Marciau uchel i gynllun peilot yr Athrawon Siartredig
Mae Mal Davies, cadeirydd CyngACC, wedi ysgrifennu at y Gweinidog dros Addysg yn Llywodraeth Cynulliad Cymru yn galw am i'r Rhaglen gael ei hariannu'n llwyr a'i chyflwyno ym mis Medi 2010, gan gynyddu i gael ei gweithredu'n llawn erbyn 2014. Byddai hynny'n golygu bod rhyw 500 o athrawon yn cael cymryd rhan bob blwyddyn.
Cefnogir yr argymhelliad hwn gan werthusiad annibynnol o gynllun peilot dwy flynedd y Rhaglen Athro Siartredig, a gynhaliwyd gan y Ganolfan er Ymchwil Addysg Gymhwysol yn Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd, ar ran CyngACC.
Mae CyngACC yn datblygu'r Rhaglen Athro Siartredig i roi cyfle i athrawon profiadol sydd yng nghanol eu gyrfa i gael cydnabyddiaeth broffesiynol am yr hyn y maent yn ei gyflawni ac i helpu i godi statws a safon addysgu yng Nghymru.
Roedd cyfanswm o 122 o athrawon yn cymryd rhan yn y cynllun peilot cyntaf rhwng mis Medi 2007 a mis Gorffennaf 2009. Bu 114 o'r rhain yn treialu nifer o fodiwlau a addysgwyd ac a oedd wedi'u hanelu at athrawon dosbarth ac arweinwyr canol. Bu wyth yn dilyn y Llwybr Portffolio sy'n gofyn i athrawon profiadol gyflwyno portffolio o waith i ddangos eu bod yn cyrraedd y safonau angenrheidiol i fod yn Athro Siartredig.
Mae cynllun peilot estynedig yn cael ei gynnal ar hyn o bryd ar rai agweddau o'r cynllun. Y bwriad yw ei gwblhau erbyn mis Mawrth 2010 er mwyn sicrhau bod y Rhaglen Athro Siartredig yn hollol barod ar gyfer y lansio yn nes ymlaen eleni.
Cynhaliodd y tîm gwerthuso eu hasesiad trwy gyfuniad o ddulliau ymchwil yn cynnwys holiadur, cyfweliadau wyneb-yn-wyneb a dros y ffôn, arsylwi mewn sesiynau addysgu, adolygu dogfennau a mynd i gyfarfodydd darparwyr.
Yn ôl yr adroddiad, mae gan y Rhaglen Athro Siartredig gryn botensial i ddatblygu ansawdd addysgu mewn ysgolion, i alluogi athrawon arbenigol mewn ysgolion i fod yn arweinwyr, ac i gefnogi nifer o strategaethau addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel y Fframwaith Effeithlonrwydd Ysgolion.
Felly, mae'n argymell y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ystyried rhoi'r Rhaglen Athro Siartredig ar waith yn llawn yng Nghymru, fel rhan o'r arolwg presennol o'u rhaglen datblygiad proffesiynol parhaus a'u rhaglen datblygu arweinwyr.
Meddai'r Athro David Egan, o'r Ganolfan er Ymchwil Addysg Gymhwysol: "Ysgrifennwyd y gwerthusiad ar ran tîm a oedd yn cynnwys un o brifathrawon mwyaf blaenllaw Cymru a thri athro medrus a phrofiadol. Os caiff ein hargymhellion ni eu mabwysiadu, credwn fod gan gynllun yr Athro Siartredig botensial mawr i ddatblygu'r proffesiwn addysgu yng Nghymru a chodi safon addysgu yn ein hysgolion.'
Meddai Hayden Llewellyn, dirprwy brif weithredwr CyngACC: "Mae'r arolwg annibynnol hwn o'r cynllun peilot yn dangos yn glir faint o les y gallai'r rhaglen ei wneud i'r proffesiwn addysgu yng Nghymru ac i'r system addysg ehangach.
"Ceir trefniadau datblygiad proffesiynol clir ar raddfa genedlaethol ar gyfer athrawon ar ddechrau eu gyrfa a rhai sy'n mynd ymlaen i gael eu hyfforddi i fod yn benaethiaid. Fodd bynnag, does dim trefniadau cenedlaethol ar gyfer mwyafrif mawr yr athrawon sydd ynghanol eu gyrfa. Gobeithio y bydd y Gweinidog yn gwneud penderfyniad cyn hir i ariannu'r Rhaglen Athro Siartredig er mwyn cau'r bwlch hwn yn fuan.
"Er bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi penderfynu'n ddiweddar eu bod am gwtogi ar arian ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus, mae'n hollol hanfodol eu bod yn cefnogi'r cynlluniau i fabwysiadu'r Rhaglen Athro Siartredig fel mater o flaenoriaeth.
"Yn ogystal, bydd y rhaglen yn help i hybu safonau addysgu ac i godi statws y proffesiwn i lefel proffesiynau eraill sydd ar lefel debyg."
Os bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru'n cytuno i brif ffrydio'r Rhaglen Athro Siartredig, mae CyngACC yn gobeithio y bydd yr athrawon cyntaf yn dechrau ar y Llwybr Portffolio ym mis Medi 2010 gyda'r nod o ennill Statws Athro Siartredig ym mis Chwefror 2012, ac y bydd athrawon ar y Llwybr Rhaglen yn dechrau ym mis Medi 2011 gyda'r nod o ennill Statws Athro Siartredig o 2013 ymlaen.
Astudiaeth Achos
Cynllun Peilot Estynedig – Modiwl Bangor
Fel rhan o gynllun peilot estynedig y Rhaglen Athro Siartredig, mae grŵp o athrawon yn y Gogledd wrthi'n gweithio ar fodiwl o'r enw 'Addysg i Bawb'. Caiff y modiwl ei ddarparu ar y cyd gan Brifysgol Bangor a Chymdeithas Prifathrawon Ysgolion Arbennig Gogledd Cymru.
Nod y modiwl fydd datblygu ymwybyddiaeth athrawon o'r heriau a'r rhwystrau sy'n eu hwynebu wrth addysgu pob disgybl mewn system addysg gynhwysol sy'n hybu tegwch cymdeithasol, a rhoi cyfle i athrawon ystyried nifer o ffyrdd creadigol ac arloesol o ymateb i'r heriau hyn.
Bydd yr asesiad ar ffurf prosiect yn yr ysgol a'r nod fydd galluogi'r rhai sy'n cymryd rhan i ystyried sut y mae eu hysgol nhw yn darparu ar gyfer amrywiaeth ymhlith y disgyblion. Mae'r athrawon wedi penderfynu'n ddiweddar pa agwedd ar amrywiaeth y maent am ei hystyried er mwyn ceisio canfod ffordd fwy effeithiol o weithredu.
Mae Sarah Mason, 36 oed, pennaeth dros dro yr adran ieithoedd tramor modern yn Ysgol Uwchradd y Fflint, a fu'n athrawes ers wyth mlynedd, wedi penderfynu ystyried mater gofalwyr ifanc ar gyfer eu hasesiad hi. Bydd Sarah yn cydweithio â Barnados i weld sut y gellir canfod gofalwyr ifanc yn yr ysgol a sut y gellir eu cefnogi.
Meddai Sarah: "Fe hoffwn i ystyried pa fath o rwydwaith cefnogi y gallwn ni, fel ysgol, ei gynnal a sut y gallwn helpu gofalwyr ifanc i'w helpu eu hunain. Yn aml, nid yw athrawon yn hollol ymwybodol o fater gofalwyr ifanc ac felly rwy'n teimlo y gall fy mhrosiect i fod o gymorth ymarferol i rai o ddisgyblion yr ysgol.
"Mae addysg gynhwysol yn wirioneddol bwysig ac felly mae'n bwysig ein bod ni, yr athrawon, yn gwybod beth yw anghenion ein holl fyfyrwyr. Rydym wedi bod yn dysgu'n fwy manwl am hyn fel rhan o'r modiwl Athro Siartredig.
"Mae'r modiwl wedi bod yn eithriadol o ddiddorol hyd yma ac mae wedi agor fy llygiad i nifer o faterion na fyddwn wedi cael cyfle i'w hystyried fel arall. Byddaf i'n sicr yn dymuno parhau â'r cwrs i ennill cymhwyster Athro Siartredig os caiff y cynllun ei brif ffrydio yng Nghymru."
Un arall sy'n cymryd rhan yn y cynllun peilot yw Julia Williams, sydd hefyd yn athrawes yn Ysgol Uwchradd y Fflint. Mae Julia, sy'n 52 oed, yn athrawes ers wyth mlynedd ac, fel Pennaeth yr Adran Gelf, bydd yn edrych ar fater disgyblion galluog a thalentog ym maes celf. Mae Julia'n bwriadu cynnal archwiliad o weithgareddau sydd wedi'u targedu at ddisgyblion galluog a thalentog trwy'r ysgol gyfan ac yna ganolbwyntio ar weithgareddau dysgu ar gyfer disgyblion galluog a thalentog ym maes celf a dylunio.
Meddai Julia: "Mae cymryd rhan yn y Cynllun Athro Siartredig wedi rhoi cyfle i ni ddeall gwahanol agweddau ar addysgu yn fwy trwyadl. Rwy'n sicr o'r farn y byddai'r cynllun yn dod â llawer o fanteision i'r proffesiwn addysgu gan ei fod yn rhoi cyfle i athrawon ystyried yr hyn y maent yn ei ddysgu a sut y gallent wella gwahanol agweddau arno."
Caiff y modiwl hwn ei gwblhau ym mis Chwefror 2010 a bydd canlyniadau'r modiwl a'r ymateb iddo yn helpu i ddatblygu llwybr rhaglen y cynllun Athro Siartredig.
