Y Farwnes Williams yn pryderu bod y cwricwlwm yn ffrwyno creadigrwydd athrawon – ond ddim yng Nghymru
22 Ionawr 2009
Mae maint dosbarthiadau ac effaith ffrwynol cwricwlwm rhagnodol yn y DU yn effeithio ar greadigrwydd yn yr ystafell ddosbarth medd y Farwnes Shirley Williams wrth iddi annerch pumed Darlith Addysg Cymru.
Cafodd dros 230 o bobl eu denu i glywed Y Farwnes Williams o Crosby yn trafod addysg yng Nghymru, a chafodd ei sylwadau ynglŷn â maint dosbarthiadau dderbyniad gwresog gan y gynulleidfa o athrawon ac addysgwyr o ledled Cymru.
Wedi ei drefnu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngACC), mae Darlith Addysg Cymru, a oedd eleni yn dwyn y teitl ‘Ysgolion yn y gymuned: canolgylch newid’ - wedi datblygu’n ddigwyddiad pwysig yn y calendr addysg, felly’n darparu cyfle i arbenigwyr o bob agwedd o fyd addysg yng Nghymru glywed ffigwr blaenllaw yn trafod materion addysg, a hefyd i rwydweithio gyda gweinidog addysg Cymru, llunwyr polisïau a ffigyrau amlwg ym myd addysg.
Nododd y Farwnes Williams bod ymreolaeth athrawon wedi difa dros amser gyda chyflwyniad y cwricwlwm cenedlaethol ar ddiwedd yr 80au ond teimlai hefyd bod camu i ffwrdd o brofion cyfnod allweddol yn rhoi mwy o ryddid i athrawon addysgu yn hytrach na pharatoi plant ar gyfer arholiadau yn gyson.
Cymeradwyodd Lywodraeth Cynulliad Cymru am arwain y ffordd, yn gyntaf drwy ddiddymu tablau cynghrair i ysgolion ac yna’r profion yng Nghyfnodau Allweddol 1 a 2. Dywedodd: “Mae tablau cynghrair yn adlewyrchu allbwn yn unig heb gyfeirio at y mewnbwn. Mae’n anodd i athro fod yn frwdfrydig pan na chydnabyddir eu hymdrechion o weithio gyda phobl ifanc dan anfantais gymdeithasol a chyrhaeddiad isel sydd ar gychwyn mewn addysg uwchradd. Mae tablau cynghrair yn tanseilio’r gwahaniaeth mae’r athrawon hyn yn ei wneud gan eu bod nhw’n cydnabod llwyddiant academaidd yn unig. Prin yw eu gwerth, a rhaid llongyfarch Cymru ar waredu ar y fath dablau cynghrair ar y cyfle cyntaf.”
Fe aeth thema’r Farwnes ar ddadrithiad ymhlith pobl ifanc yn ei flaen pan archwiliodd y cysylltiadau rhwng gwaharddiadau ysgol a throseddau ieuenctid, gan ddatgan pa mor isel mae lefelau gwahardd disgyblion yn y tymor hir ac yn barhaol yn yr Alban o gymharu â Chymru a Lloegr.
Meddai: “Mae defnyddio gwaharddiadau i wella’r gymdeithas ysgol wedi creu effaith niweidiol ar gymdeithas ar y cyfan. Mae gwahardd disgyblion yn peri unigedd ac yn hepgor ysgogiad.” Fe nododd hefyd effaith diet gwael, rhianta gwael a diffyg disgyblaeth yn y cartref ac awgrymodd y gallai amgylchedd strwythuredig ysgolion preswyl y wladwriaeth helpu bobl ifanc sy’n wynebu’r fath rhwystrau.
Trafodwyd hefyd yn narlith y Farwnes, y pwysau a’r beichiau y mae penaethiaid yn eu hwynebu. Er gwaetha’r ffaith eu bod nhw “wedi hyfforddi’n well nag erioed o’r blaen,” teimlai bod recriwtio penaethiaid yn broblem bellach, nid oherwydd diffyg sgiliau ymhlith y proffesiwn addysgu, ond oherwydd bod cyn lleied am gymryd y baich.
Teimlai bod lefelau’r cyllid, sy’n annhebygol o gynyddu o ystyried yr hinsawdd economaidd sydd ohoni ar hyn o bryd, ynghyd â chymarebau disgybl: athro anffafriol o 24.5:1 mewn ysgolion cynradd yn y DU (o gymharu ag ychydig dan 15:1 yn Ewrop) yn peri sefyllfaoedd anodd mewn ysgolion, a bod addysgu ar sail un i un bron yn amhosib bellach. Ar y nodyn hwnnw, fe gyhoeddodd bod cyflwyno Cynorthwywyr Addysgu yn, “ddarganfyddiad rhyfeddol”, a oedd yn caniatáu cynhesrwydd, amynedd ac anwyldeb i ddychwelyd i’r ystafell ddosbarth brysur.
Aeth y ddarlith ymlaen i archwilio pwysigrwydd agenda’r Llwybrau Dysgu 14-19 datblygol yng Nghymru. “Mae yna wahanol fathau o ddeallusrwydd, nid yn unig academaidd,” meddai’r Farwnes Williams. Fe hyrwyddodd y pwysigrwydd o feithrin “deallusrwydd ymarferol” a’r angen i ddatblygu gwell llwybrau addysg galwedigaethol ac anacademaidd er mwyn paratoi pob person ifanc ar gyfer y dyfodol. Cymeradwyodd waith Bagloriaeth Cymru o ran darparu dewis hygred i’r llwybr TGAU/Safon Uwch/Gradd Prifysgol academaidd draddodiadol i’r gweithle.
I gloi, rhoddodd y Farwnes Williams ystyriaeth i ymglymiad cynyddol cymunedau mewn ysgolion. Atgoffwyd y gynulleidfa mai gwirfoddolwyr oedd llywodraethwyr ysgol a bod cynnydd ym miwrocratiaeth mewn peryg o yrru allan y llywodraethwyr lleol sy’n cysylltu’r ysgol â’i chymuned. Meddai: “Fe ddaw addysg yn y gymuned â phobl yn ôl i’r gymuned y cawsant eu heithrio ohoni. Dylem annog pobl ifanc 14-19 oed i ryngweithio mwy gyda grwpiau meithrin a phobl hŷn, efallai drwy wahodd y fath grwpiau i’r ysgol neu ganiatáu disgyblion i weithio gyda hwy.”
I gloi, fe ddywedodd bod yn rhaid croesawu’r ddadl ynglŷn â maint dosbarthiadau ac nad oedd modd gorbwysleisio gwerth addysg galwedigaethol.
Mae araith lawn y Farwnes Williams adeg pumed Darlith Addysg Cymru i’w chlywed ar-lein ar www.gtcw.org.uk/annual_lecture_cym.html.
