31 Ionawar 2008
Mae Patricia Ann Jones, uwch- athrawes, yn hynod o falch ei bod hi wedi diogelu cyllid ar gyfer ei chynllun ‘Cyfamodwyr Lle Chwarae’ yn Ysgol Gynradd Plasnewydd, Pen-y-bont ar Ogwr, drwy Raglen Gyllid Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngACC).Cynlluniwyd cynllun Patricia i wella rôl a sgiliau’r cymodwyr lle chwarae, ac i roi strwythur i’w rôl. Mae’r cymodwyr, sydd yn gweithio mewn parau, yn cofnodi unrhyw ddigwyddiadau sy’n digwydd yn y lle chwarae, ac mae manylion unrhyw wrthdaro yn cael ei storio ar ffeil, ynghyd â thaflenni adolygu wythnosol.
Yn dilyn hyfforddiant ‘On track’ a ddarparwyd gan arbenigwr, fe wnaeth Patricia ymgymryd â sesiynau ‘amser cylch’ gyda disgyblion blwyddyn 6 yn yr ysgol er mwyn cyflwyno’r fframwaith ar gyfer Cyfamodwyr Lle Chwarae. Fe wnaeth hi hefyd arsylwi’r technegau hyfforddi ar gyfer cyfryngu ymhlith disgyblion.
Meddai Patricia; “Roedd yr hyfforddiant gan Lisa Shepherd yn ddefnyddiol dros ben. Roedd y cyfarfodydd adolygu wythnosol gydag arweinwyr y Cymodwyr yn gyfle pwysig i mi fonitro llwyddiant y cynllun. Fel rhan o fy swyddogaeth fel (uwch) athrawes, mae gennyf y cyfrifoldeb o fonitro prosiectau ysgol, y mae cyfamodwyr y lle chwarae wedi ffurfio rhan allweddol ohono. Roedd yr amcanion clir ar gyfer y cyfamodwyr yn ddefnyddiol iawn, yn galluogi’r disgyblion a oedd yn ymgymryd â’r rôl i ddatblygu hyder ychwanegol, yn ogystal â’u helpu i ddatblygu un o’r sgiliau allweddol ym mywyd. Fe wnaeth y gweithgaredd hefyd fy helpu i ehangu fy nealltwriaeth o’r amrywiol sgiliau cyfryngu sydd eu hangen i ddatrys gwahanol fathau o anghytundebau rhwng disgyblion.”
Dywedodd Hayden Llywellyn, Dirprwy Brif Weithredwr CyngACC: “ Mae cyfran sylweddol o’r boblogaeth addysgu yng Nghymru wedi cymryd mantais o raglen gyllid DPP y Cyngor. Mae athrawon yng Nghymru yn cymryd eu datblygiad proffesiynol o ddifri ac rydym wrth ein bodd ein bod yn medru helpu Patricia i ddatblygu ei chynllun cyfamodwyr lle chwarae a’i ddatblygu o fewn yr ysgol”.
Mae CyngACC wedi cymryd y camau i sicrhau bod y cyllid DPP i athrawon yn hawdd i’w gyrchu. Danfonir gwybodaeth a ffurflenni cais at holl athrawon cymwys ac mae modd eu llwytho i lawr o wefan CyngACC, sef www.gtcw.org.uk.
I ddarganfod mwy am y bwrsarïau datblygiad proffesiynol sydd ar gael, yn ogystal â chymhwysedd, cysylltwch â Thîm Datblygiad Proffesiynol y Cyngor ar 029 2055 0350 neu e-bostiwch Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.