Policy and Advice

Cyngor i Lywodraeth Cynulliad Cymru: Codi’r Bar Mewn Ahca a Datblygiad Proffesiynol Cynna

adviceYng ngoleuni perfformiad Cymru yn arolwg PISA 2009, gofynnwyd i GyngACC ddiwedd Rhagfyr 2010 i gyflwyno cyngor i Lywodraeth Cynulliad Cymru ar Addysg a Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon (AHCA) a Datblygiad Gyrfaol Cynnar erbyn dechrau mis Chwefror 2011. Mae’r ddogfen hon yn nodi’r hyn y mae’r Cyngor yn ei weld fel y materion a’r problemau sydd ynghlwm â’r trefniadau presennol ar gyfer AHCA a Datblygiad Gyrfaol Cynnar. Mae’n mynd yn ei flaen drwy wneud argymhellion ar gyfer gwelliannau yn y meysydd hyn. PDF (33K)

 

 

 

 


Adroddiad Ymgynghori Ar Reolau Cofrestru Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Chwefror 2010)

consultation_reportRhedodd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y Rheolau Cofrestru drafft rhwng 1af Rhagfyr 2009 a 26ain Chwefror 2010. Gellir darllen yr Adroddiad Ymgynghori ar y Rheolau Cofrestru yma (PDF).

Cyngor ynghylch cofnodi/adfyfyrio ar DPP athrawon a sicrhau ansawdd darparwyr (Hydref 2007)

strand_34Gwahoddwyd CyngACC gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gymryd yr awenau i ddatblygu Fframwaith Datblygiad Proffesiynol i athrawon yng Nghymru yn 2004. Nodir gorchwyl y Cyngor i ddarparu cyngor i’r Cynulliad ar faterion o’r fath mewn deddfwriaeth sylfaenol, o dan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Addysg 2002.

Mae’r ddogfen hon yn cyflwyno cyngor ar Haenau 3 a 4 Fframwaith Datblygiad Proffesiynol i athrawon yng Nghymru, sef:

  • cofnodi datblygiad proffesiynol athrawon a hunanadfyfyrio athrawon yn hyn o beth (Haen 3);
  • sicrhau ansawdd datblygiad proffesiynol athrawon a’r rheiny sy’n ei ddarparu (Haen 4).

Dyma’r ddogfen olaf mewn cyfres o dair dogfen gyngor ar y Fframwaith yn ystod y cyfnod rhwng 2005 a 2007.

Mae’r ddogfen hon ar gael i’w lawrlwytho ar ffurf pdf yma.

Professional Development, Recognition and Accreditation (Gorffenaf 2006)

strand2Gwahoddwyd CyngACC gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gymryd yr awenau i ddatblygu Fframwaith Datblygiad Proffesiynol i athrawon yng Nghymru yn 2004. Nodir gorchwyl y Cyngor i ddarparu cyngor i’r Cynulliad ar faterion o’r fath mewn deddfwriaeth sylfaenol, o dan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Addysg 2002.

Mae’r ddogfen hon yn cyflwyno cyngor ar Haen 2 Fframwaith Datblygiad Proffesiynol i athrawon yng Nghymru. Mae hyn yn ymwneud â’r datblygiad proffesiynol y mae athrawon yn ymgymryd ag ef a’i gydnabyddiaeth broffesiynol a’i achrediad.

Y cyngor hwn yw’r ail ddogfen o gyfres o dair dogfen debyg yn ymwneud â’r Fframwaith sy’n cael eu cyflwyno i’r Cynulliad yn ystod y cyfnod rhwng 2005 a 2007. Aeth y ddogfen gyngor gyntaf yn 2005 i’r afael â strwythur bras y Fframwaith a Haen 1: Cerrig milltir a safonau proffesiynol. Cafodd yr argymhellion a wnaed eu derbyn i raddau helaeth gan y Gweinidog dros Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau.

Mae’r ddogfen hon ar gael i’w lawrlwytho ar ffurf pdf yma.

Cynllun Gweithredu ar gyfer Recriwtio a Chadw Athrawon yng Nghymru (Medi 2003)

recruitment_retentionLluniwyd y ‘Cynllun Gweithredu ar gyfer Recriwtio a Chadw Athrawon yng Nghymru’ hwn o ganlyniad i waith Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru i ddadansoddi mater cyflenwi athrawon ac i argymell ffyrdd o sicrhau cyflenwad digonol o athrawon o ansawdd uchel ar gyfer ysgolion yng Nghymru. Mae angen ystyried unrhyw strategaeth o fewn cyd-destun penodol a chyfnod ei ysgrifennu. Mae’r Cynllun Gweithredu hwn yn cynrychioli strategaeth y Cyngor yng nghanol 2003 yng nghyd-destun gwneud penderfyniadau datganoledig yng Nghymru.

Mae’r ddogfen hon ar gael i’w lawrlwytho ar ffurf pdf yma

Professional Development Framework for Teachers in Wales (July 2005)

strand1Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyflwyno gwelliannau sylweddol i'r trefniadau ar gyfer datblygiad proffesiynol athrawon yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Er enghraifft, mae Athro neu Athrawes Newydd Gymhwyso bellach yn elwa ar ddechreuad cadarn a chefnogol i'w yrfa yn sgîl cyflwyno trefniadau newydd ar gyfer Sefydlu a Datblygiad Proffesiynol Cynnar. Ar gyfer y rheiny sy'n Benaethiaid, gwelwyd ymdrech bendant yng Nghymru i godi safonau arweinyddiaeth ysgolion drwy'r Rhaglen Genedlaethol Datblygu Prifathrawiaeth. Mae'r Cyngor hefyd yn falch o weinyddu rhaglen o ddatblygiad proffesiynol unigol i athrawon ar ran y Cynulliad bob blwyddyn.

Fodd bynnag, ni all yr un proffesiwn fforddio aros yn ei unfan a nododd y Cynulliad ei hun ei fwriad i ddatblygu fframwaith cynhenid unigryw o ddatblygiad proffesiynol parhaus i athrawon yng Nghymru, yn y ddogfen Y Wlad sy'n Dysgu a'r ddogfen Datblygiad Proffesiynol Parhaus - y Ffordd Ymlaen.

Ar ôl i'r egwyddor o lunio Fframwaith Datblygiad Proffesiynol i athrawon yng Nghymru gael ei derbyn yn eang, gwahoddwyd y Cyngor gan y Cynulliad i gymryd yr awenau, gan weithio gyda phartneriaid eraill i ddatblygu Fframwaith ar gyfer athrawon yng Nghymru. Mae cylch gorchwyl y Cyngor i ddarparu cyngor i'r Cynulliad ar faterion o'r fath wedi'i nodi mewn deddfwriaeth sylfaenol, o dan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Addysg 2002.

Dyma'r cyngor cyntaf mewn cyfres o dair dogfen debyg i'w cyflwyno i'r Cynulliad yn ystod y ddwy flynedd nesaf mewn perthynas â'r mater hwn.

Mae’r ddogfen hon ar gael i’w lawrlwytho ar ffurf pdf yma.

Datblygiad Proffesiynol Parhaus, Hawl i Bawb

cpd_entitlement_for_allMae’r papur hwn yn nodi prif egwyddorion yr hawl i gyfleusterau DPP ar gyfer athrawon yng Nghymru. Mae’n cynnig bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi ei gefnogaeth a’i gymeradwyaeth i’r egwyddorion hyn ac yn ymrwymo i ddarparu cefnogaeth ariannol briodol ar gyfer y gwaith o gyflwyno fesul cam gyda golwg ar weithredu’n llawn erbyn mis Medi 2007. Yn dilyn trafodaethau pellach gyda’r Gweinidog dros Addysg a Dysgu

Gydol Oes a’i swyddogion, bydd y Cyngor yn datblygu cynigion gweithredu drwy ymgynghori gyda’r proffesiwn, Llywodraeth Cynulliad Cymru a sefydliadau eraill sydd â rhan mewn addysg seiliedig yn yr ysgol. Gwelir sawl un o’r sefydliadau hyn fel partneriaid pwysig yn y broses ddatblygu.

TMae’r ddogfen hon ar gael i’w lawrlwytho ar ffurf pdf yma.