Athro o Borthmadog yn helpu i arloesi cynllun i wella medrau addysgwyr Cymru

Athro o Borthmadog oedd un o’r cyntaf yn y wlad i orffen modiwl hyfforddi arloesol newydd sy’n anelu at osod addysgwyr Cymru yn bendant ar y brig.

011

Bu Gwyn Owen, Pennaeth addysg gorfforol a Phennaeth Cynorthwyol Ysgol Eifionydd, yn cymryd rhan mewn modiwl peilot estynedig o dan gynllun peilot Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngACC) ar gyfer Athrawon Siartredig.

Mae’r rhaglen yn cael ei datblygu gan y Cyngor i roi cyfle i athrawon profiadol sydd yng nghanol eu gyrfa sicrhau cydnabyddiaeth broffesiynol, gan helpu i godi statws a safon addysgu yng Nghymru.

Ar ôl cwblhau treial blwyddyn o’r llwybr achredu, a fu’n fodd iddo greu portffolio o dystiolaeth o’i yrfa a’i brofiad fel athro, gwirfoddolodd Gwyn i gymryd rhan yn y peilot estynedig er mwyn ehangu eto ar ei wybodaeth a’i fedrau.

Cafodd y modiwl, o dan y teitl ‘Addysg i Bawb’, ei ddarparu ar y cyd gan Brifysgol Bangor a Chymdeithas Penaethiaid Ysgolion Arbennig y Gogledd. Y darlithydd Jean Ware oedd cynghorydd y cynllun peilot.

Nod y cynllun oedd meithrin ymwybyddiaeth athrawon o’r heriau a’r rhwystrau sy’n atal addysg rhag cael ei rhoi i bob disgybl mewn system addysg sy’n deg ac yn gynhwysol o safbwynt cymdeithasol, gan gynnig cyfle i’r athrawon bwyso a mesur amryw o atebion creadigol a syniadau arloesol wrth fynd i’r afael â’r heriau hynny.

Mae Gwyn yn 34 oed ac mae’n athro ers 11 mlynedd. Yn Ysgol Gyfun Friars ym Mangor yr oedd ei swydd gyntaf, a threuliodd bedair blynedd yno yn Bennaeth Adran cyn ymgymryd â’i swydd bresennol yn Ysgol Eifionydd.

Roedd ei asesiad yn cynnwys prosiect ar wella cynhwysiant i grŵp o ddisgyblion Blwyddyn 9. Bu’r ysgol yn cydweithio â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i ddarparu cwricwlwm ar gyfer 10 o ddisgyblion a oedd heb ddiddordeb yn y cwricwlwm traddodiadol.

Unwaith yr wythnos dros gyfnod o dymor, byddai’r disgyblion yn mynd i Blas Craflwyn, Beddgelert, i godi iwrt gan ddefnyddio medrau gwaith coed traddodiadol. ‘Mi wnaeth y rhan fwya o’r plant fwynhau’r profiad, codi sgiliau newydd a dangos gwelliant yn eu graddau cyrhaeddiad ar ôl y profiad,’ meddai Gwyn.

’Drwy’r prosiect dwi wedi sylweddoli mor bwysig ydi cynnig cwricwlwm sy’n addas i’n dysgwyr ni a bod angen inni edrych ar ffyrdd arloesol i ennyn diddordeb ein myfyrwyr ni os ydyn ni am iddyn nhw gyflawni pethau.’

001

Cwblhaodd y modiwl ym mis Chwefror, gan basio gyda chlod, ac mae’n credu bod yr hyfforddiant wedi chwarae rhan bwysig wrth iddo sicrhau dyrchafiad yn Bennaeth Cynorthwyol yn ystod yr haf.

‘Roedd y modiwl yn un difyr iawn ac mi roddodd gyfle imi wella fy ngwybodaeth a’m dealltwriaeth theoretig,’ ychwanegodd Gwyn. ‘Roedd y darlithwyr yn wybodus iawn ac roedd yna grŵp gwych o athrawon yn dilyn y modiwl athrawon siartredig, felly roedd y seminarau’n ddifyr ac yn gynhyrchiol.

‘Dwi wastad yn chwilio am ffyrdd i ddatblygu’n broffesiynol ac ro’n i’n gweld hyn yn gyfle gwych. Os bydd yna chwaneg o fodiwlau, mi fydda i yn sicr yn ceisio ymuno â’r cwrs!’

 

Cysylltwch â ni

Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru
9fed Llawr, Eastgate House
35-43 Ffordd Casnewydd
Caerdydd, CF24 0AB

Ffôn: 029 2046 0099
Ffacs: 029 2047 5850
Twitter: http://twitter.com/#gtcwales
E-bost: gwybodaeth@gtcw.org.uk neu