Bydd Mal Davies yn ymddeol mewn rhai wythnosau ar ôl chwe blynedd fel cadeirydd Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru. Yma mae’n edrych yn ôl ar yr hyn y mae’r corff wedi ei gyflawni yn ogystal â’r hyn sy’n wynebu addysgu yng Nghymru yn y dyfodol.
Mae addysgu’n rhan ganolog o’n cymdeithas. Gellir dadlau mai hwn yw sylfaen cyrhaeddiad a gwelliant ym mhob maes galwedigaethol arall – gwyddoniaeth, technoleg a’r celfyddydau – ac yn sicr mae’n helpu ffurfio bywydau miliynau o bobl.
Bu sefydlu Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CynACC) yn 2000, a’r cyrff cyffelyb yn Lloegr a Gogledd Iwerddon yn yr un flwyddyn, yn garreg filltir sylweddol ar gyfer y proffesiwn allweddol hwn ym Mhrydain.
Golygai, am y tro cyntaf, y byddai’n meddu ar yr un hawl i’w reoli ei hun ag sydd wedi bod yn ddisgwyliedig mewn meysydd eraill megis meddygaeth, y gyfraith a chyfrifeg ers sawl cenhedlaeth.
Yn sylfaenol, rhoddwyd y cyfrifoldeb dros sicrhau fod safonau mewn dosbarthiadau ledled Cymru’n cael eu cynnal a’u gwella’n gyson i’r athrawon eu hunain, ac y byddai pob un fyddai’n dysgu plant ein cenedl yn ymroi i gynnal y safonau hynny.
Fel aelod o’r Cyngor am ddeng mlynedd, ac yn gadeirydd am chwech o’r rheiny, mae wedi bod yn fraint cymryd rhan mewn troi’r freuddwyd honno’n realiti.
Roedd yn y cyngor o 25 aelod gyfuniad digymar o brofiad addysgu ac arbenigedd gan gynnwys unigolion allweddol o bob un o’r prif undebau athrawon ac ymarferwyr o bob lefel o addysg.
Trwy sgwrsio gydag athrawon, undebau athrawon, rhieni, llywodraethwyr ac amryw eraill sy’n ymwneud â’r proffesiwn, llwyddodd CynACC i greu strwythur cryf sy’n gweithredu fel amddiffynfa a hyrwyddwr addysg.
Mae’r gofrestr broffesiynol gyda 39,000 o enwau y’i crëwyd, y Cod Ymddwyn y mae wedi ei osod, a’r system drylwyr ond teg ar gyfer ymdrin â chyhuddiadau yn erbyn athrawon am ffaeleddau neu gamymddwyn nawr yn gweithredu fel mur gynhaliol i danategu statws addysgu yng Nghymru.
Maent yn cynnig strwythur sydd nid yn unig yn cynnal enw da addysgu ond yn rhoi hyder i rieni ac eraill o fewn y gymuned bod addysg plant yn nwylo pobl gwir broffesiynol.
Mae datblygu a pherffeithio system sensitif ond teg ar gyfer ymdrin â chyhuddiadau yn erbyn y lleiafrif bychan o athrawon sydd, yn ôl yr honiadau, yn anfodloni’r gofynion proffesiynol hyn, yn un o gyraeddiadau allweddol CynACC.
Ond, dim ond un rhan o’r darlun yw’r agwedd amddiffynol hon. Mae’r sefydliad hefyd wedi chwarae rhan bwysig wrth chwifio’r faner i groesawu cyfnod newydd o ddatblygu proffesiynol ymysg athrawon.
Trwy redeg rhaglen ariannu ar gyfer Anwytho a Datblygiad Proffesiynol Cynnar, cynllun ysgoloriaeth hynod boblogaidd ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) dros Lywodraeth Cynulliad Cymru, a thrwy arbrofi gyda, a hyrwyddo fframweithiau ar gyfer sgiliau allweddol megis y rhaglen Athrawon Siartredig, mae’r CynACC wedi helpu llunio diwylliant newydd lle mae mwy o athrawon nac erioed yn cymryd cyfrifoldeb dros ddatblygu eu sgiliau a thros eu cynnydd gyrfaol eu hunain.
Aethpwyd i’r afael â dros 35,000 o brosiectau unigol trwy’r rhaglen DPP dros y naw mlynedd diwethaf, gan ddod a sgiliau a gweledigaethau newydd i’r dosbarth er budd disgyblion. Ymhellach, mae’r rhaglen Athrawon Siartredig wedi denu diddordeb a chefnogaeth o bob cwr yn ystod y cyfnod arbrofol.
Mae’r rôl ddeublyg hon fel amddiffynwr a hyrwyddwr i’r proffesiwn nawr yn bwysicach nac erioed wrth i addysg yng Nghymru wynebu sawl her newydd mewn amgylchedd addysgiadol sy’n newid o hyd.
Er enghraifft, bydd athrawon yn cymryd rhan ganolog yng nghyflwyniad Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion (FfEY) gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r ‘Cymunedau Dysgu Proffesiynol’ y bydd yn eu creu er mwyn gwella canlyniadau dysgwyr.
Bydd athrawon hefyd ar flaen y gad gydag ymgyrch gydunol Llywodraeth y Cynulliad i chwalu problemau llythrenedd yng Nghymru.
Ymhellach, bydd sgiliau a chymhwysedd athrawon yn cael eu rhoi ar brawf o ganlyniad i’r cynydd mewn technoleg gwybodaeth yn y dosbarth a’r posibiliadau cyffrous y mae hynny’n eu codi.
Nawr yn fwy nac erioed, mae angen proffesiwn cryf, hunan reoledig ar Gymru er mwyn parhau i fod ar y blaen.
Os rhywbeth, rhaid i ffiniau hunan reolaeth gael eu hehangu i gynnwys rhai eraill sy’n gweithio ym maes addysg.
Er enghraifft, gyda dyfodiad yr Agenda Gweddnewid i Gymru, mae’n debyg y bydd mwy o ddarlithwyr coleg addysg bellach a thiwtoriaid yn eu canfod ei hunain yn gweithio mewn ysgolion, gyda mwy o ddisgyblion, mae’n bur debyg, yn treulio o leiaf rhan o’u hamser dysgu mewn coleg. Yn sicr, mae achos i’r ymarferwyr yma gael eu cofrestru yn yr un modd ag athrawon.
Felly hefyd mae disgyblion y dyddiau yma’n llawer mwy tebygol o gael cyswllt dydd i ddydd gyda chynorthwywyr dosbarth ac felly mae cofrestru a rheoli’r staff hyn yn bwnc arall sy’n mynnu sylw.
Mae addysg, fel ag erioed, yn amgylchedd ddeinamig ac mae cryn dipyn wedi newid yn ystod y chwe blynedd yr wyf i wedi bod yn gadeirydd CynACC. Yn hyn o beth, mae’r sefydliad ei hun wedi gorfod addasu, ac mae’n parhau i addasu er mwyn wynebu pob her newydd.
Os rhywbeth, mae’r angen am hyrwyddwr a rheolwr i’r proffesiwn yng Nghymru wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd hynny, wrth i’r proffesiwn fynd i’r afael â diwallu’r gofynion newydd hyn.
Mae dyfodol hunan reolaeth dros y ffin wedi ei gwestiynu’n ddiweddar yn dilyn y cyhoeddiad gan Lywodraeth San Steffan bod GTC Lloegr am gael ei ddiddymu.
Mae gan Gymru, ar y llaw arall, gyfle i adeiladu ymhellach ar yr hyn sydd wedi ei gyflawni gan ei chyngor dysgu cyffredinol ac i ddefnyddio’r profiad a’r arbenigedd cyfunol i helpu mynd ag agenda unigryw ac uchelgeisiol yn ei blaen.
Wrth i mi drosglwyddo’r awenau i’m holynydd, Angela Jardine, rwy’n hyderu y bydd y Cyngor, a’r bartneriaeth unigryw y mae’n ei gynrychioli trwy’r proffesiwn dysgu ar ei hyd yn parhau i chwarae rhan allweddol mewn addysgu cenedlaethau newydd.
Mae Mal Davies yn bennaeth Ysgol Uwchradd Willows yng Nghaerdydd ac ef yw cadeirydd Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru sydd ar fin ymadael â’r swydd.