DISGYBLION YN CYFLWYNO I ATHRAWON

25 Gorffenaf 2008

Am y tro cyntaf erioed mae cynhadledd addysgu ar gyfer athrawon wedi cynnwys disgyblion ysgol i ddangos arfer effeithiol yn yr ystafell ddosbarth ac wrth addysgu.

Fe wnaeth dros 80 o athrawon o ledled Caerdydd gymryd rhan mewn digwyddiad partneriaeth rhwng Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngACC) ac AALl Caerdydd – yn dwyn yr enw ‘Athrawon yn Siarad am Addysgu’. Buont yn rhannu arferion a ddysgwyd adeg eu gweithgaredd datblygiad proffesiynol gan ganolbwyntio ar yr heriau a’r cyfleoedd y mae’r cwricwlwm newydd yng Nghymru yn ei gynnig.

Fe wnaeth disgyblion o Ysgol Teilo Sant yng Nghaerdydd gymryd rhan yn un o’r gweithdai a ddangosodd gwahanol ffyrdd cyffrous a pherthnasol o addysgu gwyddoniaeth. Roedd disgyblion eraill o Ysgol Plasmawr yn gyfrifol am ddarparu cyflwyniad i’r cynrychiolwyr ynghylch eu gwaith fel mentoriaid, gan ddangos sut y gwnaeth hyn gefnogi eu datblygiad.

Meddai Jacquie Turnbull, dirprwy gadeiryddes Cyngor Addysgu Cyngor Cymru a oedd yn bresennol yn y gynhadledd: “Mae cyfranogiad y myfyrwyr yn dangos sut yr oeddent hwy wedi elwa ar ôl i athrawon fanteisio ar weithgarwch DPP yn pwysleisio pwysigrwydd datblygiad proffesiynol a’r angen i ehangu’r cyfleoedd sydd ar gael i athrawon. Mae digwyddiadau fel y rhain yn caniatáu lledaenu a rhannu arfer da a syniadau newydd a ddatblygir gyda chynulleidfa ehangach o lawer. Mae’r gynhadledd hefyd wedi galluogi athrawon i gwestiynu eu technegau yn yr ystafell ddosbarth a myfyrio ar eu harfer hwy eu hunain.’

Meddai trefnwr y digwyddiad Edward Jones, uwch ymgynghorydd gwella ysgolion gyda Gwasanaeth Ymgynghorol Addysg yng Nghaerdydd, “Unwaith eto mae’r gynhadledd wedi profi i fod yn gyfle rhagorol i ymarferwyr o ledled y ddinas gymryd rhan mewn trafodaethau ar y cyd sy’n ymwneud â dysgu. Rwy’n gwybod bod y cynrychiolwyr yn gwerthfawrogi’r gweithdai a’r cyflwyniadau a gafwyd gan gydweithwyr a ddarparodd cyfleoedd cyfoethog i fyfyrio ar y cyd fel pobl broffesiynol. Mae’r bartneriaeth gyda CyngACC wedi profi i fod yn ffrwythlon ac rydym yn wir gwerthfawrogi eu cefnogaeth barhaus i’n caniatáu ni fel AALl i ledaenu a rhannu arfer newydd; mae’n wych i weld athrawon yn trafod ac yn rhannu’r arfer rhagorol sydd yn mynd ymlaen yng Nghaerdydd.”

Adeg y gweithdai, siaradodd athrawon o ysgolion yn y brifddinas ar amrywiaeth o bynciau yn ogystal â thrafod materion.

Fe wnaeth y gweithdai ganiatáu i’r athrawon siarad o brofiad personol yng nghyd-destun eu hysgolion. Cawsant ymateb da iawn gan athrawon, gydag un yn datgan, “Mae bob amser yn dda i glywed am yr hyn sydd yn digwydd mewn ysgolion eraill, dwi’n meddwl bod y gynhadledd yn ddigwyddiad pwysig iawn.”

Yng ngweithdai’r prynhawn, cynhaliwyd sesiwn ar ‘datblygu pŵer dysgu’ – sut i annog dysgwyr i fod yn fwy annibynnol, a chreu syniadau creadigol i ennyn diddordeb gwyddonwyr ifanc.

Roedd yr adborth a ddaeth i law yn dilyn y digwyddiad yn gadarnhaol dros ben gydag athrawon yn datgan eu bod nhw’n bwriadu ymgeisio am nawdd DPP er mwyn archwilio cyfleoedd tebyg i ymchwilio a datblygu.

Cysylltwch â ni

Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru
9fed Llawr, Eastgate House
35-43 Ffordd Casnewydd
Caerdydd, CF24 0AB

Ffôn: 029 2046 0099
Ffacs: 029 2047 5850
Twitter: http://twitter.com/#gtcwales
E-bost: gwybodaeth@gtcw.org.uk neu