Eco-Play Idea Encourages Sustainable Design by Pupils
31 Ionawr 2008
Eco-Chwarae yn Annog Cynllunio Cynaliadwy gan Ddisgyblion
Dyfarnwyd bwrsari datblygiad proffesiynol gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngACC) i Beverly Howe, arweinydd y Cwricwlwm Gwyddoniaeth yn Ysgol Gynradd Brynnau, Pen-y-bont ar Ogwr, er mwyn iddi gwblhau cwrs BTEC wedi ei anelu at wella’i gwybodaeth o addysg amgylcheddol.
Gan ddefnyddio’i sgiliau newydd, mae Beverly wedi helpu ei disgyblion i dyfu helyg i wella lle chwarae’r ysgol yn ogystal ag adeiladu llochesau a mannau cuddio. Unwaith y bydd wedi ei gywain, mi fydd y disgyblion yn defnyddio’r helyg mewn nifer o brosiectau ysgol ac ar gyfer celf a chrefft. Mae Beverly hefyd wedi cynnal sesiwn ar gyfer athrawon eraill yn yr ysgol, i drafod y technegau a ddysgwyd a sut y gellir eu defnyddio i fuddio addysg disgyblion.
Meddai Beverly; “Rwyf mor falch fy mod wedi cael y cyfle i ddatblygu fy sgiliau a fy ngwybodaeth o fewn y maes. Rhoddodd y cwrs frwdfrydedd a syniadau i mi, ond yn bwysicach fyth, llwyddais hefyd i greu effaith ar y plant rwy’n eu haddysgu”.
Dywedodd Hayden Llywellyn, Dirprwy Brif Weithredwr CyngACC: “ Mae cyfran sylweddol o’r boblogaeth addysgu yng Nghymru wedi cymryd mantais o raglen gyllid DPP y Cyngor. Mae athrawon yng Nghymru yn cymryd eu datblygiad proffesiynol o ddifri ac rydym wrth ein bodd ein bod yn medru annog Beverly a’i disgyblion drwy ddyfarnu cyllid ar ei chyfer”.
Mae CyngACC wedi cymryd y camau i sicrhau bod y cyllid DPP i athrawon yn hawdd i’w gyrchu. Danfonir gwybodaeth a ffurflenni cais at holl athrawon cymwys ac mae modd eu llwytho i lawr o wefan CyngACC, sef www.gtcw.org.uk.
I ddarganfod mwy am y bwrsarïau datblygiad proffesiynol yn ogystal â chymhwyster, cysylltwch â Thîm Datblygiad Proffesiynol y Cyngor ar 029 2055 0350 neu e-bostiwch Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld. .
