O 1af Medi 2012, bydd angen i unrhyw athro sy'n ceisio dychwelyd i'r proffesiwn addysgu yng Nghymru ar ôl seibiant o bum mlynedd neu fwy fodloni meini prawf "Dychwelyd i Addysgu" y Cyngor.
Yn ystod eu gyrfa, gallai llawer o athrawon cymwys ddewis peidio ag ymarfer fel athro am gyfnod estynedig. Gallai hyn ddigwydd am nifer o resymau, megis mynd ar drywydd swydd arall, ymgymryd ag astudiaeth bellach, teithio, cymryd absenoldeb rhiant neu ymgymryd â chyfrifoldebau gofalu.
Pan fydd athrawon yn ceisio dychwelyd i'r ystafell ddosbarth, mae'n bwysig eu bod yn ymbaratoi'n drylwyr a bod eu gwybodaeth a'u sgiliau'n gyfoes, nid yn unig er lles y disgyblion y byddant yn eu haddysgu ond hefyd er eu lles eu hunain.
Pan fydd yn gwneud cais i gofrestru gyda'r Cyngor, gofynnir i athro/athrawes sy'n dychwelyd lenwi rhan o'r ffurflen gais i gofrestru sy'n cadarnhau ei fod/ei bod wedi diweddaru ei wybodaeth/gwybodaeth a'i sgiliau cyn dychwelyd i addysgu. Mae'n rhaid i'r cyfnod "diweddaru" gynnwys o leiaf 10 diwrnod.
I gael manylion llawn ynghylch y cynllun Dychwelyd i Addysgu, cliciwch yma (PDF 30k). Cytunwyd ar y cynllun yn dilyn ymgynghoriad ag undebau athrawon, cyflogwyr ac eraill.