31 Ionawr2008
Athrawes Fathemateg o Aberhonddu yn defnyddio Drama i wella Hyder Disgyblion
Mae Anne Banning, athrawes Fathemateg yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu wedi darganfod ffordd arloesol o gynyddu hyder ei disgyblion a gwella’u cymhelliant, diolch i Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngACC). Syniad Anne oedd defnyddio drama yn yr ystafell ddosbarth, drwy greu sefyllfaoedd a oedd yn ildio swyddogaeth yr athro gan adael i’r plant ymgymryd â swyddogaethau’r oedolion. Fel rhan o’r sefyllfa, fe wnaeth Anne gyflwyno problemau mathemategol fel canrannau, a oedd angen eu datrys fel rhan o’r ddrama.
Mae Anne o’r farn bod y gweithgareddau wedi helpu eu disgyblion i wella’u sgiliau mathemateg a’u canlyniadau arholiadau. Wedi trafod y cysyniadau addysgu gyda staff eraill yn yr adran, mae hi wedi dyfeisio nifer o sefyllfaoedd eraill i’w treialu. Mae hi hefyd yn sefydlu rhwydwaith o athrawon o ysgolion eraill er mwyn derbyn adborth ehangach ynglŷn â manteision yr ymagwedd hon.
Meddai Mrs Banning; “Roedd myfyrio ar y gweithgaredd yn brofiad diddorol a symbylol. Adeg y cwrs a gynhaliwyd ym mhencadlys yr NUT fe wnaeth un o’r swyddogion ddatgan bod fy ngweithgaredd wedi creu cryn dipyn o ddiddordeb. Hoffwn arsylwi ar athrawon yn rhoi cynnig ar wahanol ymagweddau yn y wlad hon neu hyd yn oed dramor, gan y bydd gwir angen syniadau newydd i gynnal diddordeb a chymhelliant plant mewn pynciau fel mathemateg. Yn ogystal â meithrin gwell chymhelliant, fe wnes i hefyd ddarganfod bod y fath weithgareddau wedi gwella fy mherthynas gyda’r disgyblion.”
Dywedodd Hayden Llywellyn, Dirprwy Brif Weithredwr CyngACC: “ Mae cyfran sylweddol o’r boblogaeth addysgu yng Nghymru wedi cymryd mantais o raglen gyllid DPP y Cyngor. Mae athrawon yng Nghymru yn cymryd eu datblygiad proffesiynol o ddifri ac rydym wrth ein bodd ein bod yn medru helpu Anne Banning i wella ei sgiliau mathemateg drwy ddefnyddio technegau arloesol fel y rhain”.
Mae CyngACC wedi cymryd y camau i sicrhau bod y cyllid DPP i athrawon yn hawdd i’w gyrchu. Danfonir gwybodaeth a ffurflenni cais at holl athrawon cymwys ac mae modd eu llwytho i lawr o wefan CyngACC, sef www.gtcw.org.uk.
I ddarganfod mwy am y bwrsarïau datblygiad proffesiynol yn ogystal â chymhwyster, cysylltwch â Thîm Datblygiad Proffesiynol y Cyngor ar 029 2055 0350 neu e-bostiwch Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld. .