Myfyrwyr Blwyddyn Olaf ac Athrawon sydd Newydd Gymhwyso (ANG)
Mae'n bwysig bod myfyrwyr TAR, DAR ac israddedigion yn eu blwyddyn olaf sy’n bwriadu addysgu yng Nghymru am y tro cyntaf, yn cofrestru gyda'r Cyngor cyn dechrau eu swydd addysgu gyntaf ym mis Medi (gan gynnwys gwaith cyflenwi).
Er 31ain Mai 2006,yn unol â Deddf Addysg 2002 a Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 10 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2006, nid yw ymgeisydd yn gymwys i gofrestru gyda ChyngACC oni bai bod y Cyngor yn fodlon ag addasrwydd yr ymgeisydd i fod yn athro/athrawes gofrestredig.
Wrth bennu addasrwydd, bydd CyngACC yn ymgymryd â Gwiriad Manylach ar gyfer y Swyddfa Cofnodion Troseddol (SCT). Yn ogystal, i bersonau sydd wedi treulio amser tramor (wedi'i eni/ei geni, wedi byw y tu allan i'r DU tan oed oedolyn neu wedi treulio mwy na thri mis y tu allan i'r DU yn y 5 mlynedd diwethaf), gofynnir i'r ymgeisydd lofnodi datganiad i gadarnhau manylion unrhyw droseddau tramor neu nad oes ganddo/ganddi gofnod troseddol.
Ystyrir unrhyw droseddau neu wybodaeth arall ar Ddatganiad Manylach yn ffurfiol gan GyngACC wrth bennu addasrwydd person i fod yn athro/athrawes gofrestredig. Bydd hyn yn cynnwys unrhyw droseddau a gyflawnwyd cyn gwneud cais i gofrestru.
Gellir cael manylion am weithdrefnau CyngAC ar gyfer ystyried materion o'r fath a chanllawiau pellach gan Dîm Safonau Proffesiynol y Cyngor ar 029 20550350; Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.
O dderbyn yr uchod, bydd cofrestru’n amodol ar gydymffurfio â Rheolau Cofrestru Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Mehefin 2010) (PDF) a’r canlynol:
- cwblhau a chyflwyno’r holl ddogfennau mewn pecyn cais i gofrestru, sef:
- ffurflen gais gofrestru newydd;
- y ffurflen dalu berthnasol a’r ffi briodol (os byddwch yn talu â siec, dylid ei wneud yn daladwy i ‘CyngACC’ ac am £45 (Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru – LlCC – yn ariannu cost y gwiriad manylach yr SCT cyntaf a gynhaliwyd gan y Cyngor ar gyfer ANG);
- cwblhau ffurflen gais am wiriad manylach gan yr SCT, gan gynnwys darparu dogfennau adnabod gwreiddiol i'r Cyngor (dylid cyfeirio at y llyfryn arweiniad ar gyfer ymgeiswyr i’r SCT a gynhwysir yn y pecyn i sicrhau bod dogfennau adnabod priodol yn cael eu cynnwys);
- aros am bedair i chwe wythnos i’ch cais gael ei brosesu, er bod hyn yn gallu amrywio, gan ddibynnu ar amserau prosesu yn yr SCT.
Bydd gan fyfyrwyr yn eu blwyddyn olaf nifer o gyfleoedd i gael pecyn cais i gofrestru gyda’r Cyngor:
- bydd y Cyngor yn ysgrifennu at yr holl fyfyrwyr yn eu blwyddyn olaf yn ystod mis Chwefror bob blwyddyn, gan roi eu rhif cyfeirnod athro iddynt yn ogystal â ffurflen i’w chwblhau er mwyn iddynt nodi cyfeiriad post diogel y dylid anfon eu tystysgrif SAC iddo ym mis Awst. Ar yr adeg hon, bydd gan fyfyrwyr gyfle hefyd i ofyn am becyn cais i gofrestru. Mae’r ffurflenni’n cael eu dosbarthu a’u casglu gan staff Cofrestrfa’r Brifysgol ar ran y Cyngor;
- Bydd swyddogion y Cyngor yn ymweld â phob sefydliad addysg a hyfforddi cychwynnol athrawon (AHCA) yng Nghymru yn ystod y cyfnod rhwng mis Chwefror a mis Mehefin bob blwyddyn, i wneud cyflwyniadau i fyfyrwyr yn eu blwyddyn olaf. Yn ogystal â’r ymweliadau hyn, bydd staff y Cyngor ar gael hefyd i ANG eu gweld er mwyn cwblhau a chyflwyno’r ffurflenni a’r ffi gofrestru angenrheidiol. Gellir gweld y dyddiadau sydd wedi’u trefnu ar gyfer yr ymweliadau yn 2010 yma.
- gall myfyrwyr/ANG gysylltu â'r Cyngor unrhyw bryd i gael pecyn cofrestru trwy e-bostio Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld. neu drwy ffonio 029 2055 0350.
Ar ôl i chi gael SAC ym mis Awst ac wedi i ni gwblhau ein hasesiad o’ch addasrwydd i gofrestru yn dilyn gwiriad yr SCT, byddwn yn eich cofrestru a rhoi llythyr i chi, yn cadarnhau eich bod wedi’ch cofrestru gyda’r Cyngor.
Mae’n ofyniad cyfreithiol ar gyflogwyr i sicrhau bod yr holl athrawon sydd yn gwneud gwaith penodedig yn y sector a gynhelir wedi’u cofrestru gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru cyn iddynt ddechrau gweithio. Byddai'r Cyngor yn annog myfyrwyr blwyddyn olaf i lenwi eu ffurflenni cais i gofrestru cyn gynted â phosibl. Gall methu â chofrestru yn gynnar arwain at anawsterau gyda chyflogwyr cyn dechrau swydd ym mis Medi.
Rhyddhad Treth
Mae eich cofrestriad yn gymwys i gael rhyddhad treth. Os ydych yn talu treth ar y gyfradd sylfaenol, bydd hyn yn lleihau’r gost i chi i £36 eleni. Nid yw hyn yn effeithio ar eich gallu i hawlio rhyddhad treth ar unrhyw danysgrifiadau sydd gennych i gymdeithasau athrawon neu undebau. I hawlio rhyddhad treth, cysylltwch â’ch swyddfa dreth leol.
Dyfarnu Statws Athro Cymwys (SAC)
Dylai myfyrwyr/ANG hefyd ddarllen y manylion “Gwybodaeth ar gyfer sefydliadau addysg a hyfforddiant cychwynnol athrawon a myfyrwyr sydd yn ymgymryd â chyrsiau addysg a hyfforddiant cychwynnol athrawon” sydd yn adran Cymwysterau y wefan hon.
Sefydlu
Mae'n rhaid i unrhyw athro/athrawes a enillodd Statws Athro Cymwysedig (SAC) ar ôl 1 Ebrill 2003 yng Nghymru gwblhau cyfnod Sefydlu statudol.
Ar ôl i'r rhaglen Sefydlu gael ei chwblhau'n llwyddiannus, mae CyngACC yn gyfrifol am gasglu gwybodaeth am yr ymgeiswyr sydd wedi llwyddo gan yr AALlau, diweddaru'r Gofrestr Athrawon Cymwysedig a rhoi tystysgrifau i'r athrawon hynny sydd wedi llwyddo yn y rhaglen.
Er nad oes terfyn amser ar gyfer dechrau Sefydlu, disgwylir y dylech gwblhau eich cyfnod Sefydlu o fewn 5 mlynedd ar ôl ennill SAC. Yn ystod y cyfnod 5 mlynedd hwn, gall ANG ymgymryd â gwaith cyflenwi diderfyn.
Fodd bynnag, os nad ydych yn cwblhau eich cyfnod Sefydlu o fewn 5 mlynedd ar ôl ennill SAC ac rydych yn dymuno parhau i weithio fel athro/athrawes gyflenwi tymor byr, bydd angen i chi wneud cais i'ch Corff Priodol (AALl) am estyniad 12 mis i'r cyfnod 5 mlynedd.
Bydd CyngACC yn ysgrifennu atoch tua 3 mis cyn i chi gyrraedd y terfyn 5 mlynedd os nad ydych wedi cwblhau'r rhaglen Sefydlu'n llwyddiannus eto. Bydd y llythyr yn egluro'r camau gweithredol y bydd angen i chi eu cymryd er mwyn gwneud cais i'ch Corff Priodol am estyniad 12 i'r rheol 5 mlynedd. Yn ogystal, bydd y Cyngor hefyd yn hysbysu'ch cyflogwr eich bod ar fin cyrraedd y terfyn ar weithio fel athro/athrawes gyflenwi tymor byr heb gwblhau eich cyfnod Sefydlu.
Rheolir y rhaglen Sefydlu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch gweinyddu'r rhaglen, gan gynnwys ceisiadau am estyniadau at y Tîm Sefydlu yn LlCC ar 029 20801389.
Cysylltiadau
Ar gyfer unrhyw fater yn ymwneud â chymwysterau neu gofrestru, cysylltwch â'r Tîm Cymwysterau a Chofrestru gan ddefnyddio unrhyw un o'r dulliau canlynol:-
- Cyfeiriad - Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, 4ydd Llawr, Ty Southgate, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW
- Ffôn - 029 20550350
- Ffacs - 029 20550360
- E-bost - Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.
