Cyllid Sefydlu
Pan fydd ysgol a gynhelir yng Nghymru yn penodi Athro Newydd Gymhwyso (ANG) am gyfnod o gyflogaeth a fydd yn cyfrif tuag at gyfnod Sefydlu'r ANG, yna bydd rhaid i’r ysgol gymryd y camau canlynol er mwyn sicrhau bod y cyllid priodol yn cael ei ryddhau i’r ysgol
| CAM 1 | Pan benodir yr ANG dylai’r ysgol gyflwyno Cofnod Sefydlu ANG i GyngACC pan benodir ANG, ond ar yr hwyraf o fewn 10 diwrnod gwaith pan fydd y cyfnod cyflogaeth a fydd yn cyfrif tuag at Sefydlu yn dechrau. |
| CAM 2 | Ar ôl i athro gwblhau tymor Sefydlu, dylai’r ysgol gyflwyno Cofnod Asesu Sefydlu i’r Cydlynydd Sefydlu yn yr AALl (yr AALl yw’r Corff Priodol ar gyfer Sefydlu). |
Mae’n bwysig cysylltu â’r Tîm Cyllido Sefydlu a DPC a’r AALl os bydd oriau contract athro/athrawes yn newid, gan y gallai hyn effeithio ar gyfnod Sefydlu’r athro/athrawes.
Os bydd athro/athrawes yn gadael ei swydd cyn cwblhau Sefydlu rhaid cwblhau Ffurflen Drosglwyddo o fewn 15 diwrnod gwaith ar ôl i’r athro/athrawes adael yr ysgol.
Mae gan AALlau drefniadau lleol ar waith mewn perthynas â’r dyddiad ar gyfer dychwelyd Cofnodion Asesu Sefydlu; mae hyn er mwyn caniatáu i’r AALl gael amser i ymgymryd â’u rôl fel y Corff Priodol ar gyfer Sefydlu ac yna rhoi gwybod i GyngACC am unigolion sy’n cwblhau tymor Sefydlu erbyn y dyddiad priodol.
Pan dderbynnir yr hysbysiadau gan yr AALl, bydd CyngACC yn rhyddhau cyllid i’r ysgol.
Nodwch y dyddiadau isod, sef y dyddiadau i AALlau gyflwyno’r wybodaeth briodol i GyngACC, ar gais y Cyngor. Os nad yw’r ysgol yn cyflwyno’r gwaith papur i GyngACC erbyn y dyddiadau hyn, ni fydd CyngACC yn gallu rhyddhau’r cyllid Sefydlu i’r ysgol.
|
TYMOR |
DYDDIAD Y DYLAI’R AALl DDYCHWELYD GWYBODAETH SEFYDLU I GyngACC |
|
Haf 2010 |
Awst 2010 |
|
Hydref 2010 |
Ionawr 2011 |
|
Gwanwyn 2011 |
Ebrill 2011 |
Mae ragor o wybodaeth ar gael yn ymwneud â chyllid ar gyfer DPC a’r raglen DPC yn gyffredinol wrth clicio yma.
Gwaith papur sydd ei angen er mwyn sicrhau bod Cyllid Sefydlu yn cael ei ryddhauRhestr wirio
|
Gwybodaeth a dogfennau eraill
Os oes gennych unrhyw ymholiadau mewn perthynas â rheolau, rheoliadau neu reolaeth y rhaglen Sefydlu sy’n ymwneud yn benodol ag athro/athrawes unigol, yn y lle cyntaf, dylech gysylltu â’r Cydlynydd Sefydlu yn yr AALl, sy’n gweithredu fel y Corff Priodol ar gyfer Sefydlu.
Fel arall, os oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol mewn perthynas â’r rhaglenni Sefydlu a DPC, dylech gysylltu â Thîm Sefydlu a DPC Llywodraeth Cynulliad Cymru (Yr Is-adran Ymarferwyr).
Yr Is-adran gwelliant dysgu & Datblygiad Proffesiynol
Llywodraeth Cynulliad Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ffôn: 029 2082 3205 or 029 2080 1389
Ffacs: 029 2082610
9e-bost:
Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.
Cysylltiadau
Dylid cyfeirio ymholiadau mewn perthynas â chyllid ar gyfer Sefydlu a DPC at Dîm Cyllido Sefydlu a DPC gan ddefnyddio un o’r opsiynau isod:
- Cyfeiriad – Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, 4 ydd Llawr, Tŷ Southgate, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW
- Ffôn - 029 20550350
- Ffacs - 029 20550360
- E-bost – Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.

