Corff safonau addysgu’n annog Llywodraeth Cynlluniad Cymru i gau bwlch yn y rheoliadau

Mae Cyngor Dysgu Cyffredinol Cymru (GTCW) yn galw am gofrestru hyfforddwyr ac athrawon sydd wedi’u hyfforddi dramor sy’n dysgu mewn ysgolion ledled Cymru.

Mae’r GTCW am i hyfforddwyr gael eu rheoleiddio i sicrhau bod pob athro’n cadw at safonau priodol ymddygiad a hyfedredd proffesiynol.

Gall hyfforddwyr â chymwysterau neu brofiad arbennig ymgymryd â “gwaith penodol” athro heb oruchwyliaeth cyhyd â nad oes athrawon wedi’u cymhwyso’n briodol ar gael a bod y cyflogwr yn fodlon eu bod wedi’u cymhwyso’n addas.

Ond ers cyflwyno Cynllun Archwilio a Rhwystro ym mis Hydref y llynedd, mae bwlch wedi ymddangos sy’n golygu nad yw hyfforddwyr wedi’u rheoleiddio gan unrhyw gorff canolog.

Eglurodd Gary Brace, prif weithredwr GTCW: “Rydym yn amcangyfrif bod tua 100 o hyfforddwyr yn gweithio ar hyn o bryd mewn ysgolion yng Nghymru, a llawer yn aml wedi bod mewn ysgolion ers peth amser. Rydyn ni’n awr yn y sefyllfa lle y gall dau berson sy’n ymgymryd â dyletswyddau tebyg gael eu diswyddo am reswm tebyg. Ond byddai’r athro cofrestredig yn cael ei gyfeirio at GTCW, tra na byddai’r hyfforddwr yn cael ei archwilio gan unrhyw awdurdod rheoleiddio a byddai’n rhydd i barhau i weithio fel athro mewn ysgol arall.”

Mae nifer fach o athrawon hefyd o’r tu allan i’r Ardal Ewropeaidd a allai hefyd ddysgu am gyfnod hyd at ddwy flynedd heb unrhyw ffurf o reoleiddio.

Mae GTCW wedi ysgrifennu at Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg, i gynghori y dylai unigolion sy’n gwneud gwaith penodol athro, heb oruchwyliaeth, gael eu cofrestru dros dro gyda GTCW, gan greu categori cofrestru newydd.

Dyma’r sefyllfa eisoes yn Lloegr, lle y mae hyfforddwyr ac athrawon sydd wedi’u hyfforddi dramor yn cael eu cofrestru dros dro gan Cyngor Dysgu Cyffredinol Lloegr ers mis Medi 2008.

Meddai Gary Brace, prif weithredwr GTCW: “Rydym am sicrhau rhieni bod pawb sy’n dysgu ein plant heb oruchwyliaeth wedi’u rheoleiddio.

“Fel sefydliad rydym yn ymrwymedig i hybu’r safonau uchaf yn y proffesiwn addysg, ac rydym am sicrhau bod yr holl unigolion sy’n dysgu mewn ysgolion ledled Cymru’n athrawon medrus sy’n ymddwyn yn briodol.”

Mae GTCW yn gofyn i Lywodraeth Cynulliad Cymru ystyried cyflwyno rheoliadau newydd cyn gynted ag y bo modd i sicrhau bod hyfforddwyr ac athrawon sydd wedi’u hyfforddi dramor yn cael eu rheoleiddio’n broffesiynol.

 

Cysylltwch â ni

Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru
9fed Llawr, Eastgate House
35-43 Ffordd Casnewydd
Caerdydd, CF24 0AB

Ffôn: 029 2046 0099
Ffacs: 029 2047 5850
Twitter: http://twitter.com/#gtcwales
E-bost: gwybodaeth@gtcw.org.uk neu