CYCHWYN ARDDERCHOG I YRFAOEDD ATHRAWON YNG NGHYMRU DIOLCH I’R CYFNOD SEFYDLU A CHYLLID DPC

8 Tachwedd 2007

Mae Ysgol Friars ym Mangor yn ysgol uwchradd fawr sydd â dros 1300 o ddisgyblion a 90 aelod o staff llawn amser. Mae’r ysgol yn cefnogi 3 athro newydd gymhwyso drwy ei blwyddyn Sefydlu statudol, a 6 athro pellach ym mlynyddoedd 2 a 3, gyda’u Datblygiad Proffesiynol Cynnar (DPC).

Dyma Emyr Hughes, cydlynydd Cyfnod Sefydlu a DPC a chydweithwyr o’r ysgol yn rhannu eu profiadau.

Y Cydlynydd
Mae gan Emyr Hughes, Pennaeth Cynorthwyol yn Ysgol Friars, gyfrifoldeb am holl athrawon newydd gymhwyso sy’n ymuno â’r ysgol. Fel Tiwtor Proffesiynol, mae Emyr yn cyfarfod â phob athro ar ddechrau’r flwyddyn ysgol ac yn creu cynllun gweithredu sy’n cael ei adolygu bob tymor. Meddai Emyr: “Yr hyn sy’n grêt ynghylch Cyllid Sefydlu a DPC yw bod ganddo effaith ysgol gyfan. Gofynnir i athrawon ar eu cyfnod sefydlu a DPC sy’n mynychu’r sesiynau hyfforddi i rannu eu darganfyddiadau gydag athrawon eraill yn yr ysgol.”

Yr Athro Sefydlu
Athrawes Ddrama yw Anna Hickson Baker, sydd ar hyn o bryd yn cychwyn ar ei chyfnod sefydlu yn Ysgol Friars. Bu Anna yn gweithio yn yr ysgol fel athrawes ddigymhwyster ers 2001, cyn bwrw ati i gwblhau’r Rhaglen Athrawon Graddedig er mwyn dyfod yn athrawes hollol gymwys. Wedi dysgu yn yr ysgol am chwe blynedd heb gyllideb hyfforddiant cytunedig , mae hi’n llawn werthfawrogi’r cyfleoedd a ddaw yn sgil cyllid sefydlu. Esboniodd: “Mae’r cyllid sefydlu wedi fy ngalluogi i fynychu cwrs gyda Phennaeth yr Adran Ddrama, a oedd yn fuddiol iawn i’r ddau ohonom. Cawsom y cyfle i drafod yr hyn a ddysgwyd o ganlyniad i’r hyfforddiant. Ni fyddai modd sicrhau lle i ddau berson ar gwrs o’r fath heb y cyllid ychwanegol.

“Fel athro, mae bod yn hollol ymwybodol o’r dulliau addysgu diweddaraf yn hanfodol gan eu bod nhw’n newid drwy’r amser. Mae’r cyllid sefydlu yn galluogi athrawon newydd i barhau ar flaen y gad o ran newid a rhydd iddynt gyfle o fewn amserlen yr ysgol i arsylwi ar gydweithwyr mwy profiadol yn addysgu.”

Yr Athrawon DPC
Fe ddefnyddiodd Heidi Jenkins, athrawes Saesneg yn ei hail flwyddyn addysgu, ei chyllid DPC o £1,000 ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau datblygiad proffesiynol. Yn eu plith, gweithdy yn canolbwyntio ar Asesu ar gyfer Dysgu, diwrnod HMS gan CBAC i ddatblygu ei dealltwriaeth o TGAU Saesneg a Llenyddiaeth Saesneg, a chwrs yn ymwneud â Disgyblaeth Bendant. Meddai Heidi: “Erbyn hyn rwyf yn fwy hyderus o lawer wrth addysgu o ganlyniad i’r hyfforddiant a’r gefnogaeth yr wyf wedi eu derbyn. Rwy’n deall mai yng Nghymru yn unig y ceir y celid hwn, ac rwyf o’r farn ei fod yn rhoi dechreuad rhagorol i athrawon wrth iddynt gychwyn yn eu gyrfa newydd.”

Llwyddodd Catriona Barker sydd yn ei hail flwyddyn fel athrawes Addysg Gorfforol yn ysgol Friars, ehangu ei gwybodaeth a’i sgiliau o ganlyniad cyllid DPC. Gan fod gweithgareddau antur awyr agored erbyn hyn yn orfodol ymhob ysgol yng Nghymru, fe wnaeth Catriona fynychu cwrs mewn canolfan awyr agored leol a wnaeth ei galluogi i ddatblygu ei gallu i arwain disgyblion mewn gweithgareddau awyr agored. Yn ogystal â hyn, gan ei bod yn awyddus i ganfod dulliau ac arddulliau addysgu newydd y byddai modd gwneud defnydd da ohonynt, fe wnaeth hefyd ddefnyddio’r cyllid i fynychu cwrs i’w galluogi i archwilio strategaethau rheoli yn yr ystafell ddosbarth.

Meddai: “Gyda chyfarwyddyd a chefnogaeth gan fy mentor yn yr ysgol, fe wnes ddefnydd da o’r cyllid. Mae gwybod bod cefnogaeth ar gael wedi fy ngwthio i herio fy hun yn ogystal â fy nulliau addysgu mewn meysydd sydd angen eu datblygu.”

Mae Rachel Hanney, athrawes yn ei thrydedd flwyddyn yn cytuno bod y cyllid wedi cael effaith sylweddol ar ei hymarfer dysgu: “Bûm yn ffodus iawn i fynychu nifer o gyrsiau a wnaeth fy narparu â’r sgiliau a wnaeth ganiatáu i mi ffynnu yn yr ystafell ddosbarth. Gan fy mod erbyn hyn yn dysgu Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg a Chyfraith, fe wnes ddefnyddio’r cyllid i ddatblygu fy ngwybodaeth a sgiliau addysgu ymhob un o’r pynciau yr wyf yn eu haddysgu.”

Cysylltwch â ni

Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru
9fed Llawr, Eastgate House
35-43 Ffordd Casnewydd
Caerdydd, CF24 0AB

Ffôn: 029 2046 0099
Ffacs: 029 2047 5850
Twitter: http://twitter.com/#gtcwales
E-bost: gwybodaeth@gtcw.org.uk neu