Comisiynydd Plant yn annog ysgolion ‘dysgu trwy lygaid y disgyblion’

Bydd Comisiynydd Plant Cymru, Keith Towler, yn amau heno (Hydref 3) a oes gan ddisgyblion y genedl lais go iawn mewn ysgolion.

Bum mlynedd ar ôl cyflwyno cynghorau ysgolion gorfodol yng Nghymru, bydd Mr Towler yn herio addysgwyr i edrych yn fanylach ar a yw'r system yn gweithio mewn gwirionedd i blant a phobl ifanc.

Mae'i sylwadau yn Narlith Addysg Cymru, a fydd yn cael ei thraddodi i gannoedd o athrawon ac addysgwyr eraill yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd heno (3 Hydref). Mae'r ddarlith yn cael ei threfnu'n flynyddol gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru i amlygu'r prif faterion sy'n wynebu'r sector.

Ynddi mae'n gofyn: "Ydyn ni'n gwrando go iawn ar blant a phobl ifanc, ydyn ni'r gweld llais y disgyblion fel ffordd wirioneddol o wella safonau yn ein hysgolion?

"Rwy'n credu ein bod wedi cyrraedd croesfan ac mae'n rhaid i ni ddadansoddi pa mor effeithiol mae cynghorau ysgolion ac ymhellach mae'n rhaid i ni holi a oes yna ymrwymiad ystyrlon i'r ffordd y mae ysgol gyfan yn cysylltu â disgyblion.

"Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i wneud cynghorau ysgolion yn orfodol ac mewn rhai ysgolion maen nhw wedi taro'r hoelen ar ei phen: mae ganddyn nhw arweinwyr ysbrydoledig, athrawon sy'n gwrando ac yn gweithio gyda'r plant a phobl ifanc i'w helpu i gyrraedd eu llawn botensial.

"Fodd bynnag, mewn ysgolion eraill nid yw'r ddarpariaeth yr hyn y bwriadwyd ac am y rheswm hwnnw mae gennym gyfrifoldeb, nid i anwybyddu'r mater, ond i ganfod a dileu'r rhwystrau. Rydyn ni angen arweinyddiaeth gref oddi wrth benaethiaid a modelau rôl cryf ymysg y disgyblion eu hunain er mwyn gwneud i hyn gweithio," ychwanegodd.

Bydd Mr Towler yn cydnabod fod rhai yn honni fod mwy o gyfranogaeth wedi arwain at gynnydd mewn 'pŵer disgybl' amhriodol.

Ond meddai: "Yn fy mhrofiad i o ymweld ag ysgolion o gwmpas Cymru'n rheolaidd, mae'r realiti'n wahanol iawn. Ble mae cyfranogaeth disgyblion yn gweithio'n effeithiol mae'n seiliedig ar barch yr athrawon a'r disgyblion at ei gilydd.

"Yn union fel mae Cymru wedi arwain mewn llawer o agweddau eraill o bolisi plant a phobl ifanc, rwy'n credu y dylen ni hefyd fod yn arloeswyr ynghylch llais y disgybl," ychwanegodd.

Sefydlwyd Darlith Addysg Cymru'n gyntaf yn 2004 gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, y corff sy'n gyfrifol am gynnal safonau mewn dysgu a hyrwyddo statws y proffesiwn dysgu. Ei bwriad yw rhoi cyfle bob blwyddyn i'r rhai sy'n darparu neu'n dylanwadu ar addysg i glywed syniadau arloesol a thrafod y problemau sy'n effeithio ar y sector ar hyn o bryd.

Mae'r cyn siaradwyr yn cynnwys yr Athro Shirley Williams, cyn Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth y DU, y Farwnes Estelle Morris a'r cynhyrchydd ffilm enwog yr Arglwydd Puttnam.

 

Cysylltwch â ni

Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru
9fed Llawr, Eastgate House
35-43 Ffordd Casnewydd
Caerdydd, CF24 0AB

Ffôn: 029 2046 0099
Ffacs: 029 2047 5850
Twitter: http://twitter.com/#gtcwales
E-bost: gwybodaeth@gtcw.org.uk neu