Wrth roi cyngor felly, mae'r Cyngor eisoes wedi tynnu sylw at y ffaith nad yw data cyfredol ar recriwtio a chadw o reidrwydd yn cynrychioli darlun hollol gywir, ac mae'n ystyried ei bod yn bwysig cael gwybodaeth gywir sy'n ystadegol ddibynadwy ar y mater hwn.
Er mwyn casglu tystiolaeth barhaus yn y maes hwn, cyflwynodd y Cyngor holiaduron recriwtio a chadw i benaethiaid 227 o ysgolion uwchradd a 1609 o ysgolion cynradd Cymru ddiwedd mis Awst 2002.
Mae'r arolygon, a gafodd gyfraddau ymateb ardderchog o bron i 80%, yn golygu y gall y Cyngor roi cyngor penodol i Lywodraeth Cynulliad Cymru ar ran y proffesiwn addysgu. Yn wir, mae'r Cyngor yn bwriadu defnyddio'r ymchwil i gyfrannu at Gynllun Gweithredu aml-asiantaeth ar gyfer Recriwtio a Chadw yng Nghymru, y disgwylir ei gynhyrchu erbyn canol 2003.
Mae'r arolygon yn adeiladu ar arolwg cychwynnol a gynhaliwyd yn 2001 yn y sector uwchradd, a ganolbwyntiodd ar nifer cyfyngedig o feysydd pwnc lle'r oedd gan y Cyngor dystiolaeth anecdotaidd o brinder athrawon. Cafodd yr arolwg a gynhaliwyd yn 2001 gyfradd ymateb o 73.6% a chafodd canlyniadau'r astudiaeth gyhoeddusrwydd eang. Amlinellodd ymchwil y Cyngor sawl achos pryder difrifol, gan gynnwys:
- niferoedd isel iawn o ymgeiswyr ar gyfer swyddi mewn rhai pynciau;
- yr angen i benaethiaid fod yn gynyddol arloesol wrth lenwi swyddi;
- rhai swyddi'n parhau yn wag er ymdrechion gorau'r penaethiaid i recriwtio;
- anawsterau recriwtio gwaeth lle addysgwyd pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg;
- pynciau'n cael eu haddysgu'n aml yng Nghyfnod Allweddol 4 ac uwch gan athrawon heb gymwysterau perthnasol yn y pwnc.
Yn unol â'r arolwg a gynhaliwyd yn 2001, cynhaliwyd yr astudiaeth newydd hon gyda chefnogaeth lawn nifer o bartneriaid allweddol, gan gynnwys Llywodraeth Cynulliad Cymru ac undebau athrawon.
Gellir darllen arolwg 2002 yma ar PDF (995k).
Gellir darllen arolwg 2001 yma ar PDF (526k).