10 Ebrill 2007
Yn ôl yr athrawon dosbarth Peter Morris a Caroline Howlett, mae nifer o strategaethau dysgu a hyrwyddwyd gan Brifysgol yr Oes Gyntaf (UFA) ac a weithredwyd yn Ysgol Gynradd Kitchener yng Nghaerdydd wedi gwella presenoldeb disgyblion o 89% i 92%.
Wrth siarad mewn cynhadledd datblygiad proffesiynol parhaus, ‘Athrawon yn Siarad am Ddysgu’, roedd athrawon Ysgol Gynradd Kitchener yn medru rhannu manteision ymgorffori’r strategaethau dysgu a methodoleg yr UFA, a sefydlwyd gan yr addysgwr yr Athro Tim Brighouse. Trefnwyd y gynhadledd gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru a Chyngor Sir Caerdydd ar gyfer athrawon ysgolion cynradd o fewn y rhanbarth, a chynhelir cynhadledd bellach ar gyfer athrawon uwchradd ar 3 Mai.
Mae 87% o’r disgyblion sy’n mynychu Ysgol Gynradd Kitchener, sydd wedi ei lleoli yn ardal Glan-yr-afon, Caerdydd yn dod o gefndir lleiafrif ethnig, gyda 40% ohonynt yn derbyn ciniawau ysgol am ddim a 35% ohonynt ag anghenion addysgol arbennig. Yn y cyswllt hwn, roedd yr athrawon yn medru cyflwyno nifer o strategaethau i’r ysgol a wnaeth newid arfer yr ysgol yn gyfan gwbl.
Cyflwynwyd cynllun hyfforddi cyfoedion yn yr ysgol yn 2004, sydd yn caniatáu disgyblion Blwyddyn 5 i fynychu diwrnod hyfforddi i’w galluogi i ‘hyfforddi’ disgyblion blwyddyn 1. Dros gyfnod o dair blynedd, mae’r staff wedi sylwi newid aruthrol o ran ymddygiad ac agwedd disgyblion tuag at ddysgu.
Meddai Peter Morris: “Cafodd gynllun hyfforddi cyfoedion cryn effaith ar arfer ystafell ddosbarth. Gwelwyd cynnydd ym mhresenoldeb disgyblion blwyddyn 5 a benodwyd yn diwtoriaid cyfoedion, yn bennaf oherwydd teimlant eu bod yn werthfawr ac yn cael eu parchu yn yr ysgol a’u bod nhw’n bwysig a chanddynt rhywbeth i’w gyfrannu. Fe wnaeth un disgybl hyd yn oed ddatgan mai bod yn diwtor oedd ei llwyddiant mwyaf yn yr ysgol!”
Cyflwynwyd hefyd ‘Ddiwrnodau dysgu arbennig’ yn yr ysgol, gyda disgyblion yn cyrraedd cyn amser ysgol am frecwast iach, a chael eu cyfarparu â ‘bag dysgu’ sy’n cynnwys yr holl bethau hynny sy’n creu dysgwr effeithiol. Rhoddir crys T Prifysgol yr Oes Gyntaf i bob disgybl, sy’n creu ymdeimlad o berthyn i’r ysgol. Mae’r diwrnod cyfan wedi ei gynllunio i helpu disgyblion greu syniadau i’w cynorthwyo gyda’u dysgu. Anogir hefyd, weithgareddau y tu allan i oriau ysgol, gyda chlwb sillafu penigamp a chlwb mathemateg a gynhelir gan yr ysgol, sy’n cynnig cyfle i ddisgyblion gymryd rhan yn wirfoddol.
Ychwanegodd Caroline Howlett: “Mae adborth gan y disgyblion ar Ddiwrnodau Dysgu Arbennig bob amser yn gadarnhaol, gyda gwelliant amlwg mewn hunan barch a chynnydd o ran hyder.”
Ychwanegodd Edward Jones, uwch ymgynghorydd gwella ysgolion, gwasanaeth cynghori Caerdydd: “Mae ysgol Gynradd Kitchener yn esiampl wych o ysgol sy’n annog disgyblion i ddyfod yn ddysgwyr gweithredol a chydweithrediadol. Mae’r rhain yn agweddau allweddol o gwricwlwm arfaethedig 2008 yng Nghymru sydd anelu i fod yn seiliedig ar sgiliau ac yn ganolog i’r dysgwr”.
Meddai Gary Brace, prif weithredwr Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, a wnaeth ariannu’r hyfforddiant DPP a fynychwyd gan staff Kitchener: “Yn ystod y 6 mlynedd y bu CyngACC yn gweinyddu rhaglen Datblygiad Proffesiynol Parhaus y Cynulliad, manteisiodd athrawon ledled Cymru ar dros 25,000 o gyfleoedd i dderbyn cyllid. Rwy’n falch bod y rhaglen hon nid yn unig yn cwrdd ag anghenion proffesiynol athrawon unigol, ond bod ganddo effaith uniongyrchol ar arfer ystafell ddosbarth ac felly ar addysg eu disgyblion. Byddwn yn annog athrawon i gysylltu â’n tîm datblygiad proffesiynol os ydynt am gyrchu’r cyllid DPP.”
I ddarganfod mwy am y bwrsarïau datblygiad proffesiynol parhaus sydd ar gael, a chymhwyster, cysylltwch â Thîm Datblygiad Parhaus y Cyngor ar 029 2055 0350 neu e-bostiwch Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld. .