CyngACC yn galw am gysondeb wrth addysgu pobl ifanc 14-19 oed

26 Chwefror 2009

Heddiw, ysgrifennodd Cyngor Addysgu cyffredinol Cymru (CyngACC) at John Griffiths, Gweinidog Sgiliau Cymru, yn galw am hunanreoleiddio proffesiynol yn y sector Addysg Bellach.

Mae’r Cyngor yn galw am weithredu brys er mwyn sicrhau gwell cysondeb a chydlyniad wrth addysgu pobl ifanc 14-19 oed. Daw hyn mewn ymateb i’r ffaith bod ysgolion a cholegau yn gweithio fwyfwy mewn partneriaeth i ddarparu dewis dilys o lwybrau dysgu fel rhan o agenda ‘Trawsnewid Addysg’ Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Gyda’r gofyn ar ysgolion i sicrhau darpariaeth alwedigaethol ar gyfer disgyblion, mae hyn yn debygol o gynyddu nifer yr athrawon AB mewn ysgolion. Er bod nifer o athrawon AB eisoes yn addysgu’r un grŵp o bobl ifanc 14-19 oed, a hynny fel athrawon ysgol, mae yna wahanol setiau o safonau a rheoliadau proffesiynol. Mae CyngACC yn galw am gysondeb yn yr ymagwedd tuag at athrawon mewn ysgolion a cholegau AB.”

Esboniodd Mal Davies, Cadeirydd CyngACC a phennaeth Ysgol Uwchradd Willows yng Nghaerdydd, “Croesewir gwell hyblygrwydd mewn llwybrau dysgu ar gyfer pobl ifanc 14-19 oed, ond y mae hefyd yn amlygu’r anghysondebau yn y ffordd y mae dysgwyr ac athrawon yn cael eu trin ar draws y ddwy sector.

“Waeth beth yw sefyllfa’r ysgol, mae gan rieni a’r cyhoedd yr hawl i dderbyn sicrwydd bod yna gorff proffesiynol sy’n ysbrydoli’r safonau uchaf posib o ymddygiad proffesiynol yn ogystal â gwella cyfleoedd datblygu ar gyfer athrawon.
Cred CyngACC y byddai athrawon AB yn buddio o gorff ymreolaethol, uchel ei broffil ac uchel ei barch a fyddai’n ysbrydoli’r safonau proffesiynol uchaf posib, achredu’r rhaglenni addysg gychwynnol i athrawon a chreu fframwaith ar gyfer datblygiad proffesiynol a datblygu gyrfaoedd yn ogystal â darparu llais a chyfeiriad ar faterion addysgu.

Enghraifft o faes sy’n pryderu CyngACC y byddai modd i gorff rheoleiddio fynd i’r afael ag ef, yw’r gwahaniaeth sy’n bodoli rhwng y mathau o gymwysterau sydd gan athrawon ysgol a rhai athrawon AB. Mae’r papur sefyllfa yn amlygu’r ffaith y bydd amrywiadau o fewn y gweithlu yn debygol o ganlyniad amrywiaeth y ddarpariaeth AB sy’n bodoli. Er enghraifft, mae’n bosib na fydd gan ddarlithydd sydd heb raddio, a gyflogir yn rhan amser gan sefydliad oherwydd ei grefft, neu sgil proffesiynol, unrhyw ddarpariaeth ffurfiol ar gyfer addysgu.

Byddai corff proffesiynol mewn AB yn medru hyrwyddo a gwella arfer broffesiynol drwy godi safonau, ac efallai yn yr achos hwn, drwy fynnu bod darlithwyr AB yn ennill cymhwyster addysg gychwynnol o fewn terfyn amser penodol.

I gloi, meddai Mal Davies, “Cred y Cyngor y byddai sefydlu corff proffesiynol ar gyfer AB, gydag annibyniaeth a chyllid digonol i gefnogi ei rhaglen waith yn hynod o gynorthwyol o ran datblygiad proffesiynol y gweithlu AB. Byddai hefyd yn cyflwyno manteision eraill o ran codi statws athrawon AB; cynnig gwell sicrwydd ansawdd i ddysgwyr, cyflogwyr a’r cyhoedd; a chreu gwell cysondeb a chydlyniad rhwng ysgolion a cholegau.

“Mae’r Cyngor yn galw am ymgynghoriad llawn gydag athrawon AB ynglŷn â’r hyn y dylai egwyddorion a swyddogaethau allweddol cyrff proffesiynol ei gynnwys.”

Mae testun llawn papur safbwynt CyngACC “Cydlyniaeth a Chysondeb ym maes Addysg 14-19 - y Ddadl dros Hunanreoleiddio Proffesiynol ym maes Addysg Bellach” ar gael ar ffurf PDF yma (PDF 90k)