Gwybodaeth a dogfennaeth berthnasol

Gwybodaeth a dogfennaeth CyngACC

I gael gwybodaeth bellach ynghylch y cyllid ar gyfer Sefydlu a DPC, cyfeiriwch at ddogfen CyngACC Cyrchu Cyllid ar gyfer Sefydlu a Datblygiad Proffesiynol Cynnar, sydd ar gael i’w lawrlwytho yma (PDF 325k).

Mae pob un o’r ffurflenni y sonnir amdanynt ar y tudalen hwn ar gael i’w lawrlwytho yma.

Gwybodaeth a dogfennaeth arall

Mae gan Lywodraeth Cynulliad Cymru gyfrifoldeb am gynnwys a chyfeiriad strategol Sefydlu a DPC; felly, dylid darllen unrhyw ddogfennaeth ynghylch cyllido Sefydlu a DPC ar y cyd â’r dogfennau canlynol a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru:

Cylchlythyr Cyfarwyddyd 15/08 - Sefydlu a Datblygiad Proffesiynol Cynnar ar gyfer Athrawon Newydd Gymhwyso yng Nghymru (diwygiwyd Mehefin 2008)

Dogfen Wybodaeth 064/2008 - Llawlyfr Sefydlu a Datblygiad Proffesiynol Cynnar

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch rheolau, rheoliadau, cynnwys neu reolaeth y rhaglen Sefydlu mewn perthynas ag athro unigol, dylech gysylltu, yn y lle cyntaf, â’r Cydlynydd Sefydlu yn yr AALl, sy’n gweithredu fel y Corff Priodol ar gyfer Sefydlu.

Fel arall, os oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol mewn perthynas â’r rhaglenni Sefydlu a DPC, dylech gysylltu â Thîm Sefydlu a DPC Llywodraeth Cynulliad Cymru (Yr Isadran Ymarferwyr).

Cysylltiadau

Dylid cyfeirio ymholiadau mewn perthynas â chyllid ar gyfer Sefydlu a DPC at Dîm Cyllido Sefydlu a DPC gan ddefnyddio un o’r opsiynau isod:

  • Cyfeiriad – Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, 4 ydd Llawr, Tŷ Southgate, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW 
  • Ffôn - 029 20550350
  • Ffacs - 029 20550360
  • E-bost – Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.