Mae Athrawon hefyd yn Ddysgwyr

17 Rhagfyr 2007

“Mae athrawon newydd gymhwyso yng Nghymru yn cael y blaen ar eu cydweithwyr mewn mannau eraill o’r DU oherwydd fe’u darperir â’r sicrwydd o dair blynedd o fentora, cymorth a datblygiad proffesiynol cynnar”, meddai HAYDEN LLEWELLYN, Dirprwy Brif Weithredwr Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru.

Mae wynebu ystafell ddosbarth o blant am y tro cyntaf fel athro newydd gymhwyso (ANG), medru bod yn hynod anodd. Profiad gwahanol iawn ydyw o’i gymharu ag ymarfer dysgu a geir adeg hyfforddiant cychwynnol athrawon, ac yn aml mae’n cyflwyno’r athro i amryw faterion sy’n ymwneud â rheoli dosbarth a chyflwyno gwersi y maent o bosib yn teimlo nad ydynt wedi paratoi ar eu cyfer.

Yng Nghymru mae gan ANG fynediad i nawdd sydd werth £5,700 dros dair blynedd gyntaf eu gyrfa, i’w cynorthwyo i gael eu traed tano a sefydlu eu hunain yn y dosbarth. Mae’r gyfran gyntaf o nawdd sef £3,700 yn cwmpasu cyfnod sefydlu tri thymor sydd yn rhaid i bob athro newydd ei gwblhau’n llwyddiannus. Wedyn, fe all athro newydd, gyrchu £1,000 y flwyddyn i ariannu gweithgareddau a chyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol cynnar.

Trosglwyddwyd y cyfrifoldeb o reoli dosbarthiad nawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer ANG, i ddwylo Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru ym Medi 2006, mewn cynnig i symleiddio’r weithdrefn o ddosbarthu nawdd i athrawon. O fewn y system flaenorol, cyfrifoldeb pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru oedd rheoli’r nawdd ar gyfer ANG - sefyllfa a brofodd i fod y anodd, wrth i athrawon symud rhwng ysgolion a siroedd, ac o ganlyniad ni chafodd rhai ANG y cymorth oedd angen arnynt, a oedd ganddynt yr hawl i’w dderbyn. O fewn yr hen system, neilltuwyd nawdd gan y Cynulliad, yn seiliedig ar amcangyfrifon gan yr AALl, a berodd i rhai awdurdodau golli allan, felly ni chafodd rhai ysgolion ac athrawon y nawdd yr oedd ganddynt yr hawl i’w dderbyn.

CyngACC sy’n dal y gofrestr athrawon yng Nghymru, sy’n ein galluogi i sicrhau bod y nawdd yn dilyn yr athro newydd wrth iddynt symud o ysgol i ysgol. Mae hyn yn angenrheidiol oherwydd mae ANG yn medru cwblhau’u cyfnod sefydlu naill ai yn yr un ysgol neu mewn gwahanol ysgolion yn ystod blwyddyn ysgol. Yn wir, mae rhai ANG yn cwblhau eu cyfnod sefydlu mewn tair ysgol wahanol mewn tri awdurdod addysg lleol (AALl) gwahanol.

Drwy gydol y cyfnod sefydlu, rhoddir cyfle i athrawon ddangos bod ganddynt y sgiliau a’r safonau angenrheidiol ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn yr ystafell ddosbarth. Cyflawnir hyn drwy fentora, hyfforddiant mewn swydd a chyfleoedd dysgu a noddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru drwy CyngACC. Ar ddiwedd pob tymor, asesir yr athrawon a rhaid iddynt fodloni’r telerau sefydlu, tri i gyd, er mwyn parhau i weithio fel athro.

Ar ôl llwyddo i gwblhau’r cyfnod sefydlu, gall athrawon hawlio’r cymorth blynyddol pellach, sef nawdd Datblygiad Proffesiynol Cynnar (DPC) o £1,000, eto gan y Cynulliad, a rheolir gan CyngACC. Mae’r rhaglen DPC a ariennir, yn galluogi athrawon a’r ysgol i gydweithio i bennu rhaglen o weithgareddau sydd wedi eu cynllunio i gynorthwyo’r athro i ennill profiad pellach a dysgu wrth esiamplau o arfer gorau.

Mae’r manteision a geir wrth freinio’r Cyngor â rheolaeth nawdd y cyfnod sefydlu a’r DPC yn amlwg yn nhermau lliflinio cynlluniau 22 awdurdod lleol i un rhaglen ar gyfer Cymru gyfan, ac o ganlyniad gostwng biwrocratiaeth a gweinyddiaeth. Yn ogystal, drwy gyfatebu cyfnod sefydlu athro a gweithgaredd DPC gyda’u cofnodiad ar y gofrestr athrawon, mae’r Cyngor yn medru sicrhau eu bod nhw’n hollol ymwybodol ac mewn gwirionedd yn manteisio’n llawn o’r nawdd sydd ar gael iddynt.

Yn olaf, mae Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru hefyd yn rheoli dosbarthiad y nawdd ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) unigol i athrawon profiadol. Drwy ddwyn y cyfnod sefydlu, DPC a DPP oll i gyfrifoldeb y Cyngor yn y fath ffordd, gallwn gynorthwyo i feithrin diwylliant cryf o ddatblygiad proffesiynol a dysgu gydol oes o’r cychwyn cyntaf hyd at ddiwedd gyrfa’r athro.

Ystyrir athrawon yn aml yn fodelau rôl i bobl ifanc. Pa well fodel rôl i bobl ifanc fel dysgwyr, i weld bod eu hathro hefyd yn ddysgwr eiddgar, gydol oes.