Papur safbwynt y Cyngor yw'r ddogfen hon ynghylch rheoleiddio'r gweithlu ysgol ehangach.
Ar ôl cyflwyno'r broses o ddiwygio'r gweithlu ysgol yn 2003, mae nifer a natur y staff a gyflogir gan ysgolion i gefnogi gwaith athrawon wedi newid yn sylweddol. Mae'r patrwm hwn yn debygol o barhau ymhellach, o ystyried agenda 'Trawsnewid Addysg' Llywodraeth Cynulliad Cymru, a fydd yn arwain at niferoedd cynyddol o athrawon AB mewn ysgolion.
Mae'r Cyngor yn argymell cyflwyno rheoleiddio dan arweinyddiaeth broffesiynol ar gyfer personau sy'n gweithio i gefnogi athrawon ac sydd â chysylltiad uniongyrchol â disgyblion yn rhan o'r broses ddysgu. Mae'r Cyngor yn credu bod angen i'r cam hwn gynnwys y canlynol ar gyfer staff cymorth:
- datblygiad safonau proffesiynol cenedlaethol;
- hyfforddiant cychwynnol a threfniadau datblygiad proffesiynol parhaus;
- cydnabyddiaeth broffesiynol a / neu academaidd;
- system safonol ar gyfer rheoli perfformiad;
- rheoleiddio proffesiynol, drwy sefydlu Cofrestr a threfniadau ffitrwydd i ymarfer, er mwyn diogelu disgyblion, rhieni a'r cyhoedd.
Wrth ddatblygu'r safbwynt hwn, mae'r Cyngor yn pwysleisio y dylid bod gan bob dosbarth athro/athrawes gymwys yn ei reoli, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol, lle gellir cyflogi hyfforddwyr. Nid yw'r Cyngor yn cefnogi unrhyw fenter i leihau rôl broffesiynol yr athro/athrawes nac effeithio ar safon yr addysg a gyflwynir i ddisgyblion.
Mae’r ddogfen hon ar gael i’w lawrlwytho ar ffurf pdf yma.