Gwybodaeth Gofrestru ar Gyfer Athrawon

Er 31 ain Mai 2006,yn unol â Deddf Addysg 2002 a Gorchymyn Addysg (Cychwyn Rhif 10 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2006, nid ymgeisydd yn gymwys i gofrestru gyda ChyngACC oni bai bod y Cyngor yn fodlon ag addasrwydd yr ymgeisydd i fod yn athro/athrawes gofrestredig.

I fod yn gymwys, mae’n rhaid i chi:

  • feddu ar SAC i addysgu disgyblion oed ysgol;
  • cael eich pennu’n addas i’ch cofrestru gan GyngACC;
  • heb gael eich gwahardd rhag addysgu gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Blant, Ysgolion a Theuluoedd, CyngAC neu unrhyw un o’r cyrff cyfwerth yn yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon;
  • heb fethu â chwblhau cyfnod Sefydlu’n llwyddiannus yng Nghymru neu Loegr.

Mae athrawon nad allant gael eu cofrestru gyda ChyngACC yn cynnwys y canlynol:

  • athrawon dan hyfforddiant;
  • athrawon sy’n gweithio tuag at SAC drwy’r Rhaglen Athrawon Graddedig (GTP);
  • athrawon a hyfforddwyd tramor sy’n gallu gweithio am hyd at 2 flynedd;
  • athrawon heb gymhwyso (e.e. hyfforddwyr), lle mae’r ysgol wedi methu â chael athro/athrawes gymwys sy’n meddu ar y sgiliau a’r arbenigedd angenrheidiol;
  • athrawon y pennir eu bod yn anaddas i’w cofrestru wedi i’r Cyngor asesu eu haddasrwydd i gofrestru.

Wrth bennu addasrwydd, bydd CyngACC yn ymgymryd â Gwiriad Manylach ar gyfer y Swyddfa Cofnodion Troseddol (SCT). Yn ogystal, i bersonau sydd wedi treulio amser tramor (wedi'i eni/ei geni, wedi byw y tu allan i'r DU tan oed oedolyn neu wedi treulio mwy na thri mis y tu allan i'r DU yn y 5 mlynedd diwethaf), gofynnir i'r ymgeisydd lofnodi datganiad i gadarnhau manylion unrhyw droseddau tramor neu nad oes ganddo/ganddi gofnod troseddol.

Ystyrir unrhyw droseddau neu wybodaeth arall ar Ddatganiad Manylach yn ffurfiol gan GyngACC wrth bennu addasrwydd person i fod yn athro/athrawes gofrestredig. Bydd hyn yn cynnwys unrhyw droseddau a gyflawnwyd cyn gwneud cais i gofrestru. Gellir cael manylion am weithdrefnau CyngAC ar gyfer ystyried materion o'r fath a chanllawiau pellach gan Dîm Safonau Proffesiynol y Cyngor ar 029 20550350; Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.

Sut rydw i'n cofrestru?

Yn unol â’r wybodaeth uchod, mae cofrestru’n amodol ar gydymffurfio â rheolau Cofrestru Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Mehefin 2010) (PDF 40k) a’r canlynol:

  • cwblhau a chyflwyno’r holl ddogfennau mewn pecyn cais i gofrestru, sef:
    • ffurflen gais gofrestru newydd;
    • y ffurflen dalu berthnasol a’r ffi briodol (os byddwch yn talu â siec, dylid ei wneud yn daladwy i ‘CyngACC’ ac am £45 (Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru – LlCC – yn ariannu cost y gwiriad manylach yr SCT cyntaf a gynhaliwyd gan y Cyngor ar gyfer ANG);
  • cwblhau ffurflen gais am wiriad manylach gan yr SCT, gan gynnwys darparu dogfennau adnabod gwreiddiol i'r Cyngor (dylid cyfeirio at y llyfryn arweiniad ar gyfer ymgeiswyr i’r SCT a gynhwysir yn y pecyn i sicrhau bod dogfennau adnabod priodol yn cael eu cynnwys);
  • aros am bedair i chwe wythnos i’ch cais gael ei brosesu, er bod hyn yn gallu amrywio, gan ddibynnu ar amserau prosesu yn yr SCT; yn ystod y cyfnod hwn, fel athro/athrawes heb gofrestru, ni allwch wneud ‘gwaith penodedig’ athro/athrawes mewn ysgolion a gynhelir.

Os nad ydym yn gallu prosesu’ch cais, byddwn yn cysylltu â chi i esbonio pam, ond dyma’r 5 prif reswm am oedi wrth brosesu ceisiadau i gofrestru:

  • caiff ffurflenni cais eu cyflwyno i GyngACC heb y ffurflen gais am ddatgeliad manylach gan yr SCT pherwyd bod yr ymgeisydd yn meddu ar wiriad blaenorol a gynhaliwyd gan sefydliad arall. Ym mhob achos, bydd rhaid i’r Cyngor wneud ei gais ei hun am wiriad manylach ymgeisydd;
  • anfonir dogfennau adnabod anaddas neu ni chaiff unrhyw ddogfennau eu hanfon gyda’r ffurflenni cais;
  • anfonir llungopïau o ddogfennau adnabod, yn hytrach na dogfennau gwreiddiol;
  • ni ddarperir rhestr o gyfeiriadau blaenorol am 5 mlynedd ar y ffurflen gais am ddatgeliad manylach yr SCT;
  • gwneir y ffi’n daladwy i’r sefydliad anghywir (SCT neu GyngACLl).

Ar ôl i ni gadarnhau eich bod yn gymwys ac yn addas, byddwn yn eich cofrestru ac anfon llythyr atoch i gadarnhau eich bod wedi’ch cofrestru.

I ofyn am becyn cais, dylech e-bostio’r Tîm Cymwysterau a Chofrestru yn Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld. , neu ffoniwch 029 2055 0350.

Ad-daliad tuag at gost y ffi gofrestru

Mae gan bob athro/athrawes sy’n gweithio’n llawn-amser, yn rhan-amser neu fel athro/athrawes gyflenwi'r hawl i gael ad-daliad o £33 tuag at gost eu ffi gofrestru, a gaiff ei thalu gan y cyflogwr perthnasol yn y sector a gynhelir. Nid yw hyn yn cynnwys Asiantaethau Cyflenwi, nad ydynt yn gorfod gwneud yr ad-daliad i’w staff.

Nid oes gan y Cyngor unrhyw gyfrifoldeb am yr ad-daliad hwn, a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at y cyflogwr.

Rhyddhad Treth

Mae eich cofrestriad yn gymwys i gael rhyddhad treth. Os ydych yn talu treth ar y gyfradd sylfaenol, bydd hyn yn lleihau’r gost i chi i £36 eleni. Nid yw hyn yn effeithio ar eich gallu i hawlio rhyddhad treth ar unrhyw danysgrifiadau sydd gennych i gymdeithasau athrawon neu undebau. I hawlio rhyddhad treth, cysylltwch â’ch swyddfa dreth leol.

Cadw’ch Cofnod yn Gyfoes

Gall yr wybodaeth a gedwir ar gofnod athro newid o bryd i'w gilydd, felly mae'n bwysig bod yr holl fanylion yn cael eu diweddaru. Mae cywirdeb ein cofnodion athrawon cymwys yn helpu’r Cyngor i ddadansoddi cyfansoddiad ac anghenion recriwtio’r proffesiwn yng Nghymru yn y dyfodol. Os ydych yn newid cyfeiriad neu gael swydd mewn ysgol arall, rhowch wybod i ni drwy ddefnyddio’r eicon mewngofnodi ar ben y tudalen hwn a chofrestru i gyrchu eich cofnod ar-lein. Bydd hyn yn eich cynorthwyo i gynnal cofnod cyfoes i chi.

Gallwch hefyd roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau drwy lenwi’r ffurflen newid manylion sydd ar gael yma (PDF 24k) a’i phostio atom gan ddefnyddio’r cyfeiriad ar y ffurflen, neu drwy gysylltu â’r Tîm Cymwysterau a Chofrestru’n uniongyrchol.

Cysylltiadau

Ar gyfer unrhyw fater yn ymwneud â chofrestru, cysylltwch â'r Tîm Cymwysterau a Chofrestru gan ddefnyddio unrhyw un o'r dulliau canlynol:-

  • Cyfeiriad - Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, 4 ydd Llawr, Tŷ Southgate, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW
  • Ffôn - 029 20550350