Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn dechrau ymgynghori ar ei God Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol

Mae Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngACC) yn annog athrawon, undebau a'r cyhoedd i ymateb i'w God Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol a fydd i'w weld am y tro cyntaf ar 20 Hydref 2009.

Mae'r cod, sy'n amlinellu'r ymddygiad a'r safonau ymarfer a ddisgwylir gan athrawon cofrestredig yng Nghymru, yn ddatblygiad ar y canllawiau presennol – ac mae CyngACC yn awyddus i athrawon, undebau, rhanddeiliaid allweddol, rhieni a'r cyhoedd yn gyffredinol helpu i'w lunio yn ystod y cyfnod ymgynghori o dri mis.

Meddai Gary Brace, prif weithredwr CyngACC: "Mae athrawon yn batrymau ymddygiad pwysig yn ein cymdeithas ac maent mewn sefyllfa ddylanwadol a chyfrifol. Nod y cod diwygiedig yw sicrhau eglurdeb a dealltwriaeth fel bod athrawon yn gwybod yn iawn pa safonau ymddygiad a ddisgwylir oddi wrthynt.

"Yn ogystal, mae'r cod newydd yn rhoi lles plant yn gyntaf trwy bennu ffiniau clir o ran ymddygiad a safonau ymarfer priodol / amhriodol ar gyfer athrawon cofrestredig. Bydd hefyd yn sicrhau tryloywder ac eglurdeb fel y bydd y cyhoedd yn gwybod pa fath o ymddygiad y gellir ei ddisgwyl gan athrawon.

"Nid yw hyn yn newydd. Y cyfan yw'r cod yw datblygiad ar yr hyn sydd gennym eisoes. Ond cyn ei gyflwyno'n derfynol, byddem yn croesawu ymateb fel y gallwn ystyried barn pobl sy'n ymwneud â maes addysg a rhai y mae'n effeithio arnynt."

Yng Nghymru, cytunwyd ar y cod proffesiynol cyntaf i athrawon ym mis Ionawr 2002 ar ôl cyfnod o ymgynghori. Cytunwyd ar god diwygiedig ym mis Ionawr 2006 a'i gynnwys mewn dwy ddogfen Datganiad Gwerthoedd ac Arfer Proffesiynol a Proffesiynoldeb ar Waith. Caiff hyn ei droi'n un dogfen ddarllenadwy o'r enw Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol.

Dros y tri mis nesaf, bydd pob athro cofrestredig yng Nghymru yn cael gwybodaeth am y cod diwygiedig gyda chyhoeddiad CyngACC Addysgu Cymru ac fe'u gwahoddir i ymateb iddo. Bydd y cod i'w weld ar wefan CyngACC (www.gtcw.org.uk) o 20 Hydref ymlaen fel y gall aelodau'r cyhoedd gynnig eu sylwadau ac fe'i hanfonir at grwpiau o randdeiliaid allweddol fel undebau athrawon, Awdurdodau Addysg Lleol a sefydliadau Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon (HAGA). Yn ogystal, bydd CyngACC yn casglu ymateb ansoddol trwy gynnal tri grŵp ffocws – un bob un yn y de, y gogledd a'r canolbarth – gydag athrawon o wahanol rannau o'r proffesiwn.

Bydd y cod diwygiedig yn golygu bod gan y proffesiwn safonau tebyg i eraill sydd â rhan bwysig i'w chwarae mewn cymdeithas fel nyrsys, bydwragedd, deintyddion a meddygon, sydd i gyd yn cael eu rheoli gan eu gwahanol godau.

Bydd y cod hefyd yn sicrhau cysondeb â'r proffesiwn mewn gwledydd eraill gan mai CyngACC yw'r unig gyngor addysgu yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon sydd â chyfrifoldebau disgyblu ond sydd heb god yn pennu'r safonau gofynnol ar gyfer rheoleiddio'r proffesiwn.

Aeth Gary Brace ymlaen: "Mae hybu proffesiynoldeb athrawon a hyrwyddo'r safonau uchaf o ran arferion ac ymddygiad proffesiynol er lles y cyhoedd yn rhan bwysig o waith CyngACC. Roedd y ddeddfwriaeth yn nodi bod disgwyl i god gael ei gyflwyno.

"Bu cyngor ar gael i athrawon erioed am y safonau disgwyliedig ac nid yw llawer o'r wybodaeth a'r cyngor yn newydd. Yr hyn y mae'r cod newydd arfaethedig yn ei wneud yw nodi hyd yn oed yn gliriach beth yw'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan athrawon. Mae wedi'i ddiweddaru i gymryd i ystyriaeth ddatblygiadau technolegol fel tecstio a defnyddio gwefannau rhwydweithio cymdeithasol.

"Mae'r cod yn defnyddio synnwyr cyffredin wrth amlinellu pa fath o ymddygiad a ddisgwylir gan athrawon ac nid yw'n ceisio rhoi disgwyliadau na beichiau afresymol arnynt – naill ai yn eu bywyd proffesiynol na'u bywyd preifat.

"Mae'r rhan fwyaf o athrawon o bell ffordd yn deall hyn ac ni fuont gerbron gwrandawiad disgyblu erioed. Yn wir, yn fy mhrofiad i, y grŵp o bobl sy'n disgwyl yr ymddygiad gorau gan athrawon yw'r athrawon eu hunain!

"Dylid pwysleisio nad oes dim wedi'i benderfynu hyd yma ac hoffwn annog pawb i fynd i'n gwefan i gael dweud eu dweud cyn y dyddiad cau ar 31 Ionawr 2010."

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar God Ymddygiad ac Ymrfer Proffesiynol Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn dechrau ar 20 Hydref ac yn para tan 31 Ionawr 2010. I ddweud eich dweud, ewch i yma.

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar God Ymddygiad ac Ymrfer Proffesiynol Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn dechrau ar 20 Hydref ac yn para tan 31 Ionawr 2010. I ddweud eich dweud, ewch i