Consultation Responses

Ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gofrestru’r gweithlu addysg

Roedd ymateb y Cyngor yn cefnogi'r cynnig i ymestyn cwmpas rheoleiddio proffesiynol i gynnwys staff cymorth dysgu mewn ysgolion, darlithwyr AB a'r gweithlu dysgu yn y gwaith. Yn ychwanegol, roedd y Cyngor yn dadlau y dylid cofrestru athrawon mewn ysgolion preifat, hefyd. Roedd yr ymateb hefyd yn cefnogi cynnig y llywodraeth i ymestyn swyddogaethau'r corff proffesiynol i greu a monitro safonau, ac roedd yn dadlau hefyd y dylai fod gan y corff swyddogaethau cynghorol, yn ogystal rhai rheoleiddiol. Roedd yr ymateb yn dadlau'n gryf mai'r ffordd fwyaf effeithiol a chost-effeithiol o symud ymlaen oedd i GyngACC cael ei ailgyfansoddi yn hytrach na chreu corff newydd. Yn olaf, roedd yr ymateb o blaid cyngor sengl, yn hytrach na rhai gwahanol yn ôl sector, er mwyn hybu cydlyniant rhwng y sectorau.

Gellir darllen yr ymateb llawn yma.

Ymateb i Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Ddiweddaru Rheoliadau Cymwysterau ar gyfer Athrawon Ysgol yng Nghymru Ionawr 2012

Roedd y Cyngor yn cefnogi pob un o'r cynigion a wnaed gan Lywodraeth Cymru . Yn arbennig, roedd y Cyngor yn cytuno â'r cynnig na chaiff pobl â QTLS (Athro Cymwys Dysgu a Sgiliau) a gymhwysodd yn yr UDA, Canada, Awstralia a Seland Newydd sy'n cael eu cydnabod fel athrawon cymwys yn Lloegr eu cydnabod yn yr un modd yng Nghymru. Gellir darllen yr ymateb llawn yma. (pdf 22k)

Ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Fersiwn Diwygiedig o'r Cynllun Hyfforddi Athrawon ar sail Cyflogaeth Ionawr 2012

Roedd y Cyngor yn cefnogi'n llawn gynnig Llywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglen wella disgyblion / ysgolion i gefnogi pobl ifanc sy'n wynebu anfantais addysgol. Fodd bynnag, cododd bryderon ynghylch "sail dystiolaeth" y cynnig i fynd i'r afael â'r mater hwn drwy raglen hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth yn targedu ymgeiswyr o safon, gan ddadlau y gallai hyn gael ei gyflwyno'n well gan athrawon profiadol sy'n meddu ar brofiad penodol yn y maes hwn. Gellir darllen yr ymateb llawn yma. (pdf 22k)

Ymateb i gais yr Adran Addysg am dystiolaeth ynghylch ei adolygiad o safonau athrawon

Nododd y Cyngor fod angen i'r Adran Addysg ddatblygu safonau ychwanegol ar gyfer athrawon y tu hwnt i'r rheiny a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2011. Tynnodd y Cyngor sylw at ei waith cynghorol ar Athro Siartredig yng Nghymru i amlygu'r nodweddion y dylai fod gan yr athrawon dosbarth gorau.

Gellir darllen yr ymateb llawn yma. (pdf 59k)

Ymateb i ymgynghoriad yr Adran Addysg ynghylch newidiadau arfaethedig i'r rheoliadau disgyblu a Sefydlu ar gyfer athrawon ar ôl i Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr gael ei ddiddymu

Cododd y Cyngor nifer o bryderon ynghylch y newidiadau arfaethedig i'r Rheoliadau Disgyblu yn Lloegr a'r gwanychu i'w weld yn y system reoleiddio yn Lloegr ar ôl i GyngACLl gael ei ddiddymu. Fodd bynnag, roedd y Cyngor yn cefnogi nifer o'r agweddau gweithdrefnol ar gyfer ymchwilio i, a gwrando ar, achosion a gyfeirir at yr asiantaeth addysgu newydd yn Lloegr.

Gellir darllen yr ymateb llawn yma. (pdf 30k)

JPAGE_CURRENT_OF_TOTAL

<< Cychwyn < Yn ôl 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 Nesaf > Diwedd >>