Hwiangerddi yn Ysbrydoli Sesiynau Dawns y Babanod

31 Ionawar 2008

Mae Sarah Rebbeck, athrawes fabanod o Bowys wedi llwyddo i ymgorffori cyfuniad o symudiad creadigol ac iaith Gymraeg i’w dosbarthiadau, diolch i grant bwrsari drwy raglen gyllid Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngACC).

Roedd Sarah, o Ysgol Waddoledig Dame Anna Child ym Mhowys, am wella ei dulliau haddysgu Symudiad Creadigol gyda’i dosbarth Blynyddoedd Cynnar, ar ôl mynychu cyfres o dri chwrs undydd yn dwyn yr enw ‘Dawns: Defnyddio Symudiad Creadigol gyda Phlant Ifanc’, dan arweiniad 'Powys Dance'. Fe ddatblygodd ei sgiliau newydd ymhellach drwy ddyfeisio cyfres o wersi dawns mewn cysylltiad â’r themâu; Lle rwy’n byw, Fi fy hun, a Hwiangerddi, tra hefyd yn ymgorffori rhywfaint o’r iaith Gymraeg i’r sesiynau.

Meddai Sarah; “Rydw i ond rhan o’r ffordd drwy’r cwrs, ond rwyf eisoes yn teimlo ei fod wedi fy helpu i wella’r ffordd yr wyf yn mynd ati i addysgu dawns ac mae fy nosbarth wedi mwynhau’n profiad yn fawr iawn. Cynlluniwyd fy nghyfres bwrpasol o wersi dawns i weddu gyda’n cynllun cwricwlwm dwy flynedd, a bydd modd eu hailgyflwyno eto ymhen dwy flynedd.”

Dywedodd Hayden Llewellyn, Dirprwy Brif Weithredwr CyngACC: "Mae cyfran sylweddol o’r boblogaeth addysgu yng Nghymru wedi manteisio ar raglen gyllid DPP y Cyngor. Mae athrawon yng Nghymru yn cymryd eu datblygiad proffesiynol o ddifri ac rydym wrth ein bodd ein bod yn medru helpu Sarah i wella’i haddysgu.”

Mae CyngACC wedi cymryd y camau i sicrhau bod y cyllid DPP i athrawon yn hawdd i’w gyrchu. Danfonir gwybodaeth a ffurflenni cais at holl athrawon cymwys ac mae modd eu llwytho i lawr o wefan CyngACC, sef www.gtcw.org.uk.

I ddarganfod mwy am y bwrsarïau datblygiad proffesiynol yn ogystal â chymhwyster, cysylltwch â Thîm Datblygiad Proffesiynol y Cyngor ar 029 2055 0350 neu e-bostiwch Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld. .

Cysylltwch â ni

Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru
9fed Llawr, Eastgate House
35-43 Ffordd Casnewydd
Caerdydd, CF24 0AB

Ffôn: 029 2046 0099
Ffacs: 029 2047 5850
Twitter: http://twitter.com/#gtcwales
E-bost: gwybodaeth@gtcw.org.uk neu