CYFNOD SEFYDLU A CHYLLID DPC YN HWB I HYDER ATHRAWON

8 Tachwedd 2007

Mae Ysgol John Bright yn Llandudno yn ysgol uwchradd fawr sydd â dros 1,220 o ddisgyblion. Mae’r ysgol yn cefnogi 9 o athrawon newydd gymhwyso drwy eu cyfnod Sefydlu statudol a 15 athro pellach ym mlynyddoedd 2 a 3 gyda’u Datblygiad Proffesiynol Cynnar (DPC).

Dyma John Bagnall, cydlynydd Cyfnod Sefydlu a DPC a chydweithwyr o’r ysgol yn rhannu eu profiadau gydag “Addysgu Cymru”.

Y Cydlynydd
Athro Daearyddiaeth yn Ysgol John Bright yw John Bagnall sydd â chyfrifoldeb am holl athrawon newydd gymhwyso sy’n ymuno â’r ysgol yn ogystal ag athrawon dan hyfforddiant sy’n ymgymryd â’u hymarfer dysgu yn yr ysgol. Dywedodd John wrth Addysgu Cymru “Rwy’n cefnogi egwyddor y DPC ar gyfer athrawon ac o’r farn y dylai fod ar gael i holl athrawon ar ddechrau eu gyrfa. Yn hyn o beth, rwy’n croesawi’r gefnogaeth sydd ar gael gan AALl Conwy a ChyngACC i athrawon yn y tair blynedd gyntaf sy’n dilyn eu cyfnod hyfforddi.

Y Cyfnod Sefydlu
Meddai Emma Jones, sydd newydd gwblhau ei blwyddyn sefydlu yn yr ysgol “Gall y flwyddyn gyntaf fel athrawes fod yn gyfnod pryderus; cyfarfod â dosbarthiadau am y tro cyntaf a sylweddoli’n sydyn pa mor fawr yw’r baich gwaith sydd gennych. Mae gwybod bod yna gefnogaeth a chyllid i’ch helpu datblygu’ch sgiliau a datblygu hyder yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r hyn a all fod yn gyfnod ingol. Fe wnaeth y cymorth a gefais ar y cyrsiau a fynychais sicrhau blwyddyn gyntaf, ddidrafferth, drwy fy nghadw’n frwdfrydig ac yn weddol rydd o bwysau!”

Ar ôl mynychu dau gwrs hyfforddi a oedd yn ymwneud ag ysgogi disgyblion a chyflwyno gwersi ysbrydoledig, llwyddodd Emma hefyd i gael saib o’i gwersi ei hun ac arsylwi ei chydweithwyr yn addysgu Esboniodd: “Wrth weld pobl eraill yn addysgu, cefais fy nghysuro fy mod yn gwneud pethau yn y ffordd iawn, a rhoddodd syniadau i mi ynghylch y ffordd orau i strwythuro fy ngwersi a delio ag ymddygiad heriol. Mae gwylio gwers yn mynd yn ei blaen yn eich caniatáu i arsylwi ar yr hyn na fyddech yn sylwi arnynt fel arfer petai chi’n addysgu’r dosbarth. Fe wnaeth y gweithgareddau hyn fy nghynorthwyo i ddatblygu fy sgiliau o fewn yr ystafell ddosbarth gan nodi’r meysydd sydd angen i mi weithio arnynt. Mae hyn yn ei dro, wedi gwella fy hyder a rhoi’r awydd i mi ddal at i ddatblygu fy nulliau addysgu.”

DPC
Mae Christopher Wright, yn athro yn ei ail flwyddyn. Meddai: “Mae cyllid DPC o £1,000 y flwyddyn gan CyngACC yn fy ngalluogi i chwilio am gyrsiau y bydd yn fuddiol wrth i mi ddatblygu ymhellach fel athro. Fel rhywun a dreuliodd cyfnod byr yn Lloegr, rwyf o’r farn ein bod yn ffodus iawn yma yng Nghymru i fedru derbyn dwy flynedd ychwanegol o gyllid datblygiad proffesiynol ar ôl ein Cyfnod Sefydlu.

“Defnyddiais fy £1,000, yn ddiweddar i fynychu cwrs yn Solihull a wnaeth ymdrin ag addysgu ‘effaith uchel’ er mwyn annog mwy o ddisgyblion anniddig i ddysgu. Cefais y cyfle hefyd i fynd gydag uwch aelod o staff o fy adran i gyfarfod a drefnwyd gan CBAC ynghylch y maes llafur Gwyddoniaeth gymhwysol.”

Mae David Sweet, sydd newydd gwblhau dwy flynedd o DPC yn yr ysgol yn cytuno’n llwyr â barn ei gydweithwyr ynghylch manteision sicrwydd cyllid ar gyfer datblygiad proffesiynol yng Nghymru ar ddechrau gyrfa athro. Esboniodd: “Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf o DPC cefais gyfle i fynychu cwrs wedi ei gynllunio’n benodol ar gyfer gwella canlyniadau arholiadau TGAU. Roedd y cwrs yn fuddiol iawn ac o ganlyniad, trefnais yn fy ail flwyddyn i fynychu cwrs gwahanol a drefnwyd gan yr un person. Nawr rwy’n teimlo’n fwy hyderus o lawer wrth gyflwyno gwersi i ddosbarthiadau arholiad.”

Ychwanegodd: “Drwy fynychu cyrsiau perthnasol a mabwysiadu syniadau fy nghydweithwyr, rwyf wedi darganfod bod yna nifer o ffyrdd y gall disgyblion ddysgu nid yn unig ffeithiau newydd, ond ffyrdd i’w cofio er mwyn gwneud yn dda.”

Wrth gloi, dywedodd Elfed Morgan Morris, athro Cymraeg yn yr ysgol sydd yn ei ail flwyddyn o DPC: “Mae manteision DPC yn aruthrol. Mae cyllid gan CyngACC, cefnogaeth mentoriaid o fewn yr ysgol a chyngor gan staff ymgynghorol yr AALl wedi gwneud i mi deimlo’n hollol gartrefol ym myd addysg, a fy nghynorthwyo i ddatblygu yn ystod fy nhair blynedd gyntaf. Mae’r DPC wedi gwneud i mi sylweddoli y byddaf yn dysgu, newid a datblygu’n barhaus er lles addysg ein plant.”

Cysylltwch â ni

Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru
9fed Llawr, Eastgate House
35-43 Ffordd Casnewydd
Caerdydd, CF24 0AB

Ffôn: 029 2046 0099
Ffacs: 029 2047 5850
Twitter: http://twitter.com/#gtcwales
E-bost: gwybodaeth@gtcw.org.uk neu