Ymchwil ac Ystadegau

Recriwtio Athrawon

Wrth ddatblygu’r cyngor hwn, mae’r Cyngor wedi casglu ystod o dystiolaeth yn ymwneud â recriwtio, cadw a chyflenwad yng Nghymru. Gosodir manylion am feysydd allweddol o waith y Cyngor isod, ac mae copïau o’r adroddiadau perthnasol ar gael i’w lawrlwytho.

Arolwg Recriwtio Athrawon

Wrth roi cyngor felly, mae’r Cyngor eisoes wedi tynnu sylw at y ffaith nad yw data cyfredol ar recriwtio a chadw o reidrwydd yn cynrychioli darlun hollol gywir, ac mae’n ystyried ei bod yn bwysig cael gwybodaeth gywir sy’n ystadegol ddibynadwy ar y mater hwn.

Er mwyn casglu tystiolaeth barhaus yn y maes hwn, cyflwynodd y Cyngor holiaduron recriwtio a chadw i benaethiaid 227 o ysgolion uwchradd a 1609 o ysgolion cynradd Cymru ddiwedd mis Awst 2002.

Mae’r arolygon, a gafodd gyfraddau ymateb ardderchog o bron i 80%, yn golygu y gall y Cyngor roi cyngor penodol i Lywodraeth Cynulliad Cymru ar ran y proffesiwn addysgu. Yn wir, mae'r Cyngor yn bwriadu defnyddio’r ymchwil i gyfrannu at Gynllun Gweithredu aml-asiantaeth ar gyfer Recriwtio a Chadw yng Nghymru, y disgwylir ei gynhyrchu erbyn canol 2003.

Mae’r arolygon yn adeiladu ar arolwg cychwynnol a gynhaliwyd yn 2001 yn y sector uwchradd, a ganolbwyntiodd ar nifer cyfyngedig o feysydd pwnc lle’r oedd gan y Cyngor dystiolaeth anecdotaidd o brinder athrawon. Cafodd yr arolwg a gynhaliwyd yn 2001 gyfradd ymateb o 73.6% a chafodd canlyniadau’r astudiaeth gyhoeddusrwydd eang. Amlinellodd ymchwil y Cyngor sawl achos pryder difrifol, gan gynnwys:

  • niferoedd isel iawn o ymgeiswyr ar gyfer swyddi mewn rhai pynciau;
  • yr angen i benaethiaid fod yn gynyddol arloesol wrth lenwi swyddi;
  • rhai swyddi’n parhau yn wag er ymdrechion gorau’r penaethiaid i recriwtio;
  • anawsterau recriwtio gwaeth lle addysgwyd pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg;
  • pynciau’n cael eu haddysgu’n aml yng Nghyfnod Allweddol 4 ac uwch gan athrawon heb gymwysterau perthnasol yn y pwnc.

Yn unol â’r arolwg a gynhaliwyd yn 2001, cynhaliwyd yr astudiaeth newydd hon gyda chefnogaeth lawn nifer o bartneriaid allweddol, gan gynnwys Llywodraeth Cynulliad Cymru ac undebau athrawon.

Gellir darllen arolwg 2002 yma ar PDF (995k).

Gellir darllen arolwg 2001 yma ar PDF (526k).

Proffesiwn Addysgu ar gyfer y 21ain Ganrif yng Nghymru – cynhadledd aml-asiantaeth ar recriwtio a chadw athrawon

Roedd "Proffesiwn Addysgu ar gyfer y 21ain Ganrif yng Nghymru - Cynhadledd aml-asiantaeth ar recriwtio a chadw athrawon" yn fenter ar y cyd a drefnwyd gan y cyrff canlynol:

  • Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru (ADEW)
  • Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CACC)
  • CCAUC (HEFCW)
  • Cynhadledd Sefydlog Addysg Cymru (SCEW)
  • Asiantaeth Hyfforddi Athrawon (Ymgynghorydd Recriwtio i Gymru)
  • Cyngor Prifysgolion ar gyfer Addysg Athrawon Cymru
  • Panel Pwnc Prifysgolion (USP) (Addysg) gyda chydweithrediad Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Diben y gynhadledd oedd bod yn gam allweddol yn natblygiad Cynllun Gweithredu ar gyfer recriwtio a chadw ym mhroffesiwn addysgu Cymru, drwy ddarparu cyfle i fudiadau cenedlaethol a lleol ac ysgolion a sefydliadau unigol nodi’r strategaethau a’r datrysiadau oedd eu hangen i fynd i’r afael â materion recriwtio a chadw athrawon.

Mynychodd oddeutu 70 o gynrychiolwyr y gynhadledd, a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Moat House, Caerdydd, ar 9fed Rhagfyr 2002, gyda chynrychiolaeth eang o drawsdoriad o grwpiau, gan gynnwys penaethiaid, mudiadau athrawon, addysgwyr cychwynnol athrawon, sefydliadau addysg uwch, AALlau a mudiadau cenedlaethol eraill.

Cafodd rhaglen y gynhadledd ei datblygu mewn ffordd a ddarparodd gyfle i gynrychiolwyr glywed cyflwyniadau gan nifer o ffigyrau amlwg y byd addysg, yn ogystal â chynnwys sesiynau trafodaeth grwp ar faterion penodol yn gysylltiedig â recriwtio a chadw, er mwyn ymgorffori ystod eang o syniadau ar gyfer eu cynnwys yng Nghynllun Gweithredu CACC.

Gellir lawrlwytho copi o adroddiad y gynhadledd ar ffurf PDF yma (453k)

Arolwg o recriwtio, cyflenwad a chadw athrawon yng Nghymru gan Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd

Yn 2002 comisiynodd y Cyngor arolygiad o recriwtio, cyflenwi a chadw athrawon yng Nghymru gan Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd.

Y cyfarwyddyd ar gyfer y prosiect hwn oedd i gwblhau “arolwg desg manwl o ffynonellau eilaidd cyfredol o recriwtio a chadw” gan gynnwys dau weithgaredd ymchwiliol: chwiliad o ddeunydd darllen presennol yn y maes a chasglu a dadansoddi data eilaidd perthnasol. Lle’n bosib, roedd y prosiect hefyd i wneud argymhellion ar gyfer polisi, casglu data ac ymchwil bellach.

Mae copi o’r adroddiad a baratowyd gan ymchwilwyr Prifysgol Cymru ar gael i’w lawrlwytho ar ffurf PDF yma (971k) (Noder: mae'r ddogfen hon ar gael yn saesneg yn unig)

   

Ymchwil ar draws gwledydd i roi cydnabyddiaeth gilyddol i gymwysterau addysgu

Mae adroddiad ymchwil diweddar y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg (NFER) i gydnabyddiaeth gilyddol ar gyfer cymwysterau addysgu, a gomisiynwyd ar y cyd gan y Cynghorau Addysgu ac adrannau llywodraeth y DU ac Iwerddon wedi dangos “…cryn gydgyfeiriant o ran yr hyn sy’n ofynnol gan athrawon dan hyfforddiant. Mae meysydd lle mae dargyfeirio’n fwy arwynebol eu natur…” Mae’r adroddiad yn awgrymu “…y byddai safoni’r ffyrdd y caiff safonau eu cyflwyno, gofynion mynediad a mecanweithiau sicrhau ansawdd yn lleihau gwahaniaethau rhwng systemau ac yn annog cydnabyddiaeth gilyddol yn gyflymach ar gyfer cymwysterau addysgu ... ”.

O dan y Gyfarwyddeb Ewropeaidd ar system gyffredinol ar gyfer cydnabod diplomâu addysgu uwch a ddyfernir pan gwblheir addysg a hyfforddiant proffesiynol sy’n para o leiaf dair blynedd (89/48/CEE fel y’i diwygiwyd gan 2001/19/CE), mae’n rhaid i gymhwyster proffesiynol a ddyfernir yn un o wledydd yr AEE gael ei gydnabod yn un arall o’i wledydd.

Mae canfyddiadau’r adroddiad ymchwil annibynnol yn galonogol o ystyried mudoledd llafur Ewrop a’r effaith ddiamheuol a gaiff ehangu’r Undeb Ewropeaidd ar fudoledd athrawon dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Mae ’ r adroddiad ar gael (yn Saesneg) yma (PDF 300k)