Dim ond pedwar allan o ddeg o athrawon newydd gymhwyso yng Nghymru sy’n llwyddo i sicrhau swydd ar ôl cwblhau’u hyfforddiant cychwynnol, yn ôl ffigyrau newydd gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (GTCW).
Mae hynny’n cyd-fynd â chanran gynyddol o rai sy’n gorfod dibynnu ar ddysgu ‘llanw’ llawrydd i ennill bywoliaeth yn y misoedd a blynyddoedd ar ôl cymhwyso.
Mae’r ffigyrau yn y detholiad diweddaraf o ystadegau o gofrestr addysgu Cymru sy’n rhoi manylion bron iawn 39,000 o unigolion sydd wedi’u cofrestru gyda’r Cyngor Addysgu Cyffredinol fel rhai sy’n gymwys i ddysgu mewn ysgolion y wladwriaeth.
Yn ôl ystadegau 2011, dim ond 40% o athrawon newydd gymhwyso ac sydd newydd ymuno â’r gofrestr oedd wedi llwyddo i gael swydd mewn ysgolion cynradd neu uwchradd. Mae hynny’n ostyngiad o 6% ar y flwyddyn flaenorol ac yn dangos fod y tueddiad dros y degawd diwethaf yn parhau i ddisgyn.
I’r gwrthwyneb, yn 2003, roedd bron iawn saith allan o ddeg (66%) o athrawon newydd gymhwyso ac wedi ymuno â'r gofrestr wedi cael swydd ar ôl graddio o sefydliadau addysg a hyfforddi athrawon.
Mae’r canran o athrawon sy’n gorfod dibynnu ar ddysgu llanw hefyd wedi cynyddu cymaint â hyn yn ystod yr un cyfnod. Yn 2002 dim ond 10% o’r rhai’n cofrestru fel athrawon am y tro cyntaf oedd yn datgan eu bod mewn swyddi llanw yn hytrach nag mewn swyddi parhaol.
Meddai Hayden Llewellyn, Dirprwy Brif Weithredwr Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru: “Dim ond ychydig o amrywiad a gafwyd dros y blynyddoedd ond erbyn hyn mae tueddiad clir iawn o athrawon newydd eu cymhwyso'n methu â chael swyddi parhaol ac yn gorfod cofrestru gydag asiantaethau er mwyn cael gwaith dros dro neu waith achlysurol fel athrawon llanw mewn nifer o wahanol ysgolion."
Dywedodd hefyd fod set wahanol o ffigyrau’n dangos bod llai o athrawon newydd yn cyrraedd y ‘safon sefydlu’. Mae gofyn i athrawon gwblhau tri thymor ysgol mewn swydd dysgu barhaol cyn bod yn gymwys i gael eu hasesu ar gyfer y safon sefydlu. O dan y rheoliadau mae’n rhaid cyrraedd y safon yma o gymhwysedd dosbarth o fewn pum mlynedd o gwblhau’u hyfforddiant cychwynnol.
Ychwanegodd Mr Llewellyn: “Mae nifer sy’n methu â chyrraedd y safon sefydlu’n awgrymu fod llawer o’r rhai sy’n cwblhau’r hyfforddiant addysgu cychwynnol yn dal heb swyddi am gryn dipyn o amser wedyn.”
Meddai Angela Jardine, Cadeirydd y Cyngor Addysgu: “Yn amlwg, mae’n bryder mawr fod pobl yn treulio blynyddoedd yn hyfforddi i ddysgu a bod llawer llai na’u hanner yn cael swyddi mewn gwirionedd. Byddwn yn anfon y ffigyrau at ffurfwyr polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru i’w hystyried”
Mae’r detholiad blynyddol o ystadegau o gofrestr y Cyngor Addysgu wedi’i gyhoeddi bob blwyddyn ers 2002 ac mae’n cynnwys nifer o ddangosyddion, gan gynnwys oed, rhyw, ethnigrwydd, cymwysterau a statws anabledd athrawon a phenaethiaid.
Eleni, am y tro cyntaf, mae’n rhoi dadansoddiad ystadegol o ddirprwy benaethiaid a phenaethiaid cynorthwyol yn ysgolion Cymru.
Mae’r crynhoad llawn wedi’i gyhoeddi ar wefan y Cyngor