Mae athrawes o Ysgol Bryn Alyn yn Wrecsam yn un o ddim ond wyth o athrawon yng Nghymru i gwblhau cynllun treialu llawn cyntaf y llwybr achredu i gael statws Athro Siartredig yng Nghymru.
Athrawes fathemateg yw Mary Lee a bu'n cymryd rhan yng nghynllun treialu'r rhaglen Athro Siartredig sy'n cael ei datblygu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngACC). Bydd y rhaglen hon yn rhoi cyfle i athrawon profiadol sydd ynghanol eu gyrfa i gael cydnabyddiaeth broffesiynol am yr hyn y maent yn ei gyflawni fel athrawon os llwyddant i gyrraedd y safon ddynodedig.
Meddai Ms Lee am ei phrofiadau: "Yr hyn y gwnes i ei fwynhau orau oedd y ddau ddiwrnod ar y cwrs pryd y cawson ni gyfarfod â gweddill y grŵp, cymharu profiadau a sgwrsio am y gwaith yr oedden ni wedi'i wneud.
"Mi gefais i bod ysgrifennu am fy mhrofiad fel athrawes yn help mawr i adfyfyrio ar fy ngwaith a meddwl pa feysydd y gallwn eu gwella.
"Byddai cyflwyno statws Athro Siartredig yng Nghymru o gymorth mawr i godi safonau a gwneud athrawon yn fwy proffesiynol, gan y byddai athrawon yn cael eu hannog i ymdrechu i wella eu hunain er mwyn cyrraedd y safonau angenrheidiol."
Bu Ms Lee yn dilyn rhaglen dreialu'r llwybr achredu am flwyddyn a rhoddodd hynny gyfle iddi ddatblygu portffolio o dystiolaeth am ei phrofiad a'i gyrfa fel athrawes.
Roedd rhaid iddi ddangos ei bod yn gallu cyflawni dros 28 o safonau Athro Siartredig mewn tri maes allweddol; gwybodaeth a dealltwriaeth broffesiynol, sgiliau proffesiynol ar waith ac ymrwymiad proffesiynol.
Wrth sôn am y rhaglen beilot, dywedodd Hayden Llewellyn, dirprwy brif weithredwr CyngACC: "Ceir trefniadau datblygiad proffesiynol cenedlaethol clir ar gyfer athrawon ar ddechrau eu gyrfa a rhai sy'n mynd ymlaen i gael eu hyfforddi i fod yn benaethiaid. Fodd bynnag, does dim trefniadau cenedlaethol ar gyfer mwyafrif mawr yr athrawon sydd ynghanol eu gyrfa. Gobeithio y bydd y statws Athro Siartredig yn llenwi'r bwlch hwn ymhen amser.
"Anelir y rhaglen at athrawon sydd â dros bum mlynedd o brofiad, sy'n dymuno datblygu eu sgiliau addysgu ac arwain, ac ehangu eu gwybodaeth a'u sgiliau proffesiynol, ac sy'n dangos ymrwymiad i ragoriaeth yn yr ystafell ddosbarth."
Y rhai oedd yn cynghori ar y rhaglen beilot oedd Phil Bassett, Deon Dysgu ac Addysgu a phennaeth Ysgol Addysg Prifysgol Glyndŵr, a'r Athro Ken Jones, Deon y Dyniaethau ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe. Roedd y ddau ohonynt yn chwarae rhan amlwg yn y grŵp gorchwyl a fu'n cynghori ar ddatblygiad y rhaglen beilot Athro Siartredig.
Meddai'r Athro Ken Jones: "Aeth cynllun peilot y llwybr achredu'n dda iawn ac roedd yr athrawon a gymerodd ran yn frwd ac yn weithgar iawn. Roedd yr athrawon a ymdaflodd yn llwyr i'r rhaglen yn teimlo eu bod wir wedi datblygu er gwell fel athrawon, arweinwyr ac unigolion.
"Er bod pob un ohonynt yn athrawon medrus a phrofiadol, roedd gofyn iddynt edrych yn fwy beirniadol ar eu gwaith. Pan gewch eich herio fel athro i edrych yn ddyfnach ac yn ehangach ar eich gwaith, fe ddechreuwch weld beth rydych yn ei wneud yn dda a beth nad ydych yn ei wneud cystal.
"Os edrychwch ar y ffordd y mae'r proffesiwn yn newid mewn gwledydd eraill, mae'n amlwg bod angen i'r gwaith da y mae athrawon dosbarth yn ei wneud yng Nghymru gael ei gydnabod yn glir, ac mae cynllun yr Athro Siartredig yn un ffordd o wneud hynny.
"Mae'n bwysig bod y safonau ar gyfer statws Athro Siartredig yn cael eu gosod yn uchel ac mae rhai athrawon eisoes wedi dangos eu bod yn gweithredu ar y lefel hon, yn aml heb gydnabyddiaeth.
"O ran manteision ehangach niferus y rhaglen, bydd statws Athro Siartredig yn galluogi penaethiaid ysgolion ac eraill i sicrhau bod safon uchel rhai o'u staff yn cael ei gydnabod yn ffurfiol ac i wneud defnydd da o hyn trwy gefnogi datblygiad proffesiynol aelodau eraill o staff yr ysgol a'r tu hwnt."
Roedd pob un o'r athrawon oedd yn cymryd rhan yn cael cynghorydd i'w helpu trwy gydol cyfnod y cynllun peilot ac roedd Prifysgol Glyndŵr yn darparu gwefan fel y gallai'r athrawon rwydweithio â'i gilydd trwy bostio sylwadau a chwestiynau, a thrwy lawrlwytho adnoddau i'w helpu i baratoi eu portffolios.
Meddai Hayden Llewellyn o CyngACC: "Rydym wrthi'n adolygu pob agwedd ar y cynllun peilot Athro Siartredig. Hyd yma, bu'r ymateb anffurfiol i gynllun peilot y llwybr achredu yn eithriadol o gadarnhaol ac rydym yn edrych ymlaen at gael gwerthusiad annibynnol o'r rhaglen cyn diwedd yr haf."
Bydd rhagor o fodiwlau peilot y rhaglen Athro Siartredig a Addysgir yn dechrau ym mis Medi. Caiff modiwlau mewn 'Hunanwerthuso ac Adfyfyrio' eu rhedeg ar y cyd gan UWIC ac ESIS yn y de ac ar y cyd gan Gonsortiwm De Orllewin a Chanolbarth Cymru (SWAMWAC) a Choleg Prifysgol y Drindod yn y gorllewin. Bydd Prifysgol Bangor a Chymdeithas Penaethiaid Ysgolion Arbennig Gogledd Cymru yn cydlynu modiwl ar 'Addysg i Bawb' yn y gogledd. Bydd yr athrawon sy'n cymryd rhan yn cael cymorth ariannol llawn gan CyngACC. Os hoffech ragor o wybodaeth, ewch i www.gtcw.org.uk neu ffoniwch 02920 550350