Athro mewn ysgol gynradd yn y Barri oedd un o’r cyntaf yn y wlad i orffen modiwl hyfforddi arloesol newydd sy’n anelu at osod addysgwyr Cymru yn bendant ar y brig.

Bu Mike Chapman, o’r Bont-faen sy’n aelod o staff Ysgol Gynradd Oakfield, yn cymryd rhan mewn modiwl peilot estynedig o dan gynllun peilot Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngACC) ar gyfer Athrawon Siartredig.
Mae’r rhaglen yn cael ei datblygu gan y Cyngor i roi cyfle i athrawon profiadol sydd yng nghanol eu gyrfa sicrhau cydnabyddiaeth broffesiynol, gan helpu i godi statws a safon addysgu yng Nghymru.
Ar ôl cwblhau treial blwyddyn o’r llwybr achredu, a fu’n fodd iddo greu portffolio o dystiolaeth o’i yrfa a’i brofiad fel athro, gwirfoddolodd Mike i gymryd rhan yn y peilot estynedig er mwyn ehangu eto ar ei wybodaeth a’i fedrau.
O dan y teitl ‘Hunan-arfarnu, Myfyrio a Datblygu Personol’, cafodd y modiwl ei drefnu gan SWAMWAC, Consortiwm Awdurdodau Addysg y De-orllewin a’r Canolbarth, a Choleg y Drindod, Caerfyrddin.
Mae Mike Chapman yn athro ers 14 blynedd. Ar ôl pedair blynedd yn athro cyflenwi yng Nghaergrawnt ac yn y De mae wedi treulio’r deng mlynedd diwethaf yn Oakfield a chymerodd ran yn y modiwl cyntaf un ar gyfer athrawon Siartredig, ‘Siarad er Meddwl’ yn 2007 ar ôl ymateb i hysbyseb yng nghylchlythyr CyngACC.
“Roedd gen i awydd rhoi cynnig arni, bues i’n ffodus i gael fy newis, ac es i i Brifysgol Fetropolitanaidd Abertawe i gwblhau fy mhrosiect gweithredol cyntaf,” meddai.
Mae ei agwedd anarferol at y prosiect ymchwil yn golygu nid yn unig fod Mike yn elwa ar ymagwedd newydd at ei arddull addysgu, ond hefyd fod ei ddisgyblion yn meithrin eu hunan-hyder.
“Fe ddechreues i gyda'r syniad o ofyn i’r plant sut roedden nhw’n credu eu bod yn dysgu, a chan bwy roedden nhw’n dysgu,” ychwanegodd.
“Wrth gwrs roedd y mwyafrif o’r farn eu bod yn dysgu gen i. Ond y cynllun oedd ceisio dod â syniadau Asesu ar gyfer Dysgu i’r stafell ddosbarth, gyda’r plant yn dysgu oddi wrth eu hunain ac oddi wrth ei gilydd, yn ogystal â’r athrawon.”

Roedd Mike yn disgwyl i’r addasu fod yn anodd. “Roedd gofyn imi wneud newid sylweddol yn fy nulliau i achos roeddwn i’n eitha cyffyrddus fel eu prif ffynhonnell gwybodaeth. Ond mwya i gyd roeddwn i’n addysgu’r modiwl, mwya i gyd roeddwn i’n gweld y plant yn eu holi eu hunain.”
Canlyniad hyn oedd bod y newid yn y plant yn ‘anhygoel’ meddai Mike. “Daethon nhw’n grŵp o blant mor hunan-hyderus, ac rwy’n falch iawn o hynny.”
Ar ôl cwrs preswyl yng Ngholeg y Drindod a rhagor o waith gartref ac yn yr ysgol, cyflwynodd Mike waith ysgrifenedig i CyngACC yn gynharach eleni cyn clywed ei fod wedi cyrraedd y safon.
Roedd y sesiynau yn y coleg yn canolbwyntio ar bwysigrwydd cynllun datblygu personol i alluogi athrawon i fyfyrio ar eu galluoedd a’u cryfderau personol gan ganiatáu iddyn nhw adolygu eu gyrfa’n onest ac yn wrthrychol.
Rhoddwyd cyngor ar y cynllun peilot gan yr ymgynghorydd Lynne Walters ac Andi Morgan, Cynghorydd Gwella Ysgolion gyda Chyngor Sir Caerfyrddin.
“Mae’r math yma o hyfforddiant ar lefel uwch i bobl sy’n addysgu ers blynyddoedd yn fuddiol iawn am nad yw ar gael yn unman arall,” meddai Mike. “ac roedd yn ymestynnol o safbwynt academaidd ac yn ddifyr iawn hefyd.”