Statws Athro Cymwysedig

Cefndir

Mae CyngACC yn gyfrifol am hysbysu ymgeiswyr, ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru yng Nghymru bod Statws Athro Cymwysedig wedi’i ddyfarnu iddynt.

Mae’r prif lwybrau i ennill SAC yng Nghymru fel a ganlyn:

  • cwblhau cwrs addysg a hyfforddiant cychwynnol athrawon mewn sefydliad achrededig yng Nghymru (ewch i www.teachertrainingwales.org i ddarllen y rhestr o sefydliadau hyfforddi);
  • gall athrawon a gaiff eu cydnabod fel athrawon cymwys yn yr Alban, Gogledd Iwerddon, neu unrhyw wlad arall yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd geisio am gydnabyddiaeth uniongyrchol o’u statws yng Nghymru, ac mae’r ffurflenni cais priodol ar gael i’w lawrlwytho o’r dolenni isod:

    Cydnabyddiaeth SAC yng Nghymru ar gyfer athrawon o’r Alban (PDF 35k))
    Cydnabyddiaeth SAC yng Nghymru ar gyfer athrawon o Ogledd Iwerddon (PDF 38k) 
    Cydnabyddiaeth SAC yng Nghymru ar gyfer athrawon o wledydd yr AEE (PDF 65k)

    Ar ôl derbyn unrhyw un o’r ffurflenni cais uchod, bydd CyngACC yn asesu’r cais yn erbyn y Rheoliadau sy’n llywodraethu dyfarniad SAC, ac os caiff ei ddyfarnu, bydd CyngACC yn rhoi rhif cyfeirnod athro a thystysgrif SAC i’r ymgeisydd. Os caiff y cais am SAC ei wrthod, hysbysir yr ymgeisydd ar bapur.
  • gall athrawon wedi’u hargymell i ennill SAC gan Gyngor Addysg Taleithiau Guernsey hefyd geisio am gydnabyddiaeth uniongyrchol o’u statws yng Nghymru;
  • cwblhau llwybr ar sail cyflogaeth dan y Rhaglen Athro GraddedigGwneir llawer o’r gwaith o weinyddu’r Rhaglen Athro Graddedig gan Lywodraeth Cynulliad Cymru; fodd bynnag, CyngACC sy’n cadarnhau bod SAC wedi’i ddyfarnu. Ar ddiwedd y rhaglen, os yw’r ymgeisydd wedi bodloni safonau SAC, bydd y corff argymell (yr ysgol, fel arfer) yn cwblhau ffurflen argymell SAC a’i chyflwyno i GyngACC i’n galluogi i roi rhif cyfeirnod athro a thystysgrif cadarnhau SAC i’r ymgeisydd. (ceir gwybodaeth ynghylch y Rhaglen Athro Graddedig yn www.teachertrainingwales.org/amgen.htm).

Gellir dyfarnu SAC hefyd i athrawon sydd â rhai chymwysterau addysg bellach neu athrawon sy’n meddu ar brofiad mewn ysgolion annibynnol; fodd bynnag, mae’r rheoliadau sy’n llywodraethu dyfarfniad SAC yn yr achosion hyn yn fanwl iawn ac yn benodol iawn. Dylai athrawon y mae ganddynt ddiddordeb mewn ennill SAC yn y dull hwn gysylltu â’r Cyngor i gael gwybodaeth bellach.

Gwybodaeth ar gyfer sefydliadau addysg a hyfforddiant cychwynnol athrawon a phersonau sy’n dilyn cyrsiau addysg a hyfforddiant cychwynnol athrawon yng Nghymru

Er mwyn i’r Cyngor roi tystysgrifau SAC i fyfyrwyr sy’n llwyddo i gwblhau eu cwrs hyfforddi athrawon mewn sefydliad yng Nghymru, mae’r broses fel a ganlyn.

  • bob blwyddyn, mae’r Cyngor yn derbyn manylion yr holl fyfyrwyr sydd ar fin cwblhau eu cwrs hyfforddi athrawon yn y flwyddyn academaidd gyfredol, yn uniongyrchol gan y sefydliadau hyfforddi athrawon;
  • rhoddir rhif cyfeirnod athro unigryw i bob myfyriwr, y byddant yn ei gadw drwy gydol eu gyrfa addysgu. Cânt eu hysbysu’n swyddogol o’r rhif gan GyngACC drwy lythyr a gaiff eu dosbarthu i bob myfyriwr gan weinyddydd y cwrs ar ran Cyngor.
  • ar ôl i ganlyniadau’r holl gyrsiau gael eu dilysu gan y bwrdd arholi perthnasol, mae pob sefydliad addysg a hyfforddiant cychwynnol yng Nghymru yn cyflwyno’r canlyniadau i GyngACC gan gadarnhau y dylid dyfarnu SAC i fyfyrwyr llwyddiannus.
  • bydd CyngACC yn cynhyrchu tystysgrif yn dyfarnu SAC i bob myfyriwr llwyddiannus a chaiff y rhain eu cyhoeddi ar 1 Awst.
  • cynghorir myfyrwyr blwyddyn olaf ac ANG y dylent ddarllen y manylion o dan y pennawd “Gwybodaeth i fyfyrwyr blwyddyn olaf ac ANG” yn adran Gofrestru’r wefan hon, hefyd.

Cysylltiadau

Ar gyfer unrhyw faterion yn ymwneud â dyfarnu SAC, dylech gysylltu â’r Tîm Cofrestru a Chymwysterau gan ddefnyddio un o’r opsiynau isod:

  • Cyfeiriad – Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, 4 ydd Llawr, Tŷ Southgate, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW
  • Ffôn - 029 20550350
  • Ffacs - 029 20550360
  • E-bost - Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.

I gael gwybodaeth ynghylch cael lle ar gwrs AHCA neu lwybr ar sail cyflogaeth sy’n dyfarnu SAC yng Nghymru, ewch i www.teachertrainingwales.org.