Bridgend Lea Conference Sees CPD Success Stories Teach Colleagues

18 Ionawr2008

Llwyddiannau Dpp Yn Diddori Cydweithwyr Adeg Cynhadledd Aall Pen-Y-Bont Ar Ogwr

Fe wnaeth dros 50 o athrawon ymgynnull yn Nhŷ Dysgu, Trefforest ar ddiwedd mis Tachwedd i wrando ar brofiadau datblygiad proffesiynol 12 o gyd-athrawon o fewn awdurdod addysg lleol Pen-y-bont ar Ogwr.

Gan agor y gynhadledd a drefnwyd ar y cyd rhwng AALl Pen-y-bont ar Ogwr a Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngACC), dywedodd Gary Brace, Prif Weithredwr CyngACC; “Mae athrawon yn arbenigwyr cudd. Drwy annog athrawon i siarad â’i gilydd a rhannu profiadau personol o’u hystafelloedd dosbarth, rydym yn gweld newid arfer sydd yn buddio athrawon a’r proffesiwn yn gyffredinol .”

Esboniodd Barbara Harris o ysgol Gynradd Sant Robert sut y gwnaeth cyflwyno sbardunau fel llyfrau storïau a gwaith celf, annog eu disgyblion i gymryd rhan a dechrau trafod yr hyn yr oeddent yn ei wneud. Meddai Barbara; “Dwi’n buddio cryn dipyn o’r sesiynau gan fod plant yn meddwl eu bod nhw’n cael hwyl, ac o ganlyniad yn ôl yr adborth, mae’r plant yn teimlo bod eu sgiliau yn y meysydd siarad a gwrando, rhesymu a meddwl, holi cwestiynu, gwaith grŵp, meddwl yn greadigol a hunan hyder cyffredinol wedi gwella. Nid yn unig ydy'r rhain yn sgiliau pwysig iawn, ond maen nhw hefyd yn bwysig ar draws y cwricwlwm.”

Esboniodd Catherine O’Brien o Ysgol uwchradd Pencoed sut yr aeth hi ati i gynyddu cyflawniad y bechgyn yn ei hysgol, fel rhan o’i rôl bresennol fel rheolwr dysgu dros grŵp o fewn yr ysgol. Nododd Catherine fod bechgyn yn ei hysgol, yn enwedig blwyddyn 12 ac uwch yn tangyflawni, a dyfeisiodd rhaglen i’w cynorthwyo tra’n parhau i fonitro’r cynnydd a wnaed.

I gloi, dywedodd Les Philips o Awdurdod Addysg Lleol Pen-y-bont ar Ogwr “Mae’r gynhadledd heddiw wedi dangos ychydig o’r hyn y mae athrawon yn medru ei wneud wrth dderbyn cyllid DPP, a’r effaith positif sydd ganddo ar athrawon a dysgwyr.”