Mae athrawes o Ysgol Uwchradd Ioan Fedyddiwr, Aberdâr yn un o ddim ond wyth o athrawon yng Nghymru i gwblhau cynllun treialu llawn cyntaf y llwybr achredu i gael statws Athro Siartredig yng Nghymru.
Bu Fiona Bell yn arweinydd y cwricwlwm hanes yn yr ysgol ers 12 mlynedd ac roedd yn rhan o gynllun treialu llwybr achredu'r rhaglen Athro Siartredig sy'n cael ei datblygu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngACC). Bydd y rhaglen hon yn rhoi cyfle i athrawon profiadol sydd ynghanol eu gyrfa i gael cydnabyddiaeth broffesiynol am yr hyn y maent yn ei gyflawni fel athrawon os llwyddant i gyrraedd y safon ddynodedig.
Meddai Ms Bell am ei phrofiadau: "Fe wnes i gais i gymryd rhan yn y cynllun peilot Athro Siartredig gan fy mod i'n chwilio am gyfle ar gyfer datblygiad proffesiynol sylweddol. Mae'r llwybr achredu yn rhoi hynny i chi. Roedd gen i ddiddordeb arbennig yn y rhan o'r cwrs sy'n gofyn am adfyfyrio beirniadol gan y byddai hyn yn rhoi cyfle i mi feddwl am yr hyn yr oeddwn eisoes wedi'i wneud a sut i symud ymlaen yn fy ngyrfa.
"Trwy adfyfyrio, gyda chymorth dogfennau addysgol, llwyddais i feddwl am fy ngwaith proffesiynol mewn goleuni newydd a bu o les mawr i mi. Rwyf wedi dod i ddeall y theori y tu ôl i fy ngwaith yn y dosbarth yn well. Roedd yn brofiad braf iawn cael gwybod fy mod yn cyrraedd safonau Athro Siartredig."
Bu Ms Bell yn dilyn rhaglen dreialu'r llwybr achredu am flwyddyn a rhoddodd hynny gyfle iddi ddatblygu portffolio o dystiolaeth am ei phrofiad a'i gyrfa fel athrawes.
Roedd rhaid iddi ddangos ei bod yn gallu cyflawni dros 28 o safonau Athro Siartredig mewn tri maes allweddol; gwybodaeth a dealltwriaeth broffesiynol, sgiliau proffesiynol ar waith ac ymrwymiad proffesiynol.
"I mi, y broses o adfyfyrio beirniadol oedd yn rhoi'r boddhad mwyaf," meddai Ms Bell. "Roedd rhai o'r casgliadau y des i iddyn nhw yn fy synnu – ond yn fy mhlesio hefyd. Serch hynny, roedd yn fodd o gadarnhau'r hyn sydd bwysicaf i mi fel athrawes broffesiynol.
"Yn fy marn i, mae hwn yn ddatblygiad da i'r proffesiwn addysgu yng Nghymru. Bydd yn cynnig cymhwyster ar gyfer arweinwyr canol a chydnabyddiaeth bwysig o'u gallu proffesiynol.
"I rai athrawon, fel fi, gall helpu hefyd i gadarnhau eu bod yn barod i symud ymlaen at swydd arweinydd uwch. Dyna sydd wedi digwydd i mi ac rwyf wrthi'n ymgeisio am y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP)."
Wrth sôn am y cynllun peilot, dywedodd Hayden Llewellyn, dirprwy brif weithredwr y CyngACC: "Ceir trefniadau datblygiad proffesiynol cenedlaethol clir ar gyfer athrawon ar ddechrau eu gyrfa a rhai sy'n mynd ymlaen i gael eu hyfforddi i fod yn benaethiaid. Fodd bynnag, does dim trefniadau cenedlaethol ar gyfer mwyafrif mawr yr athrawon sydd ynghanol eu gyrfa. Gobeithio y bydd y statws Athro Siartredig yn llenwi'r bwlch hwn ymhen amser.
"Anelir y rhaglen at athrawon sydd â dros bum mlynedd o brofiad, sy'n dymuno datblygu eu sgiliau addysgu ac arwain ac ehangu eu gwybodaeth a'u sgiliau proffesiynol, ac sy'n dangos ymrwymiad i ragoriaeth yn yr ystafell ddosbarth."
Ychwanegodd Hayden Llewellyn: "Rydym wrthi'n adolygu pob agwedd ar y cynllun peilot Athro Siartredig. Hyd yma, bu'r ymateb anffurfiol i gynllun peilot y llwybr achredu yn eithriadol o gadarnhaol ac rydym yn edrych ymlaen at gael gwerthusiad annibynnol o'r rhaglen cyn diwedd yr haf."
Bydd rhagor o fodiwlau peilot y rhaglen Athro Siartredig a Addysgir yn dechrau ym mis Medi. Caiff modiwlau mewn 'Hunanwerthuso ac Adfyfyrio' eu rhedeg ar y cyd gan UWIC ac ESIS yn y de ac ar y cyd gan Gonsortiwm De Orllewin a Chanolbarth Cymru (swamwac) a Choleg Prifysgol y Drindod yn y gorllewin. Bydd Prifysgol Bangor a Chymdeithas Penaethiaid Ysgolion Arbennig Gogledd Cymru yn cydlynu modiwl ar 'Addysg i Bawb' yn y gogledd. Bydd yr athrawon sy'n cymryd rhan yn cael cymorth ariannol llawn gan CyngACC. Os hoffech ragor o wybodaeth, ewch i www.gtcw.org.uk neu ffoniwch 02920 550350