ATHRAWON YN SIARAD AG ATHRAWON YN ABERTAWE

25 Gorffennaf 2008

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae athrawon o ledled Abertawe wedi bod yn ymchwilio i syniadau addysgu newydd i’w rhannu gyda chydweithwyr proffesiynol yn y rhanbarth.

Fe gynhaliodd AALl Abertawe a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe ddigwyddiad lledaenu, wedi ei ariannu ar y cyd gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngACC), i ganiatáu athrawon cynradd ac uwchradd o ledled y rhanbarth i rannu’r dulliau addysgu gorau yn ogystal ag archwilio syniadau addysgu newydd.

Drwy gydol y flwyddyn fe wnaeth yr athrawon a gymrodd rhan yn ‘Arwain y Dysgu’, ymgymryd â phrosiect ymchwil fel rhan o’u gweithgareddau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) a ariennir gan CyngACC. Gosodwyd i bob athro, y dasg o amlygu problem addysgu o fewn eu dosbarth eu hunain ac yna bu rhaid iddynt ddyfeisio a threialu modd o ddatrys y broblem honno.

Adeg y gynhadledd cafodd yr athrawon gyfle i gyflwyno eu syniad, yr ymchwil a’r ateb i weddill y grŵp. Trafodwyd amrywiaeth eang o syniadau gan gynnwys y manteision o addysgu sgiliau bysellfwrdd cyfrifiadurol, y defnydd o TASC (Meddwl yn Weithredol mewn Cyd-destun Cymdeithasol) methodoleg i wella sgiliau datrys problemau, a helpu datblygu deallusrwydd emosiynol i geisio datrys gwrthdaro ymhlith cyfoedion a’r problemau o weithio fel grŵp.

Mae Victoria Thomas wedi bod yn addysgu ers pum mlynedd ac amlygodd y broblem o siarad a gwrando ymhlith ei dosbarth Blynyddoedd Cynnar yn Ysgol Gynradd Pennard. Roedd hi’n teimlo nad oedd y plant yn gwrando ar ei gilydd a phan oeddent yn siarad doedden nhw ddim bob amser yn holi cwestiwn a oedd yn berthnasol i’r sgwrs.

Ateb Victoria i’r broblem oedd cyflwyno dull ‘cadair boeth’ y byddai’r plant yn eistedd arni ac yn mabwysiadu persona cymeriad mewn llyfr stori. Byddai’r plant eraill yn holi cwestiynau a byddai’r plentyn yn y ‘gadair boeth’ yn ceisio ateb y cwestiwn o safbwynt y cymeriad.

Wrth ddefnyddio’r ‘gadair boeth’ yn rheolaidd fe wnaeth y plant ddatblygu hunan hyder a hunan barch wrth siarad ag eraill, datblygu’r gallu i wrando a chydymdeimlo â ’r cymeriad, a hefyd cymryd tro wrth siarad.

Enwebwyd Victoria gan ei hysgol i gymryd rhan ar y cwrs, ac meddai, “Roedd cael cyfle i gwrdd ag athrawon eraill yn grêt. Roedd clywed syniadau a phrofiadau athrawon eraill o gymorth mawr a chefais fy symbylu gan y profiad.”

Meddai Dr. Sue Lyle, pennaeth datblygiad proffesiynol parhaus Ysgol Addysg Prifysgol Fetropolitan Abertawe, a drefnodd y digwyddiad DPP, “Dyma un o’r cynlluniau lledaenu gorau yng Nghymru. Profwyd hynny gan ansawdd yr ymchwil a’r syniadau a gyflwynwyd gan yr athrawon. Mae’n fraint gen i fod wedi cael y cyfle i weithio gyda grŵp o ymarferwyr mor greadigol.”

Meddai Hayden Llewellyn, dirprwy brif weithredwr CyngACC, “Mae’r digwyddiad hwn yn enghraifft wych o fanteision y cyllid DPP unigol. Yn lle pocedi ynysig o arfer da, mae digwyddiadau o’r fath yn medru helpu i ymestyn gwybodaeth a phrofiad er lles y boblogaeth ehangach o athrawon proffesiynol ledled Cymru a sicrhau bod cymaint o athrawon â phosib yn elwa o hyfforddiant unigol. Mae yna nifer o fanteision yn gysylltiedig â rhannu arfer gorau, ac mae lledaenu canlyniadau’r gweithgareddau datblygiad proffesiynol yn sicrhau bod y proffesiwn yn parhau i elwa, a bod y safonau yn yr ystafell ddosbarth yn codi”

Cysylltwch â ni

Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru
9fed Llawr, Eastgate House
35-43 Ffordd Casnewydd
Caerdydd, CF24 0AB

Ffôn: 029 2046 0099
Ffacs: 029 2047 5850
Twitter: http://twitter.com/#gtcwales
E-bost: gwybodaeth@gtcw.org.uk neu