefydlu a oedd yn hynod o fuddiol. Mae’r gallu i drafod pob agwedd o addysgu o fewn grŵp cefnogol fel hwn yn eich galluogi i symud ymlaen.”

Ychwanegodd Alison, sy’n addysgu Celf yn yr ysgol: “Rwy’n teimlo bod y cyllid wedi chwarae rhan enfawr o ran cyflawni’r flwyddyn ANG yn llwyddiannus. Heb y cyllid i dalu am gefnogaeth mentor, staff cyflenwi, hyfforddiant a diwrnodau hyfforddiant mewn swydd, mi fyddai ANG mewn sefyllfa fregus iawn. Canfûm fod cyfle i gysgodi cydweithiwr neu dreulio cyfnod yn arsylwi athrawon eraill o fewn yr ysgol yn bwysig dros ben. Heb gyllid, ni fyddai hyd yn oed gweithred syml fel hon yn bosib.”

Fe wnaeth Stephen Prescott, sydd hefyd newydd gwblhau ei flwyddyn sefydlu yn yr ysgol, ail-gadarnhau pwysigrwydd y cyllid sefydlu yn ei flwyddyn gyntaf fel athro. Ychwanegodd: “Fe wnaeth y cyllid fy ngalluogi i ymgartrefu’n gyflymach o lawer yn yr ysgol drwy ddarparu cyfres o ddiwrnodau hyfforddi, gweithdai a chyfarfodydd cyffredinol yn yr ysgol ac ar ddiwrnodau HMS. Fe wnaeth hyn fy ngalluogi i rannu problemau a materion gydag athrawon sydd yn yr union sefyllfa a minnau a hefyd, dysgu o’u profiadau hwy.”

Mae Craig Gilchrist, athro Bioleg yn yr ysgol, sydd yn ei ail flwyddyn, wedi defnyddio ei gyllid DPC o £1,000 tuag at gwrs i’w gyflwyno i addysgu Bioleg Safon Uwch. Meddai: “Rhydd addysgu ar lefel safon uwch, hwb mawr i fy hyder a heb os, fe wnaeth hyn wella fy sgiliau. Mae’r cyllid hefyd wedi talu am athrawon i gymryd fy ngwersi tra fy mod i’n arsylwi, a chynorthwyo gyda fy mhynciau arbenigol eraill sef Cemeg a Ffiseg.”

Ychwanegodd:” Mae hyblygrwydd y cyllid DPC yn caniatáu athrawon i greu eu llwybrau eu hun yn eu gyrfaoedd gan eu bod yn medru dewis agweddau sydd o ddiddordeb penodol iddynt hwy.
Mae Eirian Maguire, athrawes gerddoriaeth sydd erbyn hyn yn ei thrydedd flwyddyn, yn ystyried ei hun yn lwcus iawn i fod wedi buddio o’r cyllid sydd ar gael. Esboniodd: “Rhoddodd y cyllid DPC gyfleodd i mi arbenigo a datblygu fy ngyrfa mewn ffordd na fyddwn byth wedi ei wneud fel arall. Os wyf yn dod o hyd i gwrs yr hoffwn ei fynychu, neu’n teimlo’n bryderus ynglŷn ag unrhyw faes addysgu, rwy’n gwybod bod gennyf y cyllid i fy nghynorthwyo i lwyddo. Mae’n faich mawr oddi ar fy ysgwyddau i wybod bod gen i’r fath gefnogaeth.”

Fe wnaeth Lowri Thomas, athrawes Gymraeg, gadarnhau bod y cyllid DPC wedi rhoi iddi’r cyfle i baratoi ar gyfer yr hyn a allai fel arall fod wedi bod yn gyfnod anodd. Esboniodd: “Yn ystod fy ail flwyddyn cefais y cyfle i addysgu dosbarth llenyddiaeth Cymraeg iaith gyntaf, gan fod cydweithiwr yn cychwyn ar gyfnod mamolaeth. Gan nad oeddwn wedi addysgu’r cwrs o’r blaen na darllen y llenyddiaeth berthnasol, bu’r cyllid DPC yn ddefnyddiol iawn, gan iddo fy ngalluogi i gymryd amser i ffwrdd er mwyn paratoi gwaith ar gyfer y cwrs. Erbyn hyn rwy’n hollol gymwys i addysgu’r cwrs llenyddiaeth Cymraeg, a fyddai wedi bod yn anodd iawn heb y cyllid DPC.”

Defnyddiodd Andrew Wallis, sydd yn ei drydedd flwyddyn, y cyllid i ymgymryd â chwrs a wnaeth ei alluogi i ddysgu gwahanol ffyrdd o addysgu Hanes yng Nghyfnod Allweddol 3. Fel y darpar reolwr dysgu ar gyfer Blwyddyn 11, cafodd gyfle i ddod i adnabod ei grŵp newydd drwy gymryd amser i gysgodi’r cyn-bennaeth blwyddyn am ychydig ddyddiau. Mae Andrew o’r farn bod hyfforddiant yn y swydd o’r pwys mwyaf i athrawon, meddai: “Rhydd diwrnodau hyfforddi’r gallu i athrawon gymryd cam yn ôl a myfyrio ar eu hymarfer dysgu. Mae addysgu yn broffesiwn prysur dros ben, ac mae’r cyfle i symud i ffwrdd o’r amgylchedd hwnnw am gyfnod yn eich galluogi i bwyso a mesur a datblygu strategaethau ar gyfer symud ymlaen. Yn aml, rhydd hyn y cyfle i ni ddysgu sut i ddelio â sefyllfaoedd cyn iddynt godi.”

Ychwanegodd Hayden Llewellyn, dirprwy brif weithredwr CyngACC: “Mae Ysgol Dinas Bran yn esiampl o ysgol sydd wedi buddio’n sylweddol o’r ffaith bod nifer o athrawon wedi cael mynediad i gyfnod Sefydlu a chyllid DPC ar ddechrau eu gyrfaoedd. Mae athrawon yng Nghymru sydd yng nghamau cyntaf eu gyrfaoedd yn ffodus dros ben, gan mai yng Nghymru yn unig y mae cyllid DPC yn bodoli. Rydym yn annog holl athrawon newydd i fanteisio ar hyn a gwneud defnydd o’u hawl, a gall ond fod o fantais i’w gyrfaoedd.”

Cysylltwch â ni

Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru
9fed Llawr, Eastgate House
35-43 Ffordd Casnewydd
Caerdydd, CF24 0AB

Ffôn: 029 2046 0099
Ffacs: 029 2047 5850
Twitter: http://twitter.com/#gtcwales
E-bost: gwybodaeth@gtcw.org.uk neu