Bydd manylion gwrandawiad sydd i ddod yn ymddangos yma bum niwrnod gwaith cyn iddo gael ei gynnal.
Caiff aelodau’r proffesiwn a’r cyhoedd fynychu gwrandawiadau Pwyllgorau Ymddygiad a Chymhwysedd Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru ac mae nifer bach o leoedd i arsylwyr ar gael at y diben hwn. Os hoffech fynychu fel arsylwr, gofynnir i chi gysylltu â’r Cyngor ar 029 2046 0099. Wrth fynychu gwrandawiad, gofynnir i arsylwyr ystyried y pwyntiau canlynol:
- Mae'n bosibl y caiff gwrandawiadau eu canslo neu eu gohirio ar y funud olaf. Cynghorir y rheiny sy’n teithio o bell i gadarnhau bod y gwrandawiad yn mynd yn ei flaen drwy ffonio’r Cyngor ar ddiwrnod y gwrandawiad neu ychydig cyn hynny;
- Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn rhoi’r hawl i unigolion gael gwrandawiad cyhoeddus. Fodd bynnag, caiff athro/athrawes gofrestredig ofyn i wrandawiad cyfan neu ran o wrandawiad gael ei chlywed yn breifat. Bydd y Pwyllgor yn ystyried unrhyw gais o'r fath ar ddiwrnod y gwrandawiad. Gellir cynnal gwrandawiad cyfan neu ran o wrandawiad yn breifat. Lle cynhelir gwrandawiad cyfan neu ran o wrandawiad yn breifat, ni fydd hyn yn agored i arsylwyr.
Os ydych yn aelod o'r wasg, ac rydych am ddod i wrandawiad a restrir yma, mae'n rhaid i chi gysylltu â'r Cyngor yn y lle cyntaf ar 029 2046 0099. Os nad ydych yn gwneud hynny cyn dyddiad y gwrandawiad, ni all y Cyngor sicrhau lle i chi fel arsylwr.
Gellir cael rhagor o wybodaeth ar gyfer arsylwyr gwrandawiadau yma. Gwybodaeth gyffredinol yw hon, ac ym mhob sefyllfa, Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001, fel y’u diwygiwyd, a Gweithdrefnau a Rheolau Disgyblu 2012 y Cyngor a gaiff flaenoriaeth.